Bydd grwpiau ac aelodau YesCymru yn brysur iawn dros yr haf wrth ymweld â rhai o ddigwyddiadau mwyaf Cymru.
Ychydig wythnosau ar ôl gorymdaith Caerfyrddin, bydd YesCymru yn cynnal llwyfan yng ngŵyl Tafwyl yn y brifddinas am y tro cyntaf. Bydd y llwyfan yn rhoi cyfle i artistiaid sy’n cefnogi YesCymru berfformio yng Nghaerdydd ac bydd stondin YesCymru wrthi yn gwerthu nwyddau, trin a thrafod annibyniaeth a chroesawu aelodau newydd.
Wrth baratoi at yr Ŵyl, mae Phyl Griffiths, Cadeirydd YesCymru yn awyddus i gynnwys aelodau lleol yn yr hwyl a sbri. “Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn am gymryd rhan yn swyddogol yn Tafwyl am y tro cyntaf. Wrth gwrs, gan wybod pa mor awyddus yw aelodau YesCymru i gyfrannu at ddigwyddiau fel hwn, byddwn ni’n croesawu mewnbwn ac amser unrhyw un sy’n aelod o YesCymru i’n helpu ni mas dros y penwythnos,” meddai Phyl.
Os oes gennych awr neu ddwy i sbario ac rydych chi’n fodlon gwirffoddoli dros benwythnos Tafwyl, sy’n rhedeg o 12fed i 14eg Gorffennaf, cysylltwch â [email protected]
Yn dilyn Tafwyl bydd y ffocws yn troi at Gwm Taf a Phontypridd am yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae YesCymru yn ehangu ar y maes eleni gyda stondin mwy na welwyd llynedd ym Moduan. Ac unwaith eto mae YesCymru yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd mantais o’r cyfle i hyrwyddo’r mudiad ar y maes, gan gynnig tocynnau am ddim i’r rhai sy’n fodlon wneud.
“Mae aelodaeth YesCymru yn y cymoedd yn gryf iawn ac mae hanes ‘da ni o fod yn bobol weithgar tu hwnt,” medd Rob Hughes, Cyfarwyddwr dros y De-Ddwyrain. “Dyn ni’n hoffi meddwl am ein hunain fel pobol groesawgar, felly dyma’r cyfle i roi hynny ar waith. Bydd YesCymru yn cynnig tocyn mynediad am ddim am ddiwrnod i aelodau sy’n gwirfoddoli am sifft ar y stondin, dyna ein ffordd ni o ddweud diolch i’n haelodau am fod yn barod i droi mas bob tro,” ychwanegodd.
I gofrestru i wirfoddoli ar stondin YesCymru yn ystod Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd, gyrrwch e-bost at [email protected]