Ymgeisydd Dwyrain De Cymru
Helo bawb,
diolch am gymryd yr amser i ddarllen, Rwy'n angerddol iawn dros gael annibyniaeth i Gymru, rwy'n meddwl am y sut a'r pam, mae hyn yn rhoi y syniadau yr wyf yn hoffi eu hyrwyddo ar fy nhudalen Facebook a phroffil twitter i mi, sef Cymru sy’n rhydd yn ariannol.
Rwyf wedi rhedeg sawl busnes sydd wedi fy nghynnal i ar fy ngweithwyr, rwyf hefyd wedi buddsoddi mewn cwmnïau ar y gyfnewidfa stoc, rwy’n angerddol am ddysgu am arian, rwy'n hoffi deall sut mae cyllid yn effeithio ar bopeth ac rwy'n ei barchu fel maes astudio!
Astudiais Farchnata hefyd, mae gen i syniad cadarn o seicoleg pobl a sut i ddehongli eu hanghenion a'r hyn sydd angen iddynt ei ddeall er mwyn prynu, bydd hyn yn helpu i ddeall y dadleuon dros annibyniaeth!
Dylai Grwpiau YesCymru fod yn cydweithio ac yn lledu’r un neges, wrth siarad â phobl ar y strydoedd, byddwch yn teimlo’n hyderus am yr hyn yr ydych yn ei ddweud ac wrth hybu annibyniaeth, ni ddylech deimlo nad oes gennych ateb neu glust barod i wrando ar bryderon pobl!
Nos YC yw helpu'r Grwpiau i gael y wybodaeth hon, rwy'n gobeithio dod â'r syniadau hyn i'r grwpiau a chraidd mudiad YC!
Cysylltedd Gwleidyddol: Cynghorydd i Blaid Cymru