Symud ymlaen o'r llywio

Etholiad Cyfarwyddwr - Llewelyn Smith

Ymgeisydd dros Ddwyrain De Cymru

Cenedlaetholwr a Hanesydd Cymreig ydw i wedi fy lleoli yng Nghasnewydd ond yn aml yn teithio o gwmpas y wlad yn ceisio hyrwyddo YesCymru yn angerddol ac ein achos a hanes ein Cenedl hefyd fel Owain Glyndŵr, Y Siartwyr, Dewi Sant ac ati ac felly'n fodlon teithio.
Rwyf hefyd yn hyrwyddo ein hachos drwy chwaraeon gyda Rygbi yw fy Arbenigedd fel deiliad tocyn tymor y Dreigiau ac rwy’n ceisio mynd i gymaint o gemau Cymru ag y gallaf e.e.. yn y 6 Gwlad, Gemau Rhyngwladol yr Hydref ac ati.
Rwyf hefyd wedi bod yn hyrwyddo YesCymru y tu allan i’n cenedl hefyd megis Caeredin, yr Alban drwy ymuno â’u gorymdaith dros annibyniaeth a Truro, Cernyw am eu gorymdaith dros annibyniaeth, yn Llundain, Lloegr drwy chwifio baner YesCymru o flaen Palas Buckingham a San Steffan a thrwy chwifio fy baner YesCymru tra bant ar wyliau yn Cyprus hefyd.