Symud ymlaen o'r llywio

Llewelyn Smith - De Ddwyrain

Cenedlaetholwr a Hanesydd Cymreig ydw i wedi fy lleoli yng Nghasnewydd ond yn aml yn teithio o gwmpas y wlad yn ceisio hyrwyddo YesCymru yn angerddol ac mae'n achos a hanes ein Cenedl hefyd fel Owain Glyndwr, Y Siartwyr, Dewi Sant, Santes Dwynwen, ayyb ac felly yn fodlon i deithio. 

Rwyf hefyd yn hyrwyddo ein hachos drwy chwaraeon. Rygbi yw fy Arbenigedd fel deiliad tocyn tymor y Dreigiau ac rwy’n ceisio mynd i gymaint o gemau Cymru ag y gallaf e.e. yn y 6 Gwlad, Gemau Rhyngwladol yr Hydref ac ati. 

Bum yn gadeirydd YesCymru Casnewydd blaen ond rwyf wedi camu i’r adwy i redeg Baneri YesCymru, gan gasglu lluniau o nifer o’r digwyddiadau a drefnwyd gan YesCymru megis y Gorymdeithiau dros Annibyniaeth a’r Baneri ar Bontydd ac yn rhedeg Dudalen Facebook Baneri Yes Cymru a’r dudalen Twitter. 

Rwyf hefyd wedi bod yn hyrwyddo YesCymru yn yr Alban drwy ymuno â’u hymdaith dros annibyniaeth ac yn Truro, Cernyw; yn Llundain, Lloegr drwy chwifio baner YesCymru o flaen Palas Buckingham a San Steffan a thrwy chwifio fy baner YesCymru tra arf y ngwyliau yng Nghiprys a gogledd Iwerddon mewn sawl rhan o Belfast gan gynnwys o flaen Stormont. 

Hoffwn hyrwyddo Ymgyrch YesCymru drwy gynorthwyo gyda’r gwaith o drefnu Gorymdeithiau dros Annibyniaeth. Mewn rhannau eraill o Gymru nad ydym wedi  gorymdeithio drwyddo eto, ond sydd wedi chwarae rhan yn ein hanes, megis Casnewydd a hanes y  Siartwyr neu ym Machynlleth lle agorodd Owain Glyndwr ei Senedd gyntaf , Aberystwyth gyda'i Brifysgol a’I Castell gydag Owain Glyndwr, etc etc. 

Hefyd rwyf am chwilio am ffyrdd i gynyddu aelodaeth boed hynny drwy ddod ag aelodau newydd i mewn neu drwy berswadio'r rhai i adnewyddu aelodaeth YesCymru. 

Rwyf hefyd yn y 3 blynedd diwethaf wedi gwneud cyfeillion o fewn ein hachos yma yng Nghymru a hefyd yn y Cenhedloedd Celtaidd sydd yn ymgyrchu dros Annibyniaeth yn yr Alban, Cernyw a thros uno Iwerddon a thrwy wneud hynny rwyf wedi bod yn ceisio ymgynnull Cynghrair Geltaidd lle rydym hyd yma wedi bod yn helpu ein gilydd drwy fynychu Gorymdeithiau ein gilydd, gyda’r syniad rywbryd yn y dyfodol yr hoffwn drefnu Gorymdaith Geltaidd gyfan yn Llundain. Drwy Lundain i San Steffan o Balas Buckingham trwy Sgwâr Trafalgar a 10 Downing Street. Fel hyn gallwn leisio ein barn ar garreg drws Llywodraeth San Steffan a'r Frenhiniaeth. 

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.