Symud ymlaen o'r llywio

Richard Huw Morgan

Ymgeisydd Canol De Cymru

Fel un o 500 o aelodau gwreiddiol YesCymru, rydw i wedi dangos ymrwymiad hirdymor i wneud Cymru yn wlad annibynnol. Dim ond drwy annibyniaeth y bydd gennyn ni gyfle i greu gwell gwlad drwy reoli ein materion ni’n hunain, a thrwy roi dewis democrataidd i bobl Cymru ynghylch sut mae rhedeg eu gwlad.

Ar ôl helpu i drefnu Gŵyl Annibyniaeth YesCymru yng Nghaerdydd yn 2017, mae hi’n wych gweld sut mae neges YesCymru, sef bod annibyniaeth yn beth naturiol a chwbl bosibl, wedi tanio dychymyg cynifer o bobl Cymru dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Nid yn unig y mae aelodaeth YesCymru wedi tyfu’n helaeth, ond mae’r cysyniad hefyd wedi’i normaleiddio yn wleidyddol ac yn y cyfryngau, ac mae annibyniaeth bellach yn rhan o sgyrsiau pobl bob dydd. Gyda chymaint o sylw i’r pwnc, mae’n anochel y bydd gwahaniaethau barn ynghylch amcanion, nodau, blaenoriaethau a strategaethau penodol, a rhwng y grwpiau buddiant yn y sefydliad.

Dyma hefyd realiti’r sefyllfa mewn unrhyw genedl yn y byd go iawn. Nid yw’n sefyllfa y gellir cefnu arni mewn siom neu anobaith, ond yn hytrach mae’n sefyllfa sy’n galw am ddiwygio a chymodi. Dydw i ddim wedi rhoi fy enw o’r blaen i wneud unrhyw waith swyddogol yn YesCymru, yn rhannol gan fy mod yn teimlo nad oedd y swyddi hyn wedi’u diffinio’n dda, ond rydw i’n teimlo mai dyma bellach yr adeg iawn i gamu ymlaen.

Rydw i’n croesawu’r dull newydd o harneisio grym angerdd a brwdfrydedd aelodau YesCymru drwy’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol newydd. Er bod yn rhaid dweud yn onest nad ydw i ar hyn o bryd yn deall ystyr manwl yr holl derminoleg yn y rheolau sefydlog a’r is-ddeddfau, rydw i wedi eu darllen nhw i gyd a byddaf yn fy addysgu fy hun, gyda chymorth y sefydliad a’r aelodau, i sicrhau fy mod yn cydymffurfio’n llwyr â dyletswyddau Cyfarwyddwr.

I gyd-fynd â’m cais, hoffwn gynnig yr amlinelliad canlynol o fy mhrofiadau bywyd, sy’n dystiolaeth o fy ngallu i gyflawni dyletswyddau cyffredinol Cyfarwyddwr drwy ddilyn cyfansoddiadau sefydliadol, osgoi gwrthdaro buddiannau, gweithredu’n annibynnol, dysgu personol ac ati.

A minnau wedi fy ngeni i rieni o Gymru a symudodd i Lundain i weithio yn yr 1960au, ac wedi fy magu yn Essex yn yr 1960au a’r 70au, des yn ymwybodol iawn o’r gwahaniaethau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol rhwng Cymru a Lloegr yn ifanc iawn drwy deithiau cyson ‘adref’ i Gaerdydd yn ystod bron pob gwyliau ysgol.

Roedd Prifysgol Abertawe yn galw yn 1982. Prifysgol ger y traeth yng Nghymru; pwy allai wrthod y cyfle? Gan astudio Economeg a Gwleidyddiaeth yn wreiddiol, graddiais mewn Athroniaeth a Seicoleg, cyn dilyn cwrs Meistr mewn Astudiaethau’r Cyfryngau yng Nghanolfan Astudiaethau Newyddiaduraeth Coleg y Brifysgol Caerdydd, gan raddio yn 1987 gyda thraethawd ar sut roedd y cyfryngau torfol yn trin materion amgylcheddol.

Prin iawn oedd y diddordeb academaidd yn y maes hwn ar y pryd, ac fe ddes yn rhywfaint o ‘arbenigwr’ yn y fan a’r lle pan ddechreuodd Margaret Thatcher ei pholisi gwyrddgalchu. Gweithiais wedyn i amryw o sefydliadau amgylcheddol gan helpu gyda materion y cyfryngau a chyhoeddusrwydd. Yn ystod y cyfnod hwn, gydag Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydain ac yn ddiweddarach gyda Chyfeillion y Ddaear Cymru, des yn ymwybodol o bwysigrwydd y Gymraeg wrth ddeall lle, hanes, cymuned, cyfathrebu ac ati, a hynny mewn ffyrdd nad oedd yn amlwg neu a oedd wedi’u cuddio o fy mhrofiad personol o’r blaen.

Dechreuais ddysgu Cymraeg, ond cyn defnyddio’r iaith rhyw lawer ym maes yr amgylchedd, cefais dipyn o antur gelfyddydol ar ôl gweld gwaith y cwmni theatr Brith Gof, a chefais y fraint o weithio gyda nhw rhwng 1990 a 1997. Cefais fy nghyffroi yn arw gan eu dull cymhleth a deallus o ymdrin ag iaith, hanes, diwylliant, y celfyddydau a’r cyfryngau, wrth i’r cwmni gyflwyno fersiwn bywiog a hyderus o Gymru a edrychai tuag allan, a hynny i gynulleidfaoedd o Gymru a chynulleidfaoedd rhyngwladol. Roedd hwn yn gyfnod o ddychmygu o’r newydd sut le fyddai Cymru’r dyfodol, mewn cerddoriaeth, y celfyddydau perfformio, llenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol, a hynny yn y blynyddoedd cyn datganoli.

Gwaetha’r modd, rydw i’n credu bod y celfyddydau wedi bod ar eu colled oherwydd y setliad datganoli cyfyngedig a gafwyd. Y norm oedd bod sefydliadau a ffurfiau yn efelychu rhai mewn mannau eraill, yn hytrach nag yn hyrwyddo gwahaniaethau ac apêl unigryw y celfyddydau yng Nghymru. Dyma rywbeth y ceisiais roi sylw iddo drwy fod yn aelod o Bwyllgor Cenedlaethol Cymru undeb yr actorion, Equity, 1998-2000, ac fel aelod o Banel Drama, Cynghorwr Cenedlaethol ac aelod o bwyllgor rhanbarthol Cyngor Celfyddydau Cymru rhwng 2000 a 2011.

Rydw i wedi parhau i greu celfyddyd arbrofol, ar fy mhen fy hun a gyda fy nghwmnïau fy hun (ers 1996 fel good cop bad cop) a hynny yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Rydw i hefyd wedi defnyddio fy sgiliau i helpu i addysgu cenedlaethau’r dyfodol ynghylch traddodiadau radical Cymru, a hynny o fewn byd y celfyddydau a’r tu hwnt iddo. Rydw i wedi bod yn Gymrawd Ymchwil mewn Celf Seiliedig ar Amser yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, yn Gymrawd Ymchwil Galwedigaethol mewn Dylunio Graffeg Dwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Abertawe, ac yn Ddarlithydd Gwadd yn y defnydd o dechnoleg mewn Perfformio (drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg) ym Mhrifysgol De Cymru.

Y diddordeb hwn mewn trosglwyddo gwybodaeth, ac yn benodol yng nghyd-destun profiadau Cymreig, yw’r hyn a’m sbardunodd i ddod yn llywodraethwr ysgol ac yn gynrychiolydd rhieni ar bwyllgor craffu Addysg a Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Caerffili rhwng 2012 a 2020.

O ran ymwneud yn ehangach â’r cyhoedd, yn 2011 cyd-sefydlais ‘Pitch’, sef rhaglen radio fyw awr o hyd ar yr orsaf radio gymunedol Radio Cardiff, gan roi llwyfan wythnosol i sgwrsio am y celfyddydau a diwylliant yng Nghaerdydd a’r tu hwnt. Mae’r rhaglen yn dal i gael ei chreu (bellach fel Pitch/Illustration/Radio)

Ar ôl byw yn Abertawe, Caerdydd, Rhisga, Penarth a’r Barri, symudais i Drefforest yn 2017 ac yn 2020 des yn aelod o bwyllgor Clwb y Bont ym Mhontypridd, ac fel eu cynrychiolydd, des yn un o Gyfarwyddwyr Ardal Gwella Busnes YourPontypridd yn 2021.

Cysylltedd Gwleidyddol: Aelod Plaid Cymru