Symud ymlaen o'r llywio

Dydd Gŵyl Dewi: Gŵyl unigryw i Gymru

Does dim amheuaeth y dylai Dydd Gŵyl Dewi wedi dod yn wyl Cenedlaethol yng Nghymru ers amser maith. I'r rhai sy'n amau'r honiad hwn, gadewch i ni ailadrodd:

2000 - pleidleisiodd Senedd Cymru (y Cynulliad bryd hynny) yn unfrydol i gael hwn fel gwyl Cenedlaethol. Dywedodd y llywodraeth Lafur, ‘na’ ar y pryd – ar seiliau economaidd sigledig (mae rhai astudiaethau’n awgrymu bod economïau â chyfansoddiad tebyg i Gymru yn elwa o wyliau banc).

2006 - arolwg ICM ar gyfer y BBC yn canfod cefnogaeth o 87% yng Nghymru ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl banc. Dim ond un o bob deg yng Nghymru oedd yn gwrthwynebu'r syniad.

2007 - cafodd deiseb yn galw am ddydd Gŵyl Dewi i fod yn ŵyl banc yng Nghymru ei wrthod gan San Steffan a Tony Blair, y Prif Weinidog Llafur, ar y pryd.

2018 - arolwg barn YouGov yn rhoi cefnogaeth i Ddydd Gŵyl Dewi fel gŵyl banc i Gymru ar 58% gyda 17% pellach o blaid ei fod yn wyl i’r pedair gwlad. Dim ond 20% oedd yn gwrthwynebu.

Mor unfrydol yw’r gefnogaeth i Fawrth 1af fel diwrnod cenedlaethol o ddathlu yng Nghymru, dywedodd hyd yn oed Andrew R T Davies, arweinydd presennol y Ceidwadwyr Cymreig, yn groes i lywodraeth y DU, y llynedd:

‘Hoffwn weld Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei wneud yn ŵyl banc yng Nghymru. Byddai’n gyfle gwych i ni uno a dathlu ein treftadaeth a’n diwylliant cyfoethog’.

Gwrthododd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, ystyried y cynnig.

Ond y pwynt fan hyn yw nid a ydym i gyd yn cefnogi dynodi Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl genedlaethol, ond nad oes gennym ni y grym na’r awdurdod i wneud hynny, hyd yn oedd lle bo llywodraeth democrataidd a mwyafrif swmpus o blaid gwneud.

Mae’n ymddangos yn fater bach ac amhendant ond mae’n symbol o bopeth sydd o’i le ar yr Undeb ac ar ein perthynas fel cenhedloedd oddi mewn iddo. Dyma ein nawddsant, ein dydd ni ydyw, yn unigryw i ni, mewn calendr llawn dop o ddathliadau byd-eang. Mae ein cynrychiolwyr a etholwyd yn ddemocrataidd wedi ei gwneud yn glir eu bod yn credu y dylid ei ddathlu a'i ddiffinio fel gwyl blynyddol arbennig. Mae’r polau piniwn wedi bod yn gyson o blaid ei fod yn ŵyl penodedig. Mae ceisiadau wedi bod yn aml ac yn gyson. Wedi'u diystyrru  bob amser. Pa enghraifft well sydd ei hangen arnom o’n diffyg llais fel cenedl, fel pobl.

Beth bynnag yw eich teimladau dros ddynodi’r diwrnod hwn yn wyl cenedlaethol ai peidio, mae’n amlwg y dylem fod yn rhydd i wneud hynny drosom ni ein hunain fel cenedl.

Gyda lefelau mor uchel o gefnogaeth, gyda Cymru annibynnol, gallwch fod yn eithaf sicr y byddem yn dathlu ein treftadaeth a’n diwylliant ar Fawrth 1af fel gwyl cenedlaethol, ac y byddem wedi bod yn gwneud hynny ers degawdau.

Pa symbol gwell sydd ei angen arnom o bŵer dominyddol yn atal ewyllys democrataidd y bobl? Os oedd y berthynas rhwng Llundain a Chaerdydd yn un cytbwys, yn seiliedig ar barch y naill at y llall ac ar gydnabyddiaeth mai Undeb gwirfoddol y cenhedloedd ydoedd, yn gweithio mewn cydweithrediad, yna sut y gellid gwrthwynebu caniatáu inni ddathlu ein gwyliau ein hunain?

Nawr efallai bod yna deimlad yng nghoridorau grym San Steffan fod y Cymry fel plant ac na ddylid caniatáu'r awdurdod na'r pŵer i bennu eu calendr gwyliau eu hunain.

Mae’r ateb i ni yng Nghymru yn glir, yn bendant ac yn gadarn – Annibyniaeth. Gadewch i ni gymryd rheolaeth o’n tynged ein hunain, gadewch i ni gipio nol awennau ein dyfodol, gadewch i ni sefyll ar ein traed ein hunain. Gadewch i ni wneud ein holl benderfyniadau ein hunain, gadewch i ni gynllunio a buddsoddi ar gyfer ein dyfodol ein hunain a dyfodol ein plant, gadewch i ni sefyll yn uchel ar y llwyfan rhyngwladol, yn wleidyddol yn ogystal ag ar y maes chwaraeon.

Gadewch i ni ddangos ein cryfder fel pobl, gadewch i ni dyfu a llwyddo fel cenedl annibynnol, gadewch i ni ddatrys yr heriau sy’n ein hwynebu heddiw ac yn y dyfodol gydag atebion sydd wedi’u cynllunio ar gyfer Cymru ac yng Nghymru. Gyda’r ddealltwriaeth y gallwn wneud yn well oherwydd ein bod yn gwybod ac yn poeni am y bobl sy’n byw yma yng Nghymru, lle rydym yn cydnabod ein bod i gyd yn rhannu dyheadau o ffyniant, tegwch a bywydau wedi’u byw gyda llawenydd, hapusrwydd a boddhad.

Annibyniaeth - mae’r dyfodol yn perthyn i ni.


Blog Bendigeidfran

 

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.