Symud ymlaen o'r llywio

Gorymdaith dros annibyniaeth - Diolch

Diolch i bawb ddaeth i'r Orymdaith dros Annibyniaeth yn Wrecsam dydd Sadwrn! Roedd yr orymdaith yn rhan o
benwythnos llawn o weithgareddau a drefnwyd gan AUOBCymru mewn partneriaeth ag IndyFest Wrecsam
ac YesCymru.


Yn ogystal â gorymdeithio o amgylch canol Wrecsam, bu'r dorf yn gwrando ar siaradwyr yn Llwyn Isaf, a
chael eu diddanu gan gerddorion mewn gwahanol leoliadau. 


Meddai Dafydd Iwan, a oedd yn ei ddull arferol yn cyffroi’r dorf gyda datganiad angerddol o Yma o Hyd:
“Mae ysbryd newydd ar gerdded trwy Gymru, a’r teimlad yn cynyddu y gallwn ni wneud yn well dros bobol
Cymru wrth reoli ein hunain. Dyna yw ystyr Annibyniaeth, nid torri i ffwrdd, ond ymuno a’r holl wledydd eraill
sy’n rheoli eu hunain. Mae Cymru yn dechrau credu ynddi ei hunan, a does dim all ein rhwystro bellach.”


Hon oedd y bedwaredd orymdaith mewn cyfres o Orymdeithiau dros Annibyniaeth, a’r gyntaf ers llacio
cyfyngiadau Covid. Cynhaliwyd y tair gorymdaith flaenorol yn 2019 yng Nghaerdydd, Caernarfon a Merthyr.


Roedd y darlledwr a’r digrifwr Tudur Owen yn un o’r siaradwyr oedd yn galw am Gymru annibynnol yng
nghanolfan ddinesig Wrecsam.

Dywedodd: “Mae’r achos dros annibyniaeth wedi’i wneud. Rydyn ni nawr angen cefnogaeth pobl Cymru a dyna ein her
nesaf.”

(Llun gan Jason Edwards)

Yn ogystal â Dafydd Iwan a Tudur Owen, roedd y rhai a gymerodd ran yn cynnwys yr Archdderwydd
presennol, Myrddin ap Dafydd, Cynghorydd Sir Plaid Cymru Wrecsam Carrie Harper, y bardd lleol Evrah
Rose, Pol Wong o Indyfest Wrecsam, cyd-gadeirydd Llafur dros Annibyniaeth Dylan Lewis- Rowlands a
llysgennad pêl-droed 'Her Game Too' Roopa Vyas.

(Llun gan Jason Edwards)


Roedd yna hefyd neges fideo arbennig gan Lywydd Sinn Féin Mary Lou McDonald a ddywedodd:
“Rwy’n dymuno pob llwyddiant i chi gyda’ch gorymdaith heddiw… bydd gennych chi ffrindiau yma yn
Iwerddon bob amser. Yn fwy na dim, dymunaf ddyfodol sy’n cyd-fynd â gobeithion a dyheadau’r Cymry.”


Dywedodd preswylydd lleol ac un o drefnwyr yr Orymdaith dros Annibyniaeth, Kieran Thomas:
“Roedden ni mor siomedig pan amharodd Covid ar ein cynlluniau 2 flynedd yn ôl, ond rydyn ni wrth ein bodd
bod pobl yn credu mor gryf yn yr achos fel eu bod wedi teithio o bob rhan o Gymru i gyrraedd yma heddiw.
Mae pobl eisiau Cymru well a gallant weld nad yw'r wladwriaeth Brydeinig aneffeithiol yn mynd i'w darparu.
Mae’r orymdaith hon wedi bod yn hwb economaidd mawr i Wrecsam ac mae’r misoedd o waith caled wedi
talu ar ei ganfed.”


Bydd yr orymdaith nesaf dros Annibyniaeth yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 1 Hydref.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.