Symud ymlaen o'r llywio

Gorymdaith Annibyniaeth - Y RHYL

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i’r Orymdaith dros Annibyniaeth yn y Rhyl ar ddydd Sadwrn 18 Hydref 2025.

Fel arfer, bydd yn ddiwrnod addas i deuluoedd, yn llawn egni cadarnhaol, lliw a gobaith – felly peidiwch ag anghofio’ch baneri, placardiau, posteri a’ch chwibanau!

DYDDIAD: Dydd Sadwrn, Hydref 18, 2025
AMSER: 1pm - Gorymdaith yn cychwyn. (Cwrdd o 11am)
BLE: Arena Digwyddiadau'r Rhyl, LL18 3AF

Cliciwch yma i ddarllen pam y dewiswyd Y Rhyl fel lleoliad


LLWYBR YR ORYMDAITH / MAP

Arena Digwyddiadau'r Rhyl > Stryd Fawr > Stryd y Farchnad > Stryd y Frenhines > Stryd Sussex > Stryd y Dŵr > Arena Digwyddiadau'r Rhyl

  • Bydd y llwybr ar gau i draffig drwy gydol yr orymdaith.
  • Mae'n dilyn priffyrdd heb gyrbau ac mae'n hygyrch i gadeiriau olwyn a phramiau.
  • Mae seibiannau byr wedi'u cynllunio ar hyd y ffordd fel y gall pawb aros gyda'i gilydd.
  • Gwisgwch esgidiau cyfforddus a gwiriwch ragolygon y tywydd cyn cychwyn - boed law neu hindda, byddwn yn gorymdeithio!
  • Dewch â digon o ddŵr ac unrhyw beth arall y gallech fod ei angen ar y diwrnod.

RALI ANNIBYNIAETH - Yn Dilyn yr Orymdaith

Ar ôl yr orymdaith, cynhelir rali yn Arena Digwyddiadau'r Rhyl. Bydd llwyfan a sgrin fawr, areithiau, a cherddoriaeth fyw.

Siaradwyr:

  • Tara Bethan (Cantores-gyfansoddwraig)
  • Llyr Gruffydd MS (Plaid Cymru)
  • Lesley Riddoch (Ymgyrchydd Annibyniaeth o'r Alban)
  • Philip Davies (Plaid Werdd Cymru)

Adloniant:

  • TewTewTennau
  • Jacob Elwy
  • Genod Pres - Yn arwain yr Orymdaith
  • Accordions dros Annibyniaeth


MARCHNAD ANNIBYNIAETH

Byddwn yn cynnal Marchnad Annibyniaeth unwaith eto, y tro hwn yn Arena Digwyddiadau'r Rhyl, o 10am i 4pm.

Dewch yn gynnar i brynu nwyddau ar thema annibyniaeth a chyfarfod ag ymgyrchwyr o bob rhan o Gymru.

Diolch i'r holl fusnesau a sefydliadau sy'n cefnogi'r farchnad.


CYRRAEDD Y RHYL

Rydym yn annog pawb i gyrraedd y Rhyl erbyn 11am-12pm os yn bosibl, ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo modd.

BYSIAU

Defnyddiwch cynlluniwr taith traveline.cymru i weld y manylion llawn.



TRENAU

Mae gorsaf reilffordd y Rhyl lai na 10 munud o waith cerdded (tua 500 metr) o Arena Digwyddiadau'r Rhyl. Mae'r Rhyl yn hygyrch iawn ar y trên, gyda gwasanaethau fel arfer yn rhedeg bob 30 munud.

Gorsaf y Rhyl, Stryd Bodfor, y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 1AT.

Nid oes unrhyw waith wedi'i gynllunio ar hyn o bryd, ond edrychwch ar traveline.cymru a Thrafnidiaeth Cymru i gael y wybodaeth ddiwedda.




GYRRU A PHARCIO

Gosodwch eich satnav i Arena Digwyddiadau'r Rhyl, LL18 3AF. Mae meysydd parcio cyfagos yn cynnwys:

Meysydd Parcio'r Cyngor
  • Central Car Park – Underground, 469 spaces, 18 disabled. LL18 1HD. Locked at 9pm. (Under the bridge next to the Arena)

  • East Parade Car Park – Beach car park (no data on spaces). LL18 3SG. Open 24 hours. (Behind Travelodge, from direction of Arena)

  • Rhyl Town Hall Car Park – Short stay (no data on spaces). LL18 1SW. Open 24 hours.

  • Morley Road Car Park – Short stay, 227 spaces, 11 disabled. LL18 3HG. Open 24 hours. (Next to railway)

  • Sky Tower Car Park – Beach car park, 158 spaces, 6 disabled. LL18 1HF. Open 24 hours.

  • Rhyl Railway Station Car Park – 38 spaces, 4 disabled. LL18 1BU. Open 24 hours.

  • Rhyl Pavilion Car Park – 244 spaces, 10 disabled, plus overflow car park. LL18 3AQ. Closes at midnight.

  • West Kinmel Street Car Park – 190 spaces, 5 disabled. LL18 1DA. Open 24 hours.

  • Rhyl Harbour Car Park – 53 spaces, 4 disabled. LL18 5AX. Open 24 hours.

Meysydd Parcio Preifat
  • White Rose Shopping Centre – 300 spaces (disabled not stated). LL18 3AA. Closes 5:30pm.

  • Marina Quay Shopping Park – 660 spaces. Some areas time-limited by ANPR (outside Aldi); no restrictions elsewhere. LL18 1LQ. Closes 8pm.

Mae digon o le parcio ar y stryd hefyd.


TOILEDAU

Mae Toiledau ar gael yn:

  • Arena Digwyddiadau'r Rhyl, East Parade, Y Rhyl LL18 3AF – 11am-3pm. Mynediad yn 30c (am ddim i blant dan 10 oed gyda oedolyn sy'n talu). Wedi'i osod gyda chlo Radar NKS.

  • Neuadd y Dref, Ffordd Wellington, Y Rhyl LL18 1AB – Mynediad yn 40c. Wedi'i osod gyda chlo Radar NKS.


CYMORTH AR Y DIWRNOD

Os oes angen help neu os oes gennych unrhyw bryderon yn ystod y digwyddiad, siaradwch ag un o'n stiwardiaid hyfforddedig neu unrhyw un o'r swyddogion heddlu sy'n bresennol. Bydd y stiwardiaid yn gwisgo festiau coch llachar gyda logo YesCymru, a byddant yn bresennol ar hyd llwybr yr orymdaith ac o amgylch Arena Digwyddiadau'r Rhyl.

Bydd cymorth cyntaf yn cael ei ddarparu gan 1stAiders, a fydd yn dilyn yr orymdaith ac ar gael cyn ac yn ystod yr orymdaith, ac yn ystod yr areithiau. Gofynnwch i stiward os oes angen cymorth neu gefnogaeth feddygol arnoch.

Gellir rhoi gwybod am eiddo coll a materion brys ar stondin YesCymru yn Arena Digwyddiadau'r Rhyl.

Os oes gennych chi gwestiynau cyn y digwyddiad, ebostiwch [email protected].


ADLONIANT WEDI'R ORYMDAITH / RALI

Gig y Prynhawn

Gyda Bau Cat & TewTewTennau! Wedi'i drefnu gan Menter Iaith Sir Ddinbych. Mynediad am ddim.

  • 3.45pm Bau Cat
  • 4.45pm TewTewTennau

Marchnad y Frenhines, Stryd Sussex, Y Rhyl, LL18 1SE

Canu dros Annibyniaeth - Sesiwn Werin

Ymunwch â ni yn Nhafarn Lorne yn y Rhyl ar ôl yr orymdaith i ganu dros annibyniaeth!

Dewch â offerynnau neu dim ond eich llais! Cyfle i fwynhau cerddoriaeth a chymdeithasu.

O 4pm ymlaen – ar ôl yr orymdaith

Tafarn Lorne, Y Rhyl, LL18 1RH


Gorymdaith dros Annibyniaeth - Y RHYL

DYDDIAD: Dydd Sadwrn, Hydref 18, 2025
AMSER: 1pm - Gorymdaith yn cychwyn. (Cwrdd o 11am)
BLE: Arena Digwyddiadau'r Rhyl, LL18 3AF

 

PRYD
October 18, 2025 at 13:00 - 3pm
LLEOLIAD
Arena Digwyddiadau'r Rhyl
Rhyl LL18 3AF

Map Google a chyfeiriadau
6 RSVPS

Ydych chi'n dod?