Symud ymlaen o'r llywio

Robert Hughes - De Ddwyrain Cymru

Fy enw i yw Rob Hughes, fi yw Ysgrifennydd Yes Merthyr. Rwyf wedi bod yn aelod o YesCymru ers 2017. 

Yn ogystal â bod yn aelod gweithgar o un o ganghennau mwyaf gweithgar Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf hefyd yn un o sylfaenwyr Rhanbarth y De-ddwyrain, y grŵp rhanbarthol cyntaf a sefydlwyd yng Nghymru, yn ogystal â bod yn Gadeirydd ar y rhanbarth er pan y sefydlwyd hi tua deunaw mis yn ol. Rwyf hefyd wedi bod yn gyfrifol am ysgrifennu nifer o daflenni sydd wedi’u dosbarthu’n genedlaethol gan YesCymru. 

Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gwrdd â nifer fawr o aelodau YesCymru trwy fy ngwaith gwirfoddol i’r mudiad yn Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol, sydd wedi fy helpu i ddatblygu persbectif ehangach o amcanion ein haelodaeth. Trwy’r gwaith hwn a’r sgyrsiau a gefais, credaf fod nifer o rinweddau y byddaf yn eu cyflwyno i’r Corff Llywodraethol. 

Yn gyntaf, rhan annatod o unrhyw sefydliad llwyddiannus yw undod. Heb gysgod o amheuaeth, mae YesCymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol ar y cyfan yn ystod ei oes fer. Mae YesCymru wedi troi’r freuddwyd o weld ein gwlad yn rhydd yn nod realistig, yn rhydd i ddatblygu polisïau a fydd o fudd i’n pobl a chenedlaethau i ddod. Ond dim ond mewn undod y daw cryfder a theimlaf fod y mudiad ar ei wannaf os ydym yn colli ffocws ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i ni. 

Hefyd, fel y dangosir yn y modd yr wyf wedi chwarae rhan ganolog yn natblygiad parhaus Yes Merthyr dros y blynyddoedd diwethaf, rwy’n deall sut i ymgyrchu’n effeithiol ac i drefnu ymgyrchoedd i fod yn effeithiol. Er bod polau piniwn wedi dangos cefnogaeth i annibyniaeth fod yn gyson yn yr ystod 30-40%, mae llawer mwy i ddod. Ein prif nod, yn fy marn i, ddylai fod yw lledaenu’r neges ynghylch sut y gall Cymru annibynnol fod o fudd i bobl Cymru, er mwyn perswadio’r rheini sydd eto i ddangos eu cefnogaeth y bydd Cymru rydd yn genedl lewyrchus a theg a fydd yn cynnig. cyfleoedd i bawb. 

Rwyf wedi gweithio yn Ysgol Gyfun Tredegar ers ugain mlynedd fel athro Cymraeg, Pennaeth Astudiaethau Busnes a Phennaeth Dwyieithrwydd. Dw i'n dysgu Cymraeg i oedolion hefyd. Mae'r Gymraeg wedi bod yn rhan bwysig iawn o fy mywyd ers i mi ddysgu'r iaith i fagu fy mhlant yn ddwyieithog. Rwyf wedi ennill gwobrau cenedlaethol a lleol am fy ngwaith yn y maes gan gynnwys Tiwtor y Flwyddyn NIACE a Llysgennad Cymunedol Merthyr Tudful. Yn amlwg, rwy’n gweld datblygiad yr iaith fel elfen greiddiol o Gymru annibynnol ac fel rhan annatod o annibyniaeth ei hun. 

Cyn i mi ddod yn athro, roeddwn yn gweithio yn y maes adeiladu, yn gyntaf fel töwr ac yna fel rheolwr i gwmni recriwtio ar gyfer rhai o brosiectau mwyaf yn hanes Cymru gan gynnwys y Stadiwm Cenedlaethol yn ei ffurf ddiweddaraf. Mae'r prosiectau hyn yn helpu i amlygu'r hyn y gallwn ei gyflawni a hefyd pwysigrwydd gosod targedau. Byddaf yn dod â’r profiad hwn o feysydd Busnes ac Addysg i’r Corff Llywodraethol er mwyn helpu a chryfhau’r mudiad i fod yn un sy’n barod i wynebu’r heriau hynny sy’n atal Cymru rhag bod yn rhydd. 

Fel rhywun sy’n byw ym Merthyr Tudful ac yn gweithio ym Mlaenau Gwent, mae cyfiawnder cymdeithasol wedi bod yn flaenoriaeth i mi ym mhopeth a wnaf. Hoffwn gynorthwyo YesCymru i weithio yn ein cymunedau drwy ddatblygu ein neges i fod yn syml ac yn glir; dim ond trwy annibyniaeth y daw ein gobeithion a'n dyheadau yn realiti. 

 

Diolch i chi am ddarllen trwy'r rhesymau yr wyf wedi'u rhoi i gefnogi fy nghais i gael fy ethol ac rwy'n gobeithio cael eich pleidlais. 

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.