Mae Llywodraeth y DU fel arfer yn ofalus i ystyried barn yr Alban wrth wneud penderfyniadau polisi sensitif, gan drin yr Alban â menig sidan rhag ofn iddyn nhw ysgogi dadleuon cenedlaetholgar. Mae cefnogaeth i annibyniaeth i'r Alban yn parhau i fod fewn eu cyrraedd. Ni fyddai’n cymryd llawer i’r Alban gymryd ei gamu ymlaen tuag at gymuned ryngwladol y gwladwriaethau sofran.
Mae Cymru, ar y llaw arall, fel arfer yn cael ei hanwybyddu gan Lywodraeth y DU. Yn wahanol i'r Alban, nid yw erioed wedi cael ei hystyried yn fygythiad i'r DU. Mae hyn yn rhoi Cymru yn y rheng flaen o ran penderfyniadau annheg ac anghyfartal, a’r enghreifftiau mwyaf diweddar o hyn yw cyllid HS2, datganoli plismona, a derbyn refeniw Ystâd y Goron. Ni allai’r cyferbyniad rhwng Cymru a’r Alban fod yn gliriach.
Cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru
Mae’r gwahaniaeth hwn yn dechrau newid gydag ymchwydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru. Tan tua 10 mlynedd yn ôl, roedd polau piniwn yn dangos cefnogaeth o 5-10%. Yn gyffredinol fe’i hystyriwyd yn gyfyngedig i'r ‘ymylon cenedlaetholgar’ a ‘ffanatics iaith’. Ond cododd refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014 broffil annibyniaeth, nid yn unig yn yr Alban, ond yng Nghymru hefyd a chynyddodd y gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru i tua 14%.
Drwy broses y refferendwm, llwyddodd yr Alban i gael trafodaeth fanwl ac agored am fanteision ac anfanteision annibyniaeth. Roedd llawer o'r dadleuon a wnaed yr un mor berthnasol i Gymru. Roedd ymgyrch yr Alban fel petai wedi deffro rhyw gred, os oedd annibyniaeth yn ddigon da i’r Albanwyr, ei bod yn ddigon da i’r Cymry.
Ddeg mlynedd yn ôl, yn dilyn methiant refferendwm yr Alban, sefydlwyd y grŵp ymgyrchu YesCymru i wneud yr achos dros annibyniaeth i Gymru. Tyfodd yr aelodaeth yn raddol wrth i bolau piniwn gofnodi naid yn y gefnogaeth i 20-25% parchus. Gallwn ddadlau a arweiniodd twf YesCymru at fwy o gefnogaeth i annibyniaeth neu i’r gwrthwyneb, ond y naill ffordd neu’r llall roedd yn amlwg bod annibyniaeth Cymru yn symud yn uwch ar yr agenda wleidyddol.
Arweiniodd argyfwng Covid-19 o 2020 at ymchwydd arall yn y gefnogaeth. Roedd hyn yn rhannol mewn ymateb i’r gwahanol ffyrdd yr oedd llywodraethau Cymru a'r DU wedi ymateb i'r haint. Sylweddolodd pobl nad oedd un ateb – y gallem, ac y dylem, fabwysiadu polisïau a oedd yn fwy addas i Gymru. Dangosodd Covid-19 fod datganoli Cymreig yn real a'n bod yn cael ein llywodraethu’n wahanol i Loegr, hyd yn oed i’r pwynt o allu sefydlu rheolaethau ein ffiniau, am gyfnod.
Oherwydd hyn, neidiodd y gefnogaeth eto, i 30-35%, a symudodd y mudiad annibyniaeth i'r brif ffrwd. Cofleidiodd Plaid Cymru annibyniaeth ar ôl blynyddoedd yn y diffeithwch, a sefydlwyd grŵp Llafur dros annibyniaeth, hyd yn oed.
Pontio'r bwlch
Mae llawer o’r cynnydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth, hyd yma wedi’i ysgogi gan emosiynau – ychydig iawn o ddata neu ddadansoddiad oedd i ddangos beth fyddai annibyniaeth Gymreig yn ei olygu’n ymarferol. Yn benodol, sut y byddai’n effeithio ar bocedi pobl. Allwn ni fforddio annibyniaeth?
Yn yr un modd â’r ddadl yn yr Alban, roedd unoliaethwyr yn gyflym i wfftio annibyniaeth gan ddefnyddio data dethol ac anghywir. Honir ganddyn nhw'n ml fod Cymru’n derbyn ‘cymhorthdal’ o £18bn bob blwyddyn – nawdd ariannol gan Lywodraeth y DU – tra’n anghofio’n gyfleus mai elw o drethi a gesglir o Gymru yw hwn i raddau helaeth. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU yn gwario arian ‘ar ein rhan’ ac yn anfon y bil atom, er nad oes fawr o elw, os o gwbl, i Gymru. Yr enghraifft ddiweddaraf, gyda phroffil uchel, yw dadl HS2.
Taflwyd ffeithiau data anghywir gwallus yn ystod ymgyrch refferendwm aflwyddiannus yr Alban, ac mae angen inni fod yn barod am fwy o’r un peth wedi’i gyfeirio at Gymru. Yr her fwyaf y byddwn yn ei hwynebu yw sut i wrthsefyll honiadau ffug. O ble y gall cefnogwyr annibyniaeth ddod o hyd i ddata gwrthrychol, cadarn a ffeithiol i herio gwybodaeth anghywir a chefnogi'r ddadl dros annibyniaeth.
Mae’n debyg bod cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru wedi gwastatáu ar tua 35%, gan mai dim ond hyd yn hyn y gall dadleuon emosiynol fynd â hi. Mae yna lawer o ddarpar gefnogwyr sy'n parhau i fod yn amheus am yr achos economaidd dros annibyniaeth. Ni fyddwn byth yn argyhoeddi pawb, ond nid oes angen i ni wneud hynny. Nid oes angen i ni sicrhau cefnogaeth 100% i gyrraedd annibyniaeth, ond rhaid i ni basio 50% yn gyfforddus cyn ystyried refferendwm. (Nid ein bod ni angen un o reidrwydd - ond > dyna drafodaeth arall!)
I gyrraedd mwyafrif o’r fath, mae’n rhaid i ni allu dadlau yn erbyn honiadau unoliaethol ein bod yn rhy fach ac yn rhy dlawd i gynnal ein hunain, a chefnogi hyn gyda data cadarn, gwrthrychol.
"Digon mawr i fod yn annibynnol!"
Gadewch i ni yn gyntaf ystyried maint daearyddol Cymru. Mae ganddi arwynebedd o 21,218 km2 (8,192 milltir sgwâr). Mewn tabl cynghrair o wledydd sofran byddai yn y 148fed safle, ychydig mwy nag Israel. Byddai'n fwy o ran arwynebedd na 48 o wledydd annibynnol. Mewn cyd-destun Ewropeaidd, byddai'n fwy na phedwar aelod annibynnol o'r Undeb Ewropeaidd - Cyprus, Lwcsembwrg, Malta, a Slofenia.
Ond nid yw maint corfforol yn bwysig os nad oes neb yn byw yno. O ystyried ei phobl, roedd gan Gymru boblogaeth o 3,107,494 yn 2021. Mewn tabl cynghrair rhyngwladol byddai’n 134ed, ychydig o flaen Namibia, ac yn fwy o ran poblogaeth na 60 o wledydd annibynnol. O'i gymharu â'r UE byddai'n fwy na saith aelod-wladwriaeth - Cyprus, Estonia, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, a Slofenia.
Felly er y gall rhai pobl ddweud fod Cymru'n gymharol fach, yn ddaearyddol, mae’n amlwg nad yw’n rhy fach, fel y dangosir gan y nifer fawr o wledydd annibynnol llai fyth. Ac nid maint yw popeth. Gellir dadlau bod daearyddiaeth a phoblogaeth yn llai pwysig na threfn economaidd.
"Digon cyfoethog i fod yn annibynnol!"
Mae nifer o fesurau o faint economaidd, a Chynnyrch Mewnwladol Crynswth (CMC) a ddefnyddir amlaf. Amcangyfrif yw hwn o werth marchnad yr holl nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir yn y wlad honno. Fe'i mynegir fel arfer ar sail enwol (nominal), ond gellir ei fynegi hefyd fel cydraddoldeb pŵer prynu (PPP), sy'n ystyried costau byw.
Yn 2022 amcangyfrifwyd bod CMC enwol Cymru yn £85.4bn. Mewn tabl cynghrair o genhedloedd sofran byddai'n safle 66, ychydig uwchlaw Oman llawn olew. Byddai'n uwch mewn CMC na 130 o wledydd annibynnol. A byddai ar y blaen i wyth aelod annibynnol o’r UE, gan gynnwys Croatia a Lwcsembwrg.
Mae cyfanswm CMC wedi'i gyfyngu gan ei boblogaeth gymharol fach. Mae cyfoeth unigol yn cael ei fesur yn ôl CMC y pen – faint o gyfoeth y mae pob person yn ei gynhyrchu. Yn 2022 amcangyfrifwyd y byddai hyn yn £27,274. Ac eto byddai hyn yn rhoi Cymru yn 30ain safle yn fyd-eang, ychydig ar y blaen i Taiwan ac yn well eu byd na 165 o wledydd annibynnol. Yn Ewrop byddai mewn gwirionedd yn gosod ar y blaen i 14 aelod-wladwriaeth, gan gynnwys Portiwgal a Sbaen!
Nid oes gennyf ddata cyflawn ar PPP, ond rwy’n sicr bod costau byw Cymru yn is na’i chymdogion agos, a fyddai’n gwella ei sefyllfa ymhellach. Ac mae’r ffigurau CMC a ddyfynnir yn seiliedig ar ddata Llywodraeth y DU, sy’n anghyflawn ac yn cuddio rhywfaint o gyfoeth Cymru; mwy am hyn mewn erthygl yn y dyfodol.
Maint cymharol
Na, nid yw Cymru mor fawr na chyfoethog â’i chymdogion agosaf. Ond nid oes neb yn honni ei fod mor fawr â'r DU - seithfed economi fwyaf y byd - nac mor gyfoethog ag Iwerddon, sydd ag un o'r CMCs y pen uchaf yn Ewrop.
Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu nad yw Cymru'n ddigon mawr neu'n ddigon gyfoethog i fod yn annibynnol. Does neb yn dadlau bod Israel, Sbaen, na Taiwan yn rhy fach nac yn rhy dlawd i fod yn annibynnol. Felly beth sydd mor unigryw am Gymru a fyddai’n ei gwneud hi felly?
Ac os cymerwn ni enghreifftiau Iwerddon neu Singapôr – y ddau wedi’u gwawdio ar adeg eu hannibyniaeth fel rhai anghynaladwy – does dim rheswm na ddylai economi Cymru ffynnu unwaith iddi ddod yn rhydd o grafangau San Steffan.
Ond er bod Cymru'n amlwg yn ddigon cyfoethog ar bapur i fod yn annibynnol, a fyddai’n medru bod heb ddyled, ac yn gallu cydbwyso refeniw treth yn erbyn gwariant cyhoeddus? >Mae rhan dau yn ystyried, ymhlith pethau eraill, a all Cymru Annibynnol dalu ein ffordd heb ‘gymhorthdal’ y DU.
Michael Murphy, Cyfarwyddwr YesCymru.
(Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Saesneg ar bylines.cymru)