Symud ymlaen o'r llywio

Sefyll Lan Dros Gymru

STAND UP
FOR WALES

Cynnwys

  1. Pwy ydym ni a beth ydym ni'n ei wneud?
  2. Beth ydym ni'n ei gynnig?
  3. Ein bwcio ni
  4. Digrifwyr sydd wedi perfformio i ni
  5. Beth mae pobl yn ei ddweud amdanom ni
  6. Lluniau

 

Pwy ydym ni a beth ydym ni'n ei wneud?

Sefydlwyd Stand Up For Wales yn 2017 gan griw bychan, gyda'r nod o gynnal digwyddiadau comedi, yn ardal Abertawe i ddechrau, i hyrwyddo achos annibyniaeth Cymru ymhellach.

Rydym yn sefydliad dielw. Caiff yr holl arian o'r nosweithiau ei ail-fuddsoddi mewn digwyddiadau yn y dyfodol.

Mae ein digwyddiad comedi iaith Saesneg misol yn cael ei gynnal ar drydydd dydd Iau pob mis yn yr Hefty Chest Pirate Bar yng nghanol Abertawe. Lansiwyd ein brand iaith Gymraeg, Sefyll Lan Dros Gymru, yn 2018, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar ei ddatblygu ymhellach.

Ers ein lansio, rydym wedi mynd â chomedi i IndyFest a Buffalo Bar yng Nghaerdydd, Haf YesPreseli a lansiad grŵp YesCymru yn Merthyr Tudful.

Ein nod yw dod â'n digwyddiadau i bob rhan o Gymru, a gallwn gynnig comedi ar gyfer pob achlysur.

Mae gennym sylfaen gyswllt sylweddol o fewn golygfa gomedi de Cymru a thu hwnt.

 

Beth ydym ni'n ei gynnig?

Gallwn gynnig profiad comedi cyflawn i'ch grŵp neu ddigwyddiad. Byddwn yn bwcio'r perfformwyr ac yn dod â'n system PA ein hunain (ar gael am ffi bychan). Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn awgrymu'r lleoliad ac yn helpu i roi cynulleidfa i ni. Byddwn yn hyrwyddo eich noson yn weithgar ac yn frwdfrydig trwy bosteri a'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Byddwn yn teilwra'r digwyddiad i weddu i'ch anghenion.

Mae ein nosweithiau cyffredin yn para tua 90 munud, heb gynnwys egwyl (digon o amser i lenwi'ch gwydrau ac ati). Os ydych chi'n bwriadu bwcio slot comedi fel rhan o ddigwyddiad ehangach, h.y. gŵyl, byddem yn argymell ffenestr awr o bedair slot 10 munud.

Ein nod yw gwneud dim elw o gwbl o'ch noson. Yn achlysurol, byddem yn gofyn am gyfraniad tuag at ein costau teithio, yn dibynnu ar y pellter wrth gwrs, ac ychydig o bunnoedd i'r gronfa ar gyfer argraffu posteri.

Gall costau digrifwyr amrywio a gallent gael eu hariannu naill ai trwy werthu tocynnau neu gasgliad bwcedi ar y noson. Dywedwch wrthym beth yw eich cyllideb, a byddwn yn eich cynghori ar pa opsiwn sydd orau.


Ein bwcio ni

Mae modd bwcio digwyddiad Stand Up for Wales neu Sefyll Lan Dros Gymru drwy e-bost, [email protected] neu ffoniwch 07799 621 977.

Mae rhagor o wybodaeth amdanom ar gael ar ein tudalen Facebook, Stand Up for Wales YesCymru Abertawe, neu ein dolenni Twitter @StandUpForWales a @SefyllLanDrosGymru.

Dilynwch, ail-drydarwch, hoffwch a rhannwch ni.


Digrifwyr sydd wedi perfformio i ni

Mae gan y rhan fwyaf o'r digrifwyr sydd wedi perfformio i ni wedi derbyn clod ar y teledu a gwyliau - o S4C i BBC Sesh, o Ŵyl Gomedi Machynlleth i Ŵyl Fringe Caeredin.

Mae'r rhain yn cynnwys Dan Thomas, Steffan Alun, Steffan Evans, Sarah Breese, Beth Jones, Phil Cooper, Ignacio Lopez, Eleri Morgan, Karen Sherrard, Drew Taylor, Chris Chopping, Lorna Prichard… heb anghofio un o Loegr sy'n parhau i groesi Pont Hafren i ddod yn ôl atom - ie, rydyn ni'n siarad amdanat ti, Gary Tro!


Beth mae pobl yn ei ddweud amdanom ni

"Diolch gymaint am gael fi! Am gig hyfryd i orffen 2018." – Lorna Prichard, prif berfformiwr, Rhagfyr 2018
**************************
"Brilliant night of comedy at 'The Hefty Chest'. Thoroughly recommend it." – aelod o'r gynulleidfa
**************************
"Chwarae teg. I really enjoyed listening to @MarchGlas having a chat about #IndyWales with comedians @EsylltMair and @StAlun some fantastic points raised, well worth a listen too I reckon. Brilliant stuff." – YesCymru Preseli am y rhaglen Radio YesCymru gyda Stand Up For Wales
**************************
"This is #1 my favourite event of the month" – The Hefty Chest Pirate Bar
**************************
"Enjoyed #indyfest gig in @TheMoonCardiff w/ @SarahBreese @danthomascomedy @natwebbcomedy @steffanevans81 Diolch @YesCymru & @indyfestcymru" – Sianny Thomas, digrifwr
**************************
"Diolch am y croeso, ac am fod yn gynulleidfa mor lush. @mrproducerltd wedi mwynhau yn arw" – Stifyn Parri, digrifwr

 

Lluniau

SUFW1.jpg

SUFW2.jpg

SUFW3.jpg

SUFW4.jpg

SUFW5.jpg

SUFW6.jpg

SUFW7.jpg

SUFW8.jpg

SUFW9.jpg

SUFW10.jpg