Symud ymlaen o'r llywio

Tlodi yng Nghymru o fewn yr Undeb

Yr wythnos hon gwnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David T C Davies, fôr a mynydd o’r ‘newyddion cadarnhaol’ y byddai 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn cael eu taliad costau byw cyntaf y Gwanwyn hwn cyn bo hir.

Yn ei eiriau ef - ‘mae’n dda gweld bod dros 400,000 o’r rhai sydd â’r angen mwyaf yng Nghymru yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth y DU trwy daliadau uniongyrchol’.

Mae ffigurau’r Ysgrifennydd Gwladol yn wallus! Mae’n canolbwyntio ar ‘aelwydydd’ ond fel y gwyddom oll, pobl Cymru sy’n byw yn y cartrefi hynny a nhw sy’n dioddef o’r argyfwng costau byw.

Mewn gwirionedd, mae'r 400,000 o aelwydydd yn cyfateb i 1.4 miliwn o unigolion. Mae hynny’n agos at hanner poblogaeth Cymru. Mae’r rhain yn bobl sy’n byw mewn tlodi o ganlyniad uniongyrchol i gamreoli San Steffan o bolisiau ynni ac economi’r DU. A yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn meddwl ei bod yn dda bod San Steffan wedi gyrru cynifer i mewn i sefyllfa lle mae’n rhaid iddynt hawlio cymorth ariannol i fynd o gwmpas eu bywydau? Mae’r sefyllfa’n warthus. Mae geiriau Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn sarhad ar y bobl y mae i fod i’w cynrychioli.

Dylem i gyd fod yn gynddeiriog bod cymaint yng Nghymru mewn tlodi; yn gynddeiriog bod y Deyrnas Unedig, o safbwynt Cymru o leiaf, i bob pwrpas yn wladwriaeth ffaeledig, gyda bron i hanner ei phoblogaeth yn cael ei chategoreiddio fel rhai sy'n brwydro i gadw dau ben llinyn ynghyd; yn gynddeiriog bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn credu bod hyn yn beth da; yn wyllt gacwn fod cenedl wedi ei chynysgaeddu â chymaint o adnoddau naturiol a dynol, wedi ei lleihau i dderbyn sbarion gan San Steffan.

Rhaid i Gymru ddod yn genedl annibynnol. A all y wlad fforddio datglymu ei hun rhag San Steffan?

Y cwestiwn go iawn yw-  “a all Cymru fforddio peidio â bod yn genedl Annibynnol?” “A all pobl Cymru fforddio aros yn y berthynas wenwynig hon er mwyn cynnal rhithdybiau San Steffan, y gred fod y DU yn dal yn ‘Bŵer Byd’?”

Dylem fod yn edrych i lunio dyfodol mwy disglair trwy Annibyniaeth, yn seiliedig ar gydweithrediad rhyngwladol ac yn fwy addas ar gyfer realiti newydd yr economi fyd-eang.

Mae dyfodol mwy disglair yn bodoli i Gymru.

Gall Cymru annibynnol gymryd ei lle ochr yn ochr â’i phartneriaid Ewropeaidd, gan benderfynu ar ei thynged ei hun. Medrwn ennill parch ar draws y byd fel cymdeithas gynhwysol a blaengar.

Os ydym wir eisiau gwella bywydau’r bobl sy’n byw yng Nghymru – ein bywydau – yna mae’n rhaid cael Annibyniaeth. Mae’n bryd ‘cymryd rheolaeth yn ôl’. Amser i ni gynllunio ein dyfodol ein hunain, i wneud ein penderfyniadau ein hunain, i fuddsoddi ein hamser, asedau ac adnoddau yn ein dyfodol ein hunain.

Nid yw tlodi yn dderbyniol. Rydym yn haeddu gwell. Mae Cymru yn werth mwy na bod yn dderbynnydd moesymgrymo o ffug haelioni ysbeidiol San Steffan. Rhaid inni wrthod y syniad bod tlodi parhaus yn dderbyniol. Rhaid sylweddoli bod yr Undeb wedi cyflawni ei ddiben, bod ei amser wedi dod i ben a bod angen i’r dyfodol fod yn wahanol.

Mae llanw'r Deyrnas Unedig ar ei ffordd allan, ei heconomi yn crebachu o'i gymharu â chenhedloedd eraill, a'i chyfoeth yn disgyn yn gyflym. Mae'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn ail yn unig i’r UDA. Ac yn y cyd-destun hwn, mae Cymru ar waelod tabl cyfoeth y DU.

Wrth i’r esgid fach dynhau, bydd o fudd i San Steffan i grynhoi pa gyfoeth sydd yn weddill ymhlith y ‘rhanbarthau’ sy’n cefnogi ei chyfundrefn. Ni fydd bywydau dinasyddion Cymru byth o bwys i’r rhai sy’n tra-arglwyddieithu yn y Senedd yn Llundain.

Mae Cymru yn cael ei godro gan San Steffan. Rydym yn rhoi o’n hadnoddau naturiol, dynol ac ariannol i'r undeb ac yn derbyn llai a llai. Mae HS2 - y prosiect rheilffordd gyflym rhwng Llundain a Birmingham - yn mynd i gostio o leiaf £5 biliwn i bobl Cymru a gall y ffigwr godi i £8 Biliwn. Mae’r  budd economaidd i Gymru yn llai na dim. Bydd ein gwlad, mewn gwirionedd, £150 miliwn ar ei cholled! (Do, fe wnaethoch ddarllen hynny'n gywir - rydym ni yng Nghymru yn cyfrannu £5 biliwn fel y gall ein heconomi grebachu £150 miliwn).

Mae Cymru ynghlwm wrth berthynas gamdriniol y byddai'n ddoeth ei gadael. Nid yw'r undeb yn gweithio i Gymru ac er gwaethaf apeliadau gwleidyddol cyson i San Steffan am fwy o dan y drefn bresennol, nid oes dim wedi dod. Fel cenedl rydd ac annibynnol, bydd ein gwlad yn camu i’r dyfodol gydag economi agored a diwylliant amrywiol, byw a chyfoethog. Yn rhyngwladol ei natur. Cartref ar gyfer arloesi a chreu a meithrin cyfleoedd newydd a chyffrous.

Yn ystod y 50 mlynedd diwethaf mae'r rhestr o genhedloedd bychain ar draws Ewrop sydd wedi cipio eu tynged eu hunain ac sydd bellach yn ffynnu, yn hir: Latfia, Lithwania, Estonia, Slofenia, Tsiecia a mwy. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain wedi amneidio Cymru o ran cyfoeth a ffyniant eu pobl, hynny yn yr ychydig ddegawdau ers iddynt ennill eu hannibyniaeth.

Mae’n bryd i Gymru wneud yr un peth. Mae’n bryd i ni, bob un ohonom, gydio ein dyfodol ein hunain; ymgyrchu dros ac ennill ein hannibyniaeth; creu ein cenedl Gymreig newydd, sy’n gyfoeth o hanes ac adnoddau, ond eto’n flaengar ac yn edrych tuag allan. Cenedl hyderus, cenedl lewyrchus, cenedl llawn gobaith ac angerdd, cenedl Gymreig.


Blog Bendigeidfran

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.