Symud ymlaen o'r llywio

Pol Pinwn Annibyniaeth Yn Dangos Cryfeder Cyson Cefnogaeth

35% o bobl Cymru yn awchu am annibyniaeth 

Mae pol piniwn heddiw gan Redfield & Wilton yn danogos cefnogaeth at annibyniaeth yn 35%. Pol heddiw yn amlygu’r tueddiad cadarnhaol clir tuag at rhifau cefnogaeth cyson tuag at annibyniaeth i Gymru. Gyda 49% o’r sawl sydd rhwng 35-44 yng Nghymru o blaid Cymru Rydd. Cefnogaeth yn yr oedran yma wedi tyfu yn gyson ar hyd y flwyddyn hyd yma. 

Mae unigolion yn nodi gwarth HS2, y diffyg rheolaeth dros adnoddau Cymru a’r iaith sarhaus cyson gan deyrnaswyr San Steffan fel rhai o’r niferoedd helaeth o resymau dros gefnogi annibyniaeth. 

Mae etholwyr wedi cael hen ddigon o hen wleidyddiaeth blinedig San Steffan a’r hen Undeb sȃl, methiedig. Mwy a mwy yn gweld annibyniaeth yn ddatrysiad i’r twll presennol lle bo Cymru ynghlwm i berthynas gwleidyddol anghyfartal ac annheg. 

Gan drafod y data pol piniwn newydd, dywedodd Gwern Gwynfil:

“Dyma ganlyniadau sydd unwaith eto yn dangos bod dros drean o bleidleiswyr Cymru wedi dod i’r casgliad bod y drefn sydd ohoni ddim yn gweithio, bod San Steffan ddim yn gweithio, bod y Deyrnas Unedig wedi torri. Wrth i gostau byw parhau i gynnyddu, wrth i San Steffan wadu biliynau i Gymru gyda triciau a chelwydd pan ddaw i HS2, gyda pleidiau San Steffan yn cefnu ar ein cymunedau - daw fwyfwy o bobl i sylweddoli mai annibyniaeth yw’r ffordd orau ymlaen. Mae’r Deyrnas Unedig yn Deyrnas annheg, mae’n Deyrnas sy’n dal Cymru a phobl Cymru yn ol, yn eu hatal rhag cyflawni eu potensial. Dyma undeb a’i chyfnod mewn hanes yn dirwyn i ben.’’ 

‘’Pam aros? Amser i adael a dechrau ar y gwaith o ymsefydlu dyfodol gwell, llewyrchus i’n hunain ac i’n plant.”

“Gall Cymru fod cymaint yn fwy nac ydym yn cael caniatad i fod fel rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae yn frith o wledydd o faint tebyg i Gymru sydd erbyn hyn yn fwy cyfoethog na ni, neu yn ein dal lan yn gyflym tu hwnt, y mwyafrif helaeth yn mwynhau safon bywyd uwch. Gwledydd fel Slofenia, Estonia, Croatia a llawer mwy, yn dangos y ffordd i ni, yn dangos yn glir y ffyrdd medrwn ffynnu fel gwlad rhydd ac annibynnol.”

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.