Symud ymlaen o'r llywio

Sail economaidd annibyniaeth i Gymru: rhan tri

Ar ôl adolygu’r data presennol ynghylch a yw Cymru’n rhy fach neu’n rhy dlawd ar gyfer annibyniaeth, mae’r rhan olaf hon yn archwilio’r gwariant y mae Cymru wedi’i wynebu ac y byddai’n ei wynebu.

Buom yn edrych yn flaenorol ar ddau adroddiad yn ystyried yr achos economaidd dros Gymru annibynnol. Dyma adroddiad Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru 2019 (GERW) a baratowyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, ac un arall gan yr Athro John Doyle o Brifysgol Dinas Dulyn.

Roedd adroddiad GERW wedi tanamcangyfrif y refeniw a gynhyrchir gan Gymru yn sylweddol. Bydd yr erthygl hon yn edrych ar ar ba refeniw y caiff ei wario.

Gwariant y Llywodraeth

Amcangyfrifodd GERW y byddai gwariant y llywodraeth yng Nghymru ychydig yn llai na £40.8bn yn ystod y cyfnod adrodd. Fodd bynnag, roedd hynny’n cynnwys gwariant mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig a heb eu datganoli. Er ei bod yn bosibl bod yn gywir wrth roi cyfrif am wariant datganoledig mewn meysydd fel iechyd ac addysg, nid yw hynny'n wir ar gyfer meysydd nad ydynt wedi'u datganoli fel amddiffyn neu nawdd cymdeithasol.

Yn syml, mae adroddiad GERW yn dyrannu cyfran Cymru o wariant y DU fel cyfran o’i phoblogaeth, hynny yw, 4.7%. Nid yw hyn yn cymryd unrhyw ystyriaeth o ble mae gwariant yn digwydd, nac ychwaith o gapasiti economaidd cymharol. Gellid dyrannu'r costau yn decach fel cyfran o CMC: 3.3%. Gadewch i ni edrych ar y niferoedd yn fwy manwl.

Yn nhrefn maint, nododd GERW wariant ar gyfer Cymru fel:

  • Nawdd cymdeithasol, ac eithrio pensiynau - £8.954bn
  • Iechyd - £7.263bn
  • Pensiynau - ​​​​£5.846bn
  • Addysg a hyfforddiant - £4.279bn
  • Addasiadau cyfrifyddu - £2.926bn
  • Materion economaidd - £2.715bn
  • Llog dyled y sector cyhoeddus – £2.123bn
  • Amddiffyn - ​​​​£1.833bn
  • Trefn gyhoeddus a diogelwch - £1.450bn
  • Gwasanaethau cyhoeddus a chyffredin - £776mn
  • Hamdden, diwylliant a chrefydd - £743mn
  • Tai a chymunedau – £714mn
  • Diogelu'r amgylchedd - £646mn
  • Gwasanaethau rhyngwladol – £507mn

Rwy'n siŵr bod y rhan fwyaf, os nad pob un, o'r categorïau hynny'n cynnwys cyfleoedd i leihau ymhellach. Ond am y tro byddaf yn canolbwyntio ar bum maes.

Pensiynau

Dywed GERW fod Cymru'n gyfrifol am daliadau pensiwn o £5.846bn, sy'n cyfateb i 4.7% o gyfanswm atebolrwydd y DU. Honnodd yr Athro Doyle y dylai’r DU barhau i fod yn gyfrifol am y taliadau, felly dylai atebolrwydd Cymru fod yn sero ar y dechrau. Mae'r realiti rhywle rhwng y ddau. Mae dwy elfen i rwymedigaeth pensiwn y DU – pensiwn y wladwriaeth sy’n daladwy i bawb, a phensiynau’r sector cyhoeddus i’r rhai sy’n gweithio yn y gwasanaeth sifil, y GIG, ac ati.

Ar gyfer pensiynau sector cyhoeddus, dylai'r atebolrwydd aros gyda'r cyflogwr. Os oedd rhywun yn gweithio i sefydliad penodol, gan wneud taliadau pensiwn i mewn iddo, yna mae'n parhau i fod yn gyfrifol am fodloni rhwymedigaethau yn y dyfodol yn yr un modd â phe bai gan rywun gyflogwr preifat.

Os bydd rhywun yn gadael sefydliad cyhoeddus yn wirfoddol neu oherwydd diswyddiad neu ad-drefnu – fel y gallai ddigwydd ar ôl annibyniaeth – mae’n rhaid i gronfa bensiwn y cyflogwr gwreiddiol fodloni rhwymedigaethau yn y dyfodol, neu wneud taliad trosglwyddo i gronfa arall sy’n ddigonol i’w bodloni, hyd at y pwynt pan fo'r cyflogaeth yn dod i ben. Yn hyn o beth mae Doyle yn gywir, a dim ond ar ôl annibyniaeth y byddai rhwymedigaethau pensiwn y sector cyhoeddus yn dechrau cronni.

Nid yw'r sefyllfa mor glir gyda phensiynau'r wladwriaeth. Nid yw pensiynau'r DU yn cael eu talu o gronfa bwrpasol ond allan o drethiant cyffredinol. Pwrpas gwreiddiol taliadau Yswiriant Gwladol oedd talu costau nawdd cymdeithasol gan gynnwys pensiynau, ond torrwyd y cysylltiad hwnnw ers talwm. Mae pensiwn y DU bellach yn cael ei redeg fel math o gynllun Ponzi, gyda gwariant cyfredol yn cael ei ariannu gan incwm cyfredol. Dylai Cymru annibynnol ddisgwyl hunan-ariannu pensiynau’r wladwriaeth ar sail debyg.

Mae ein pensiynau sector cyhoeddus yn cynrychioli tua 25% o rwymedigaeth gyffredinol y DU, felly gall Cymru leihau gwariant ar bensiynau (o gymharu â ffigurau GERW). Ni allwn ei ddileu yn gyfan gwbl fel yr awgrymodd Doyle. Serch hynny, mae hyn yn cynrychioli gostyngiad sylweddol mewn gwariant o tua £1,460bn.

Addasiadau cyfrifo

Rwy'n amheus o ddisgrifiadau annelwig fel 'addasiadau cyfrifo' a'u bod yn cael eu cysylltu â swm fawr fel £2.926bn, y gellir eu defnyddio i guddio pob math o bethau. Ond fedra i ddim chwaith herio'r ffigwr cyffredinol hwn heb ragor o wybodaeth.

Gan fod hyn yn ymwneud â chyfrifyddu ac nid â phobl, awgrymaf y dylai costau Cymru yn hyn o beth gael eu dyrannu ar sail gymesur â CMC - 3.3% o gyfanswm y DU. Byddai hyn yn lleihau ein 'gwariant' i £2,054bn, sef arbedion o £865mn.

Llog dyled y sector cyhoeddus

Yn ôl GERW, Cymru sy’n gyfrifol am wneud taliadau llog ar ein cyfran ni o ddyled genedlaethol y DU, a gyfrifwyd yn £2.123bn y flwyddyn, yn gymesur â’r boblogaeth (4.7%). Ond mynnodd Doyle na fyddai Cymru annibynnol yn atebol am unrhyw ddyled. Nododd fod gwledydd sy'n ennill annibyniaeth trwy e.e. diddymu'r Undeb Sofietaidd ac Iwgoslafia yn dod yn rhydd o ddyled.

Unwaith eto, mae'r safbwyntiau hyn yn cynrychioli dau begwn. Byddai rhwymedigaethau Cymru annibynnol yn disgyn rhywle rhyngddynt, yn amodol ar negodi. Mae cynsail yn bodoli ar gyfer rhannu dyled, sef Confensiwn Fienna y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Gwladwriaethau sy'n Olynu (UN Vienna Convention of Successor States) – cyfraith ysgariad ryngwladol i bob pwrpas.

Yn bwysicaf oll, mae’r Confensiwn hwnnw’n cydnabod bod dyled ac asedau'n cael eu rhannu. Os yw Cymru'n gyfrifol am 4.7% o ddyled genedlaethol y DU, mae'n ddyledus iddi hefyd gyfran o 4.7% o asedau. Byddai’n berchen ar 4.7% o asedau diriaethol (tangible assets) y DU gan gynnwys y lluoedd arfog; asedau trysorlys gan gynnwys aur, bondiau, a giltiau; ac eiddo tiriog y DU a thramor. Byddai hefyd yn berchen ar 4.7% o asedau anniriaethol (anffisegol), gan gynnwys hawliau cytundeb rhyngwladol fel sedd y DU ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

Byddai perchnogaeth yr holl asedau ffisegol o fewn y wlad newydd yn trosglwyddo iddi yn awtomatig. I Gymru byddai hyn yn cynnwys tir y Weinyddiaeth Amddiffyn, asedau Ystâd y Goron, adeiladau'r llywodraeth, a seilwaith y GIG. Byddai unrhyw ddyled y gellir ei phriodoli'n uniongyrchol i asedau hefyd yn trosglwyddo. Mae hyn yr un mor berthnasol i'r wlad weddilliol, y DU sy'n weddill (RUK). Gan dybio bod RUK yn cymryd perchnogaeth lawn o fflyd Trident y DU, er enghraifft, byddai’n ysgwyddo’r holl rwymedigaethau'r ddyled cysylltiedig.

Felly er na fyddai Cymru annibynnol yn cymeryd 4.7% o ddyled y DU, ni fyddai ychwaith yn cymeryd dim dyled. Byddai'r swm yn amodol ar drafodaethau hirfaith, ond byddwn yn disgwyl canlyniad realistig o tua 1.0%, sy'n cyfateb i ad-dalu dyled o £450mn, gostyngiad o £1,673bn.

Amddiffyn

Adroddodd GERW fod Cymru'n 'gwario' £1.833bn ar amddiffyn. Nid gwariant yw hwn mewn gwirionedd, ond dyraniad cymesur o 4.7% o wariant amddiffyn y DU, yn seiliedig ar boblogaeth. Mae CMC y pen Cymru yn is na'r DU yn golygu ei fod yn cyfateb i 2.6% o CMC. Mae hyn yn gwneud i Gymru ymddangos yn un o’r cenhedloedd mwyaf arfog yn Ewrop, yn llawer uwch na tharged NATO o 2% (er mai targed a anwybyddwyd gan bron pob un o wledydd NATO Ewropeaidd yw hwn, heb sôn am wledydd nad ydynt yn perthyn i NATO).

Beth a gawn am y 'gwariant' hwnnw? Mae gwleidyddion unoliaethol yn nodi bod canolfan awyr RAF Fali yn hwb sylweddol i gyflogaeth leol Ynys Môn. Nid yn unig personél milwrol, ond hefyd gontractwyr preifat a staff cynorthwyol, a phob un yn gwario'n lleol mewn siopau, tafarndai a gwasanaethau. Mae hyn yn wir am bob canolfan filwrol fawr, a dylai Cymru ddisgwyl cyfran deg o wariant milwrol y DU.

Gydag oddeutu 180,000 o bersonél milwrol wedi’u lleoli yn y DU, gallai Cymru ddisgwyl tua 9,000 o bersonél wedi eu lleoli yno, sy’n cyfateb i ddau neu dri o ganolfannau canolig eu maint tebyg i RAF Fali, gan gefnogi economïau lleol. Ac eto mae gennym ni tua thraean o hynny – mae’r rhan fwyaf o’r fyddin wedi’i lleoli yn Ne-ddwyrain Lloegr. Mae ardaloedd hyfforddi Epynt a Chastellmartin yng Nghymru, ond ychydig o bersonél sefydlog sydd yno, ac nid yw hynny'n cyfrannu llawer i'r economi lleol.

Felly nid yn unig y mae Cymru'n gordalu am amddiffyn, ychydig iawn o fudd sy'n dod iddi o'r gwariant hwn.

Dylai cyllideb amddiffyn ar gyfer Cymru annibynnol fod yn seiliedig ar asesiad o hyn: a oes gwir-fygythiad iddi? Nid oes angen llongau tanfor a chludwyr awyrennau, na sgwadronau o danciau neu awyrennau bomio. Mae angen gwarchodlu arfordir arfog a gwarchodlu amddiffyn symudol y famwlad, a dylai fod yn barod i gyfrannu at luoedd cadw heddwch Ewropeaidd/NATO.

Byddai hyn yn costio tua 1% o CMC, o'i gymharu â 0.6% Iwerddon, tua £750mn. Mae'n ddigon i ddatblygu lluoedd arfog ar gyfer Cymru annibynnol - y rhan fwyaf yn cael ei wario yng Nghymru, gyda'r buddion economaidd yn rhai uniongyrchol - a gostyngiad yn y costau o £1,083bn.

Gwasanaethau rhyngwladol

Mae hyn yn ymwneud â chymorth rhyngwladol. Ni allai Cymru fforddio hynny i ddechrau, a dylai aros nes bod ei chyllid wedi sefydlogi. Mae hyn yn arwain at arbedion o £505mn.

Cydbwyso ein llyfrau

Gan gymryd yr uchod i ystyriaeth, nid yw amcangyfrif diwygiedig o wariant llywodraeth Cymru annibynnol yn fwy na £35,190bn, gostyngiad o £5,586bn o leiaf ar ddata GERW. Mae’n debygol bod gostyngiadau pellach yn bosibl, ond rwyf wedi eu hanwybyddu am y tro.

Fel y nodwyd mewn erthygl flaenorol, amcangyfrifwyd bod refeniw Llywodraeth Cymru ar gyfer yr un cyfnod yn £28.75bn, gan arwain at ddiffyg cyllidol diwygiedig o tua £6.44bn, sy’n cyfateb i tua 8.5% o CMC. Er bod hyn yn llawer llai na diffyg honedig GERW o £13.7bn, mae'n sylweddol fwy na £2.6bn Doyle.

Felly, er bod Cymru yn amlwg yn ddigon mawr ac yn ddigon cyfoethog i gefnogi annibyniaeth, mae rhywfaint o waith i'w wneud o hyd i sicrhau y gall gydbwyso gwariant a refeniw. Rhan o hyn yn syml yw tyfu'r economi. Rhagwelir y bydd gan Gaerdydd yr economi sy'n tyfu gyflymaf yn y DU y tu allan i Lundain eleni, felly rydym yn symud i'r cyfeiriad cywir.

Mae'r rhan fwyaf o economïau modern yn gweithredu ar ddiffyg yn y gyllideb ac yn gwneud iawn am y diffyg drwy fenthyca. Mae gan y DU ei hun ddiffyg o 4.2% ar hyn o bryd, ond nid oes neb yn awgrymu na all y DU fod yn annibynnol. Fodd bynnag, dylai Cymru gyfyngu ar fenthyca i ariannu gwariant cyfalaf yn unig – tua £3bn ar hyn o bryd – a dylai gynllunio i gydbwyso gwariant cyfredol yn erbyn refeniw.

Mae hyn yn golygu lleihau gwariant a/neu gynyddu incwm. Gellir manteisio ar ffynonellau incwm ychwanegol posibl sy'n gysylltiedig â dŵr ac ynni, ac mae'n debyg y gellir dod o hyd i ostyngiadau pellach.

Bydd angen i Gymru annibynnol wneud penderfyniadau anodd yn ei blynyddoedd cynnar i sicrhau sustem economi gynaliadwy. Byddai'n afrealistig credu fel arall. Ond nid yw hyn yn sail ddigonol i ddadlau'n argyhoeddiadol yn erbyn annibyniaeth ei hun.

Michael Murphy, Cyfarwyddwr YesCymru

(Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Saesneg ar bylines.cymru)

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.