Yma yng Nghymru mae gennym y ddawn o fod yn elynion gwaethaf i ni ein hunain. Rydym wedi bod yn feistri ar wrthdaro cyd-ddinistriol ers tro, o feirniadu ein gilydd ac o wleidyddiaeth cenfigen pan fydd rhywun yn llwyddo'n lleol.
Gallwn ddadlau bod hyn yn ganlyniad i oruchafiaeth ein cymdogion. Mae herio'r person cryfaf ar y maes chwarae yn rhy galed ac nid oes gennym yr hyder i wrthdaro a herio mwyach. Mae'n anochel y bydd canrifoedd o ormes diwylliannol a thra-arglwyddiaeth economaidd yn eich gorthrymu ac yn effeithio ar bob agwedd ar fywydau pobl, yn unigol ac ar y cyd, mewn llu o ffyrdd anweledig a heb eu gwireddu.
Does dim angen i neb rannu a gorchfygu yng Nghymru gan y gwnawn hynny i ni ein hunain...
Mae hyn yn mynegi ei hun fel anallu i ddod at ei gilydd a sefyll ysgwydd wrth ysgwydd hyd yn oed ar faterion lle mae cytundeb eang. Mae'n ein gwneud yn ôl tueddfryd polareiddio a phleidioli I filwriaethu yn erbyn ffrynt unedig, mae'n ein hatal rhag gwneud cynnydd a'n dal yn ôl. Dyma'r ffordd hawdd i feio ein hunain a'n gilydd, i wneud esgusodion yn seiliedig ar ein hanes, er mwyn osgoi cyfrifoldeb am ein gweithredoedd ein hunain trwy rymuso ein hunain.
Nid yw hyn yn ddigon da. Nid yw'r esgusodion hyn yn ddim mwy nag ymdrech i adeiladu rhywbeth heb seiliau cadarn. Mae’n amser i osod pethau plentynnaidd o'r neilltu a gweithio am lwyddiant, gyda hyder ac aeddfedrwydd.
Rydyn ni wedi gweld microcosm o'r ffolineb hwn o fewn y mudiad annibyniaeth yn ddiweddar, gyda nifer fach o sefydliadau'n gwrthwynebu cynnwys pleidiau adain dde o blaid annibyniaeth yng nghynhadledd Yes Cymru a gynhaliwyd ym mis Mehefin. Un o'r pleidiau euog dan sylw yw grŵp ymgyrchu ar un mater gwleidyddol enwol sydd ag aelodau sy’n gwyro tua’r dde yn ei rhengoedd, a’r cwestiwn yw beth mae'n ei ddweud wrth yr aelodau hyn?
Mae allosod y data pleidleisio presennol yng Nghymru yn awgrymu bod hyd at filiwn o bobl bellach o blaid Annibyniaeth.
Mae ystumio dibwrpas ychydig ddwsin o unigolion anwybodus yn ddibwrpas pan ddaw'r amser i'r mudiad Annibyniaeth yng Nghymru i ledaenu. Mae'n rhaid i ni genhadu ar hyd a lled Cymru. Rhaid i ni fod â'r uchelgais o ddod â 60%, 70% o'r boblogaeth i gredu yng nghryfder, hyfywedd a llwyddiant Cymru fel cenedl ddemocrataidd Annibynnol ar y llwyfan byd-eang.
Nid ydych yn gwneud hyn trwy roi eich ffidil eich hun yn y to, neu geisio troi cefn ar eraill oherwydd nad oedd eu gwleidyddiaeth yn apelio. Mae Yes Cymru yn sefydliad ymbarél sy'n croesawu pob cefnogwr annibyniaeth - waeth beth fo'u lliw gwleidyddol neu eu diffyg diddordeb mewn gwleidyddiaeth.
Dim mwy o hyn. Mae'n amser aeddfedu. Amser i fod yn gadarnhaol. Dim mwy o grafu pen a siarad â ni ein hunain mewn cylch bach o ddweud ‘na’ a mynegi math o hunan addoliad.
Rhaid i ni fynd i'r afael â'r miliynau yng Nghymru a fydd yn penderfynu dyfodol ein cenedl. Nhw fydd yn mynd â ni at Annibyniaeth ac, ar ôl cyrraedd yno, nhw fydd yn penderfynu pa siâp y mae Annibyniaeth yn ei gymryd. Yn sicr, ni fydd yn ychydig ddwsin o unigolion dogmatig, naïf a chul eu meddwl gyda grwgnach a chred hunangyfiawn haearnaidd mai eu ffordd nhw yw'r unig ffordd.
Byddwch yn ddigon dewr a llawn hunan ymroddiad . Mynegwch y dewrder hwnnw trwy fod yn barod ac yn ewyllysgar i ddarbwyllo trwy ddadl a mynegi barn mewn fforwm agored, cyhoeddus.
Mae'n rhaid i ni ofyn i ni'n hunain a yw'n bwysicach ymosod ar grwpiau eraill sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth Cymru neu ymgyrchu dros annibyniaeth mewn gwirionedd. Mae'n amser i ymuno â’r frwydr neu gymryd cam o’r neilltu.
Ysgrifennwyd gan Brif Swyddog Gweithredol YesCymru, Gwern Gwynfil. Cyhoeddwyd fersiwn arall o'r erthygl hon gan Nation Cymru ar 8 Mehefin 2023.