Symud ymlaen o'r llywio

Nabod Blaenau - Am Benwythnos!

Sôn am benwythnos a hanner! Ar ddiwedd Medi daeth cefnogwyr yr ymgyrch annibyniaeth o bell ac agos i ŵyl Nabod Cymru a drefnwyd gan YesCymru Bro Ffestiniog.

Digwyddiad agoriadol y penwythnos, oedd noson yn rhan o gyfres poblogaidd 'Caban', y tro hwn yn CellB Blaenau Ffestiniog, er mwyn sicrhau lle i’r gynulleidfa fwy.

Daeth nifer o gefnogwyr o Ferthyr Tudful, eraill o Gaernarfon (sydd wedi eu hysbrydoli i gynnal penwythnos eu hunain yn y dyfodol!), eraill o Ddinbych, Sir y Fflint a llawer man arall, yn ogystal ag aelodau a chefnogwyr lleol i lenwi ystafell fawr yr hen lys ynadon, fwynhau gwledd o ganu arbennig a chyflwyniadau teimladwy i bob cân gan Gai Toms, a sgwrs ddifyr ac angerddol iawn gan ein haelod seneddol Liz Saville Roberts. Roedd criw Pizza Stiniog, a’r cwmni crempogau Llydewig lleol Cwt Carlwm yno i fwydo’r criw brwdfrydig. Ar ddiwedd ail set Gai, a’r gynulleidfa’n morio canu efo fo, cafwyd canu mwy anffurfiol yn y bar, a symud i orffen y nos efo cyd-ganu gwych yn y Meirion, dan arweiniad y canwr gwerin Gwilym Bowen Rhys.

Er fod ambell un yn hwyr yn noswylio, daeth criw da at ei gilydd drannoeth i fwynhau brecwas hamddenol braf yng Nghaffi Mari fore Sadwrn, a manteisio ar ei chynnig caredig o 10% i ffwrdd i gefnogwyr annibyniaeth! O fanno, rhannodd y criw yn ddau: rhai yn cerdded efo Dafydd Roberts i Gwmorthin a chael hanes y cwm a manylion gwaith Cymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog yn cloddio a chynnal gwaith cadwraeth ar rhai o’r adeiladau yno. Taith y mentrau cymunedol oedd gan yr hanner arall, dan ofal Ceri Cunnington, yn ymweld â rhai o safleoedd Antur Stiniog, Y Dref Werdd a Chwmni Bro Ffestiniog.

Cafwyd sgwrs agos atoch rhwng Delyth Gray a Dewi Prysor am waith creadigol y nofelydd lleol yn Siop Lyfrau’r Hen Bost, a’r gynulleidfa’n cael cyfrannu at y trafod dros baned a chacen gri wedyn. A symud o fanno wedyn i Dŷ Coffi Antur Stiniog am drafodaeth gonest a brwd am ddyfodol Cymru a be fyddai annibyniaeth yn ei olygu i ni fel cenedl. Ar y panel oedd y cynghorydd sir prysur Elfed Wyn ap Elwyn, ein haelod yn Senedd Cymru Mabon ap Gwynfor, Gaynor Jones ar ran Yes Cymru, a Colin Nosworthy yn cynrychioli Melin Drafod, y think-tank annibyniaeth. Cadi Dafydd oedd yn eu holi ar ran Golwg360.

I gloi’r penwythnos ymunodd pawb efo’r grŵp offerynol Acordions Dros Annibyniaeth am noson o ganu hwyliog yn y Pengwern. Roedd y dafarn yn orlawn a phawb yn canu’i hochr hi. Achlysur arbennig i gloi penwythnos gofiadwy i bawb.

Diolch o galon i bawb a gydweithiodd i greu penwythnos anhygoel ac i bawb ddaeth i gefnogi!

Addasiad o ddarn a ysgrifenwyd ar gyfer Llafar Bro - Papur Bro Cylch Stiniog.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.