Symud ymlaen o'r llywio

Nerys Jenkins



Ymgeisydd y Canolbarth a'r Gorllewin

Rwyf wedi treulio’r 20 mlynedd diwethaf fel Rheolwr ym maes gwerthiant moduron, y 6 mlynedd diwethaf fel Uwch Reolwr. Rwy’n dod â chyfoeth o brofiad o fod wedi gweithio fy ffordd i fyny yn y maes hynod gystadleuol a chaled hwn, o lawr y siop i fy safle cyfredol.

Roedd rhan o fy addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, mynychais Ysgol Gymraeg Llanhari. Rwyf bellach yn y broses bleserus o adennill fy iaith.

Mae fy mhartner Lorraine yn llwyr gefnogi fy nghais. Rydym wedi bod gyda'n gilydd ers rhyw 21 mlynedd ac mewn Partneriaeth Sifil ers 2010. Ers pum mlynedd rydym yn warcheidwaid ar fy nith, Tigerlillie, e. Rydyn ni'n byw yn sir Pen-y-bont ar Ogwr gyda'n ci achub 10 oed Alfie.

Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael fy enwebu gan gyd-aelodau Yes Cymru i sefyll etholiad i fod yn Gyfarwyddwr dan y cyfansoddiad newydd yr wyf yn ei gefnogi.

Yr wyf yn gyfarwydd â saith egwyddor gwasanaeth cyhoeddus Nolan a byddaf bob amser yn cadw atynt. Bydd fy nghyfoedion yn dyst i fy ngonestrwydd ac rwyf bob amser wedi cyflawni fy nyletswyddau fel Uwch Reolwr gyda sgil, gofal ac yn ddiwyd.

Mewn perthynas â Rôl Cyfarwyddwr, mae gennyf brofiad penodol mewn rheoli pobl a newid, caffael a rheoli prosiectau.

Fel aelod Yes Cymru mae’n debyg y byddwch yn ymwybodol o’r llu o bobl sy’n dal i amau ​​hyfywedd Cymru fel cenedl annibynnol. ‘Rhy dlawd’ yw beth rwy'mn ei glywaf gan amlaf wrth sôn am Annibyniaeth Cymru.

Credaf mai gorchwyl Cyfarwyddwyr Yes Cymru yw addysgu a chodi ymwybyddiaeth o fforddiadwyedd Cymru fel cenedl Annibynnol, yn rhydd o lywodraethu a llygredd anghymwys San Steffan.

Mae angen i Yes Cymru ddod ag agwedd broffesiynol at gyflwyno dulliau bachog a chryno o godi ymwybyddiaeth, gan ddarbwyllo’r bobl sy’n byw yng Nghymru ein bod yn genedl hyfyw, sy’n gallu cymryd cyfrifoldeb am ein materion ein hunain. Bydd marchnata, defnydd rhagorol o'r cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau grwpiau yn ein cymunedau yn allweddol i hyn.

Mae aelodau Yes Cymru, yn eu hanfod, yn frwd ac yn bobl sy’n poeni’n fawr am y bygythiadau niferus sy’n ein hwynebu heddiw. Rwyf hefyd yn angerddol iawn am lawer o achosion ac anghyfiawnder yn ein cymdeithas heddiw ond mae’r anerchiad hwn yn ymwneud â’r bygythiad dirfodol yr ydym ni’n profi bob dydd i’n cenedl, ein diwylliant a’n hiaith. Mae mwy a mwy o gefnogaeth i annibyniaeth a nifer cynyddol o bobl sy'n chwilfrydig. Fy nymuniad yw harneisio a thyfu'r mynegiant twymgalon hwn.

Byddwn yn falch ac yn freintiedig o gael gweithio yn galed fel Cyfarwyddwr Yes Cymru i gyrraedd y nod hwn.

Diolch am gymryd yr amser i ddarllen fy natganiad.

Cysylltedd Gwleidyddol: Cyn-aelod Plaid Cymru