Ymgeisydd y Canolbarth a'r Gorllewin
A minnau wedi ymwneud â’r sin wleidyddol Gymreig dros y degawdau diwethaf, teimlaf fod gen i’r profiad a’r wybodaeth i gyfrannu’n gadarnhaol at y broses o ailstrwythuro ac ail-sefydlu Yes Cymru fel grym mawr yn nhirwedd gwleidyddol ein cenedl yn y dyfodol.
Rwy’n credu’n gryf bod cyfnod heriol o’n blaenau yn dilyn cyfnod anodd a thymhestlog. Oherwydd hyn mae llawer iawn o bobl ac aelodau YesCymru wedi cwestiynu a fyddai ein mudiad yn goroesi heb sôn am dyfu'n ôl ymysg sylfaen ei gefnogaeth. Am bod y mudiad wedi chwyddo mewn cyfnod mor fyr o amser mae'n debyg ei bod yn anochel y byddai rhai yn ceisio tanseilio a hyd yn oed ddinistrio ei fodolaeth. rhaid i bob un ohonom sy’n malio am ddyfodol ein cenedl dderbyn y gwirionedd hynn a gweithredu’n ddi-oed er mwyn adfer Yes Cymru i’w gryfder blaenorol a’i ehangu ymhellach i fod yn arweinydd yn ein brwydr am annibyniaeth.
gan nad oes lle yma i ymhelaethu ar yr hyn sydd wedi mynd o’i le, p’un ai a oedd unigolion a dreiddiodd i’r mudiad am resymau hunanol neu ag agendâu cul neu a oedd yn fwriadau mwy sinistr gan grwpiau ymylol i geisio a chymryd rheolaeth er eu budd ‘gwleidyddol’ eu hunain. beth bynnag fo'r ateb, fy nghred i yw y dylem a bod yn rhaid i ni ymrwymo o’r newydd i fod yn bencampwyr a fydd yn arwain ein cenedl at annibyniaeth.
wrth gloi byddaf yn ceisio ymhelaethu ar y rhesymau y credaf y gallaf fod yn rhan gadarnhaol yn y dyfodol. yn wleidyddol rwyf wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Rhanbarth (ac yn ddiweddarach fel Cynghorydd Sir) ar Gyngor Gwynedd am bron i 35 mlynedd. Ers ei ffurfio fel plaid wleidyddol yn 2008 rydw wedi bod yn arweinydd ar ‘Llais Gwynedd’ – mae ein polisi yn cynnwys cefnogi annibyniaeth ar ôl etholiadau’r cyngor ym mis Mai eleni byddai’n ildio fy sedd wedi i mi sefyll mewn ac ennill saith etholiad. Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i mi ganolbwyntio ar Yes Cymru a’r frwydr dros ryddid cenedlaethol.
Efallai y dylwn ychwanegu hefyd i mi ymwneud â gweithredu uniongyrchol cyn fy nghyfnod fel cynghorydd sir ac roeddwn ac yn un o'r tri a sefydlodd Mudiad Amddiffyn Cymru (MAC). yn nes ymlaen ynghyd ag Emyr Llywelyn a John Albert Jones, fe wnaethom ddifrodi’r gwaith ar yr afon a’r argae honno pan chwythwyd trawsffurfiwr, a dedfrydwyd Emyr a minnau i flwyddyn o garchar. yn ddiweddarach yn 1968 – 1969 roeddwn yn rhan o’r protestiadau gwrth-arwisgo ac yn ystod y cyfnod hwnnw cefais fy arestio, ond fe’m cafwyd yn ddieuog yn ddiweddarach ar sail amheuaeth gref i mi gael fy fframio.
Ar lefel mwy ‘heddychlon’, ysgrifennais am hanes Capel Celyn a Thryweryn yn Gymraeg; dan y teitl ‘Cysgod Tryweryn’. Yn ddiweddarach tua phum mlynedd yn ôl ysgrifennais Fy Hunangofiant ‘Tryweryn: A Nation Awakes’ yn syth bin crëwyd rhaglen ddogfen fer y llynedd, yn seiliedig ar fy llyfr, o dan y teitl ‘Y Cymro’. efallai i rai ohonoch ei weld mewn sinemâu bach ledled Cymru. Dyna ni, am wn i, o hefyd rwy'n ymwneud â rhedeg busnes teuluol bach yn y sector lletygarwch.
Cysylltedd Gwleidyddol
Cynghorydd i Llais Gwynedd