Symud ymlaen o'r llywio

Maria Pritchard - Gogledd

Fy enw i yw Maria Pritchard ac rwy'n dod o  Ynys Môn ac yn byw yno ar hyn o bryd. 

Rwyf wedi bod yn gefnogwr annibyniaeth i Gymru ers y cofiaf, ond ni chefais fy nghyflwyno i YesCymru tan 2018, tra ar y ffordd i gêm Cynghrair y Cenhedloedd yng Nghaerdydd! 

 Rwyf bob amser wedi teimlo bod Cymru’n cael bargen wael gan San Steffan, yn cael ei hecsbloetio am ei hadnoddau, tra nad yw’r wlad yn cael fawr ddim budd. 

 Dro ar ôl tro, dangosir nad ydym fawr mwy nag ôl-ystyriaeth i San Steffan. 

O ran y sgiliau y teimlaf y gallaf eu cyflwyno i'r Bwrdd, mae gennyf radd yn y Gyfraith, felly teimlaf y gall y wybodaeth a enillir roi trosolwg strategol i mi o'r cyfansoddiad a'i gymhwysiad. 

Ers mis Mai 2022, rwyf hefyd wedi bod yn brif awdur ar gyfer colofnau wythnosol YesCymru a gyhoeddir yn y Pembrokeshire Herald. 

Bwriad y golofn yw cael mwy o bobl y rhanbarth i feddwl am annibyniaeth. 

Mae'r golofn yn cynnwys dadansoddi data ac ymchwil i gyflwyno achos cymhellol dros annibyniaeth. 

Mae’r golofn wedi cynnwys astudiaethau nodedig gan yr Athro John Doyle, er enghraifft, a ddaeth i’r casgliad ym mis Hydref 2022, y byddai diffyg Cymru annibynnol yn llawer is na’r £13bn a ddyfynnwyd yn aml gan Lywodraeth y DU. 

Rwy’n teimlo y gallai fy sgiliau ymchwil a dadansoddi data fod yn ddefnyddiol i’m rôl fel aelod o Fwrdd YesCymru. 

Er enghraifft, hoffwn weld YesCymru yn datblygu strategaeth hirdymor i sefydlu sut y gall ymgysylltu â chymunedau yn ein rhanbarthau mwyaf poblog, y rhai sy’n debygol o bennu canlyniad refferendwm. 

Gyda'r polau piniwn wedi cyrraedd uchafbwyntiau o tua 36% yn ddiweddar a'r Comisiwn Cyfansoddiadol yn datgan bod annibyniaeth YN opsiwn dichonadwy, credaf mai nawr yw'r cyfle i gydio yn y danadl. 

Mae’n hanfodol ein bod i gyd yn gweithio mewn undod, nid yn unig er mwyn y mudiad, ond er lles pawb ohonom er mwyn hybu Cymru annibynnol. 

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.