Fy enw i yw Sam Murphy a dw i'n dod o Abertawe. Rwy'n siarad Cymraeg a Saesneg, wedi tyfu i fyny yn siarad dim ond Saesneg ond o'r diwedd llwyddo yn fy 30au i ddysgu Cymraeg i lefel agos at rhugl.
Mae gen i brofiad fel ymgyrchydd a threfnydd ar gyfer amrywiaeth o grwpiau gwleidyddol yn ogystal â gwasanaethu fel trefnydd undeb llafur.
Ers ymuno â Yes Cymru rwyf wedi gwasanaethu ar bwyllgor fy nghangen leol, Yes Abertawe, ac wedi ymwneud yn helaeth â threfnu a hyrwyddo’r orymdaith yn Abertawe ym mis Mai 2023.
Rwy’n frwd dros ymgyrchu gwleidyddol ar lawr gwlad ac yn credu bod hwn yn faes y mae Yes Cymru yn rhagori ynddo. Rwy’n gobeithio helpu i barhau â record wych Yes Cymru o ymgyrchu gwleidyddol ar lawr gwlad er mwyn i ni allu gyrru Cymru ymlaen i annibyniaeth.”