Ymgeisydd Dwyrain De Cymru
Aelod rhif 663 dw i, a dymunaf i chi dderbyn ac ystyried fy nghais i eistedd ar fwrdd cyfarwyddwyr newydd sbon YesCymru.
Ychydig am fy nghefndir i ddechrau; dw i’n enedigol o Droedyrhiw ger Merthyr Tudful ac, ar wahân i fy nghyfnod yn dilyn cyrsiau Celf a Chynllunio - yng Ngholeg Celf Caerfyrddin i ddechrau ac wedyn Southampton - ym Merthyr dw i wedi byw erioed.
O ran fy nhaith personol i gredu mewn annibyniaeth, dw i’n teimlo fy mod i wedi bod ar y trywydd yma ers yn blentyn yn y 70au, gydag inc posteri Plaid Cymru yn hongian yn yr awyr bron yn barhaol yn y tŷ wrth i ‘nhad ymgyrchu’n frwd iawn i newid lliw y cyngor lleol. Ond, er imi wastad bleidleisio dros Blaid Cymru ers troi’n oedolyn, siomedigaeth yw’r emosiwn dw i wedi’i deimlo mwya wrth i Blaid Cymru fethu a thorri'r tir sylweddol newydd oedd ei angen i brofi’r archwaeth am annibyniaeth.
Wedyn yn 2017, des i ar draws YesCymru. Ar ol darllen ei raison d'etre, dilyn eu hanturiaethau ar Facebook a Twitter, a gyda chefndir gwleidyddol o etholwyr yn cefnogi ’run partïon doed a ddel, des i i’r casgliad yn syth taw dyma beth oedd ei angen ar Gymru; mudiad amhleidiol i weithio’n drawsbleidiol. Ymunais i ac wedyn mynd ati i ffurfio Yes Merthyr Tudful.
Yn y misoedd i ddod, hoffwn i weld YesCymru wedi'i adfywio, ac yn;
- Ymgysylltu â, cadw a thyfu ei aelodaeth.
- Cynnal stondinau stryd cenedlaethol, ymgysylltu â phobl ledled Cymru, cyflwyno'r gwrth-ddadleuon yn bersonol i'r degawdau o 'rhy fach, rhy dlawd'
- Lansio ymgyrchoedd dychmygus, gan ddwyn San Steffan i gyfrif bob tro.
- Cynyddu lefelau nawdd chwaraeon cymunedol a grwpiau cymdeithasol.
Ailasesu'r lwfans blynyddol o £500 i ganghennau – mae mudiad llawr gwlad yn haeddu llawer gwell.
Cysylltedd Gwleidyddol: Aelod o Blaid Cymru