Ym mis Mawrth, adroddodd un o'n cyfranwyr, ar "Ladrad Trên Cymru Fawr" sef datblygiad HS2.
O ystyried y ffaith bod prosiect rheilffordd cyflym HS2 wedi derbyn honiadau di-ildio o ddiffyg gwerth am arian a gorwario ers ei sefydlu, nid yw'n syndod bod y prosiect wedi cyrraedd penawdau'r DU unwaith eto.
Wedi’i ddisgrifio fel "prosiect isadeiledd mwyaf yn Ewrop", a'r "prosiect adfywio economaidd a chymdeithasol pwysicaf ers degawdau", honnir y bydd prosiect rheilffordd HS2 yn "integreiddio â llinellau ac uwchraddiadau newydd ar draws system reilffyrdd Prydain i sicrhau teithio cyflymach i lawer o drefi a dinasoedd”, yn ôl y wefan.
Fodd bynnag, er bod disgwyl i'r gwariant a ragwelir ar gyfer HS2 fod oddeutu £72 a £98 biliwn yn ôl prisiau 2019 (eisoes cynnydd o 29% - 75% ar ragolygon 2015), mae'r bil wedi cynyddu oherwydd chwyddiant a chost deunyddiau. Mae'r costau cynyddol wedi arwain at ddileu cysylltiad â Leeds ac mae'r prosiect ar ei hôl hi: mae eisoes rhaglen adeiladu dau ddegawd i gwblhau'r rhwydwaith rheilffyrdd i Fanceinion.
Mae map isadeiledd HS2 yn cynnwys Euston Llundain, Birmingham Curzon Street, East Midlands Parkway, Crewe, Manceinion Piccadilly a Maes Awyr Manceinion. Honnir y bydd ardaloedd eraill nad ydynt yn uniongyrchol ar rwydwaith HS2 fel Lerpwl, Glasgow, Sheffield a Leeds hefyd yn elwa o "gysylltedd gwell" o ganlyniad i'r prosiect cyflym.
Yn ogystal ag addo gwell cysylltedd (sylwch sut nad oedd Caerdydd nag Abertawe wedi'u rhestru), mae HS2 yn addo y bydd pob trên yn cael ei bweru gan ynni di-garbon ac y bydd y prosiect yn galluogi lle ar y rhwydwaith presennol ar gyfer gwasanaethau mwy lleol, rhanbarthol a chludo nwyddau, gan fod o fudd i gymudwyr â threnau mwy rheolaidd.
Er ei bod yn bwysig nodi y dywedir bod y prosiect yn cefnogi 28,500 o swyddi ac wedi creu 1,200 o brentisiaethau hyd yma, nid yw Cymru yn mynd i gael unrhyw fudd o'r prosiect - er gwaetha'r ffaith ein bod yn gwneud cyfraniad ariannol sylweddol tuag at y prosiect; hyd at £5 biliwn.
Yn wir, ni fydd un metr o drac yn cael ei osod yng Nghymru ac yn frawychus, yn ôl amcangyfrif yr Adran Drafnidiaeth, gallai prosiect HS2 hyd yn oed effeithio'n negyddol ar economi Cymru hyd at £200 miliwn y flwyddyn.
Mae galwadau i ail-ddisgrifio HS2 fel prosiect "Lloegr yn unig", yn hytrach na phrosiect "Cymru a Lloegr" wedi disgyn yn rhagweladwy, ar glustiau byddar ac mae'r dosbarthiad yn golygu y bydd Cymru yn colli swm sylweddol Barnett sy’n ddyledus Inni oherwydd hynny - yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon. "Partner cyfartal" o fewn yr Undeb wir!
Dychmygwch ein syndod (neu ddiffyg hynny) pan ddatgelwyd yr wythnos diwethaf bod Llywodraeth y DU wedi tanysgrifio gwerth £680 miliwn o fuddsoddiad ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd trydan cyflym newydd yn Nhwrci!
Nid nad ydym yn cefnogi trydaneiddio rheilffyrdd ym mhobman i sicrhau teithio cyflym ar y rheilffyrdd, fodd bynnag, os mai nod Llywodraeth y DU yw cefnogi moderneiddio'r rheilffyrdd yn Lloegr a thramor -rhaid yw gofyn y cwestiwn, pam nad yw'n cefnogi gwneud hynny yma yng Nghymru?
Dim ond 2% o reilffyrdd Cymru sy'n cael eu trydaneiddio o'i gymharu â 41% a 25% o reilffyrdd Lloegr a'r Alban. Yn fwy na hynny, er bod Cymru yn meddiannu 11% o draciau rheilffyrdd y DU, dim ond gwerth 2% o fuddsoddiad rheilffyrdd y DU yr ydym wedi'i dderbyn ers dechrau datganoli.
Dyma dystiolaeth amlwg mai ni yw'r rhan ddibwys yn yr Undeb hon. Byddai annibyniaeth yn rhoi'r pwerau gwariant, benthyca a threthu i ni sydd eu hangen mor daer i fuddsoddi yn ein gwasanaethau a'n isadeileddau hanfodol.