Daeth tua 8,000 o bobl i Aberystwyth hedd0w (dydd Sadwrn 26 Medi) ar gyfer yr unfed Orymdaith Annibyniaeth ar ddeg, wrth i Brif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, annerch rali yng Ngerddi’r Castell.

Teithiodd cefnogwyr o bob rhan o Gymru i’r Orymdaith Annibyniaeth gyntaf i gael ei chynnal yn Aberystwyth a’r gyntaf yn y Canolbarth.
Gadawodd yr orymdaith, a drefnwyd gan YesCymru ac AUOBCymru, Erddi’r Castell am 1pm cyn mynd drwy ganol Aberystwyth ac ar hyd y promenâd, gyda miloedd o faneri Cymru, baneri ymgyrchu a phlacardiau yn llenwi’r strydoedd.
Dychwelodd y gorymdeithwyr i Erddi’r Castell ar gyfer rali yn y prynhawn gyda lleisiau gwleidyddol, diwylliannol ac ymgyrchu o bob rhan o Gymru.
Annerchodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth AS, y dorf, wedi iddo siarad yn flaenorol yng Ngorymdaith Annibyniaeth Bangor yn 2023 fel Arweinydd Plaid Cymru.
Wrth siarad yn y rali, dywedodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth:
“Rydym ar daith, ac nid oes modd troi’n ôl. Rhaid i’r cam nesaf fod yn gydraddoldeb â’r Alban, o leiaf. Safwn dros Gymru, gan geisio’r buddsoddiad a’r grymoedd mwy sydd eu hangen arnom gan San Steffan nawr, er mwyn i ni allu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl fel cam nesaf ein taith gyfansoddiadol.
“O dan un faner, rydym yn dathlu’r gred gynyddol yn ein potensial, a’r penderfyniad cynyddol i adeiladu Cymru newydd, fwy llewyrchus, decach a mwy hyderus.”

Ymunodd Elwyn Vaughan AS o Blaid Cymru, Linda Rogers o'r Blaid Werdd, Hywel Griffiths, enillydd Coron a Chadair yr Eisteddfod Genedlaethol, Bethany Davies, Cerys Hutin a Chadeirydd YesCymru, Rob Hughes, ag ef ar lwyfan y rali.
Siôn Jobbins o Aberystwyth, o Radio YesCymru, oedd yn arwain y rali, gyda cherddoriaeth fyw gan Dros Dro a Connemara. Roedd Samba Drwm, Bagad Bro Ystwyth, Clocswyr Seithennyn, Accordions Dros Annibyniaeth a Merched Beca ymhlith y bandiau a’r perfformwyr a ddaeth â cherddoriaeth a lliw i’r orymdaith.
Roedd yr orymdaith yn ganolbwynt penwythnos cyfan o ddigwyddiadau annibyniaeth yn Aberystwyth. Cynhaliwyd Marchnad Annibyniaeth drwy gydol dydd Sadwrn yng Ngerddi’r Castell, gyda mudiadau a grwpiau ymgyrchu o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan.
Cynhaliwyd rhaglen o ddigwyddiadau ymylol a cherddoriaeth fyw ledled y dref dros y penwythnos hefyd, gan ddechrau gyda pherfformiad gan Gwilym Bowen Rhys yn y Llew Du nos Wener. Yn dilyn yr orymdaith a’r rali ddydd Sadwrn, daeth cefnogwyr ynghyd ar gyfer sesiwn gerddoriaeth werin yn y Llew Du, trafodaeth arbennig ar ôl yr orymdaith ar The Civil Contract gyda’r awdur Martin Dennett yn Theatr Arad Goch, a gig gyda’r nos gan Dros Dro a Steff Bwca yn y Cwps.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn ystod cyfnod arwyddocaol yn y drafodaeth am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Yn y dyddiau cyn yr orymdaith, cefnogodd y Senedd yr egwyddor mai pobl Cymru ddylai benderfynu ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Yn gynharach ym mis Medi, llofnododd arweinwyr Plaid Cymru, yr SNP a Sinn Féin Femorandwm Caerdydd, gan gadarnhau hawl Cymru, yr Alban ac Iwerddon i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain.

Dywedodd Rob Hughes, Cadeirydd YesCymru:
“Mae’r Orymdaith dros Annibyniaeth yn Aberystwyth yn gyfle i ddod â phobl ynghyd o bob rhan o Gymru sy’n credu y dylai dyfodol ein gwlad, yn y bôn, gael ei benderfynu gan bobl Cymru.
“Mae cael y Prif Weinidog yn annerch yr Orymdaith dros Annibyniaeth yn foment bwysig, ond mae’r mudiad hwn bob amser wedi bod yn llawer mwy nag unrhyw un gwleidydd neu blaid wleidyddol. Mae’n rhaid adeiladu newid o’r gwaelod i fyny, mewn cymunedau ledled Cymru.
“Mae trafodaeth genedlaethol gynyddol am gamau nesaf Cymru. Ein tasg ni yw cadw annibyniaeth wrth galon y drafodaeth honno, adeiladu cefnogaeth fwyafrifol a sicrhau refferendwm ynglŷn ag annibyniaeth erbyn 2032. Mae’r orymdaith hon yn gam pwysig arall ar y daith honno.”
Gorymdaith Aberystwyth oedd yr unfed Orymdaith Annibyniaeth ar ddeg a drefnwyd gan YesCymru ac AUOBCymru ers yr orymdaith gyntaf yng Nghaerdydd yn 2019.
Daeth hefyd yn dilyn lansiad ymgyrch 2032 YesCymru ym mis Awst, sy’n anelu at adeiladu cefnogaeth fwyafrifol dros annibyniaeth a sicrhau refferendwm ar annibyniaeth erbyn 2032.