Symud ymlaen o'r llywio

Grŵp rhanbarthol De-Ganol

Yn dilyn sgwrsiau a gafwyd rhwng grwpiau yn ardal Y De-ganol, mae grŵp rhanbarthol yn y broses o gael ei sefydlu yno.

Yn seiliedig ar grŵp llwyddiannus y De-ddwyrain, sy wedi arwain at dwf aruthrol o weithredu ac ymrwymiad gan aelodau, bydd y grŵp yn cynnwys y grwpiau'r acrededig Yes Pontypridd, Yes Pen-y-bont, Yes Rhondda and Yes Caerdydd. Disgwylir i grŵp newydd Yes Cymru yng Nghwm Cynon fod rhan o'r grŵp rhanbarthol newydd.

Cynelir cyfarfodydd misol gan y grŵp gan edrych ar gynyddu gweithredu yn yr ardal a darparu rhwydwaith o gefnogaeth a phrofiad i helpu datblygu yn bellach grwpiau unigol i ledu neges Yes Cymru a buddion a ddaw gydag annibyniaeth.

Fel rhan o'i ymrwymiad gweithredu parhaol yn ngrŵp rhanbarthol y de-ddwyrain, caiff Yes Merthyr stong yng Ngwyl Fwyd Merthyr Ddydd Sadwrn 22ain o Orffennaf yn Sgwâr Penderyn yng nghanol y dref.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhoi platfform i'r grŵp drafod yn bellach a hybu brand Yes Cymru a chynyddu trafodaethu gyda thrigolion yr ardal am y buddion a ddaw yng Nghymru annibynnol.

Yn ogystal â gwerthu nwyddau, bydd y stondin yn brysur iawn gyda chrefftau, gemau a chlonc. Dywedodd Lis McLean, cadeirydd Yes Merthyr 'fyn ni'n gweld yr Wyl Fwyd fel cyfle arbennig i gefnogi mentrau lleol a chael sgyrsiau da gyda phobol Merthyr i hyrwyddo newid sylfaenol a fydd yn cael effaith cadarnhaol ar ein dyfodol. Byddwn ni'n anelu at gael lot o hwyl a rhoi gwên ar wynebau'r rhai sy'n ymweld â ni."

Cynhelir yr Ŵyl Fwyd drwy'r dydd.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.