Symud ymlaen o'r llywio

Canllawiau Sylfaenol Cymru Annibynnol

Pan fyddwn yn ifanc, mae'n haws i ni fod yn uchelgeisiol, bod yn ddewr a bod yn hyderus yn yr amcan o ddyfodol disglair a gobeithiol. Mae'n hawdd cydnabod felly bod rhaid i ni newid pethau’n sylfaenol er mwyn cyflawni hyn.

Mae’n hawdd gweld bod y byd wedi newid yn ddramatig wrth i ni symud o oes ddiwydiannol i oes ddigidol wrth gyfathrebu a hynny ar raddfa fyd-eang.

Mae arolygon barn diweddar yn adlewyrchu hyn, gan ddangos mwyafrif cynyddol a chyson o blaid annibyniaeth ymhlith pobl ifanc 18-34 oed yng Nghymru.

Nid yw pob pol piniwn yn gyfredol gyda'r rhai 16-18 oed sydd newydd gael eu rhyddfreinio yng Nghymru.

Efallai bod rhai ymhlith y cenedlaethau hŷn yn cael eu trechu gan sinigiaeth, difaterwch ac ofn. Mae'r data'n dangos yn hynod mai'r rhai 45-54 oed sy'n lleiaf tebygol o gefnogi annibyniaeth. 

Wrth gwrs, mae'r rhai dros 65 oed hefyd yn llai tebygol o gefnogi annibyniaeth. Byddant wedi byw ar adeg pan oedd y DU yn fwy caeth, pan oedd ymdeimlad o gydweithio a chydsynio a hynny pan oedd ysbryd o hybu'r drwgdeimlad yn erbyn yr Undeb Sofietaidd yn bodoli, ac yn wlad gymharol gyfoethog a dylanwadol o hyd.

Mae newid yn frawychus pan fydd rhaid ystyried agwedd anghynefin megis technoleg newydd, agweddau cymdeithasol newydd, brwdfrydedd newydd dros newid sylfaenol fel y gellir adeiladu dyfodol mwy disglair am genedlaethau i ddod.

Mae'r DU yn gyffredinol yn dirywio, gan ddod yn dlotach yn gyffredinol o'i gymharu â gweddill y byd. Mae rhai o'r ffigyrau'n syfrdanol - mae saith o'r deg rhanbarth tlotaf yn Ewrop yn y DU; y DU sydd â'r bwlch cyfoeth mwyaf yn Ewrop; mae ansawdd bywyd wedi gostwng; mae gormod o bobl mewn tlodi bwyd a lefel gwbl annerbyniol o amddifadedd i'n plant.

Efallai bod y DU yn dal i fod yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd o hyd, ond nid dyma'r realaeth byw i bawb ond I’r lleiafrif breintiedig.

Mae’n amser i fwy o'r cenedlaethau canol oed a hŷn gymryd sylw o'r doethineb diarwybod a roddwyd gan ieuenctid heddiw. I'r rhai sydd eisoes yn cefnogi annibyniaeth, yr her yw agor llygaid eu cyfoedion sy'n aros yn ddall i'r cyfleoedd, y bywiogrwydd a'r adnewyddiad a ddaw yn ei sgil.

Rhaid i ni agor ein meddyliau, perswadio eraill i agor eu meddyliau hwythau, a dod â Chymru annibynnol hyderus, dewr ac uchelgeisiol yn fyw. Rhaid cael Cymru deg a sy’n trin pawb yn gyfartal, sy'n rheoli ei hadnoddau ei hun a chenedl ddemocrataidd sy'n edrych tuag allan, yn gyfoethog yn ddiwylliannol, yn economaidd fywiog, a bodlon.

Gadewch i ni adael ein hôl mewn hanes fel y cenedlaethau a ryddhaodd blant Cymru yn y dyfodol i fyw ar eu telerau eu hunain, yn falch, fel dinasyddion eu cenedl eu hunain.

Ers 1944, ac annibyniaeth Gwlad yr Iâ, mae pymtheg gwlad Ewropeaidd arall wedi adfer eu sofraniaeth. Ein tro ni nawr.

Yn wahanol i'r Alban, nid ydym wedi clymu ein ymrwymiad dros annibyniaeth i weledigaeth neu blaid wleidyddol benodol. Rydym yn rhydd i ddod at ein gilydd fel cenedl a'i gwneud yn glir ein bod yn barod i gymryd rheolaeth o'n materion ein hunain yn ôl, i osod ein blaenoriaethau ein hunain, i ofalu am ein plant ein hunain, i greu a chyflawni ein gweledigaeth ein hunain o'r hyn yr ydym am i Gymru fod.

Mae'r gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru wedi tyfu'n anhygoel dros y degawd diwethaf. Yn ogystal â chael cefnogaeth o 36% i annibyniaeth, mae 31% arall yn nodi y byddent yn fwy tebygol neu'n sylweddol fwy tebygol o gefnogi annibyniaeth Cymru pe bai'r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth.

Ond pam aros? 

Cymerwyd yr holl ddata pleidleisio o Redfield & Wilton 14-16 Gorffennaf 2023

Ysgrifennwyd gan Brif Swyddog Gweithredol YesCymru, Gwern Gwynfil. Cyhoeddwyd fersiwn arall o'r erthygl hon gan Nation Cymru ar  Gorffennaf 20fed, 2023. 

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.