Efallai bod hyn yn ymddangos yn chwerthinllyd ar yr olwg gyntaf. I lawer mae’r syniad y dylai Lloegr a San Steffan gymeradwyo gwaredu gweision mwyaf ffyddlon a hirhoedlog prosiect Prydain Fawr yn wirion.
Mae’n bryd cwestiynu’r grêd hon. Dyw’r ffaith bod rhywbeth yn hirhoedlog neu “wedi bod fel’n am byth’’ ddim yn ddigon o reswm i dybio taw dyma'r ffordd orau i gamu ymlaen i’r dyfodol, yn enwedig o ystyried nad yw’r sylfeini yr adeiladwyd yr Undeb arnynt bellach yn rhai dilys. Erbyn heddiw mae Prydain Fawr yn bell o fod yn rym rhyngwladol nac yn genedl gyfoethog fel y bu ar hyd y canrifoedd a fu.
Mae’r dirywiad hwn yn amlwg wrth i’r DU lithro lawr rhestr o wledydd cyfoethog y Byd, ei bloedd ymerodrol bellach yn wichiad, a braidd i’w chlywed ar y llwyfan ryngwaldol.
Y dirywiad a’r trawsffurfiad wedi ei amlygu a’i ddiffinio yn ein hanes gan farwolaeth ei theyrn mwyaf hirhoedlog, Elizabeth II. Cychwynodd ei theyrnasiad yn nghysgod yr Ail Ryfel Byd, ar ddechrau llethr adfeiliad araf yr Ymerodraeth, a bu ei ddiwedd yn yr Oes newydd Ddigidol.
Mae’n ddirywiad sy’n amlwg yn ein bywydau bob dydd wrth i fwy a mwy o weithwyr proffesiynol, diwyd gael anhawster i gadw dau ben llinyn ynghyd mewn gwlad lle bo incwm defnyddiadwy y pen prin wedi cynyddu dros 15 mlynedd. Ffaith sydd ynddi ei hunan yn chwalu y dybiaeth digwestiwn, taw Undeb llesol sydd ohoni a’i bod yn gwella amodau byw pawb. Mae’r Undeb yn fethiant i Loegr, Yr Alban a Chymru a bydd ei ddiwedd yn fuddiol i bawb.
Nawr yw’r amser i ail-greu. Nawr yw’r amser i ofyn i’n hunain pam dylen ni aros yn yr Undeb? Ydy e’n gweithio o blaid ein buddiannau ni, a sut? Onid chwalu gweddillion Ymerodraeth dadfeiliedig yw’r ffordd orau o adfywio gobeithion ac adeiladu gwell strwythurau cenedlaethol sydd yn elwa pawb?
Er mwyn i Loegr ffynnu dylid rhyddhau Cymru a’r Alban, gyda chymorth hael i‘w helpu ar eu ffordd, fel bod y tair cenedl yn gallu tyfu a chreu llewyrch mewn partneriaeth gyda’i gilydd. Ynys ffynniannus ar gyrion Ewrop, gyda diwylliant bywiog, dyfeisgar a chreadigol – yn creu cyfoeth i’w thrigolion oll yn llu tra’n ychwanegu at amrywiaeth diwylliannol y Byd.
Heb os nac onibai, bydd Prydain yn dal yn bodoli, yn yr un modd ag yr oedd hi’n bodoli ganrifoedd yn ôl cyn iddi esblygu yn un endid gwleidyddol. Gadewch i hanes gwblhau’r cylch ac addasu Prydain i oes cyfathrebu a chysylltiadau byd-eang.
Crëewyd yr Undeb i fanteisio ar oes sydd nawr yn perthyn i’r gorffennol. Mae’n bryd i ni waredu’r Undeb ei hunan i’w briod le yn ein llyfrau hanes. Gadewch i Loegr fod yn ran adeiladol a gweithgar o’r newid hwn. Mewn partneriaeth, yn hytrach nag Undeb, gall Cymru, yr Alban a Lloegr greu Prydain fodern, ddyfeisgar, ryngwladol. Yn cyflwyno llawer mwy na buasai rhywun yn disgwyl o ystyried eu maint yn y byd cyfoes, trwy fod yn wahanol ac ar wahân ond wedi cysylltu a’i gilydd yn ddaearyddol a thrwy ganrifoedd o hanes a diwylliant cyffredin.
Blog Bendigeidfran