Symud ymlaen o'r llywio

10 peth gorau y gallwch eu gwneud ym Mangor

Beth allwch chi ei wneud ym Mangor yr hydref hwn?

Dyma'r 10 peth gorau y gallwch eu gwneud! Bangor, dinas gadeiriol, yw'r ddinas hynaf yng Nghymru, a bydd mwy o hanes yn cael ei wneud yr hydref hwn wrth i'r ddinas gynnal yr orymdaith nesaf dros annibyniaeth ddydd Sadwrn Medi 23ain. O orymdeithio, ralïo a mwy, ac mewn trefn arbennig iawn, dyma'r 10 peth gorau i'w gwneud ym Mangor ar y 4ydd penwythnos ym mis Medi:

 

1. Gorymdeithio dros Annibyniaeth!

Dydd Sadwrn, Medi 23ain.

Ymunwch â miloedd o gefnogwyr annibyniaeth wrth fyned trwy'r ddinas gan daro'r drwm am annibyniaeth. Mae awyrgylch parti bob amser yn y gorymdeithiau hyn, ac ni fydd Bangor yn wahanol! Dewch â'ch offerynnau, clychau, chwibanau, ac yn bwysicaf oll, eich llais! Cyfarfod â ffrindiau newydd a gwneud eich rhan dros annibyniaeth Cymru.


2. Mwynhau yn y farchnad ‘annibyn’!

Dydd Sadwrn, Medi 23ain.

Beth fydd y farchnad hon yn ei gynnig?! Daeth Abertawe â chacennau cri a 

thaclau gwau! Bydd yr holl nwyddau YesCymru arferol ar gael o'r stondin a hefyd bydd stondinau gan sefydliadau eraill o grwpiau’r mudiad. Gall plant fwynhau rhai crefftau wrth i chi ymlacio wrth aros ar gychwyn yr orymdaith!


3. Ewch i'r gig annibyn!

Dydd Sadwrn, Medi 23ain, Bethesda.

Dechreuwch y penwythnos gydag ychydig o gerddoriaeth! Y dyddiau hyn mae gorymdeithiau annibyniaeth yn cael eu gwneud yn fwy cyffrous gyda noson o gig i godi hwyl. Ni fydd Bangor yn wahanol, felly trefnwch benwythnos yn y ddinas a mwynhau noson o gerddoriaeth ar thema annibyniaeth a digon o adloniant a chyfeillgarwch.


4. Ewch i Sesiwn Holi YesCymru !

Dydd Gwener. Medi 22ain.

Bydd Sesiwn Holi YesCymru yn dod â safbwynytiau amrywiol ar ddyfodol annibyniaeth. Cynhaliwyd y Sesiwn Holi gyntaf yng nghynhadledd YesCymru Aberystwyth ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Dyma eich cyfle i ofyn eich cwestiwn chi ym  Mangor! Felly, ewch yno ddydd Gwener a dechrau eich penwythnos gyda sgwrs fywiog a chyfeillgar.



5. Ymweld â chastell Penrhyn!

 

Unrhyw ddydd, 10am - 4pm.

Mae Castell Penrhyn yn adeilad rhestredig Gradd I ac fe’i cydnabyddir fel gwaith gorau Thomas Hopper. Adeiladwyd yn arddull Adfywiad Romanésg, ac fe’i hystyriwyd yn un o'r tai gwledig pwysicaf yng Nghymru ac fel ymhlith y gorau o'r Cestyll Adfywiad ym Mhrydain.



6. Ewch i weld y Bont Grog!

Unrhyw ddiwrnod.

Mae Pont Grog Menai yn Bont sy’n croesi'r Fenai rhwng Ynys Môn a’r tir mawr ger Bangor. Wedi'i chwblhau yn 1862, hi oedd y bont grog gyntaf erioed. Fel Castell Penrhyn mae pont Menai hefyd yn strwythur rhestredig gradd I.


7. Ewch i ymlacio yng Nghwm Idwal (Gwarchodfa Natur)

Dydd Sul, Medi 23ain.

Os fyddwch chi’n dal i deimlo’n egnïol peidiwch â gadael Bangor heb ymweld â Gwarchodfa Natur Cwm Idwal – yr hynaf yn y DU. Mae yma olygfeydd godidog wrth fforio’r Cwm– siâp bowlen wag wedi'i llenwi â grisial clir dyfroedd Llyn Idwal, ac yn fyd enwog am ei ffurfiannau creigiau prin a bywyd planhigion bregus."



8. Ymweld â Phrifysgol Bangor!

Unrhyw ddiwrnod.

Mae Prifysgol Bangor yn llawn hanes ac mae'n werth ei gweld. Fe'i sefydlwyd fel Prifysgol Gogledd Cymru ym 1884 a 'Bangor' oedd un o sefydliadau cyntaf Sefydliadau Prifysgol Cymru. Mae'r Brifysgol yn meddiannu cryn dipyn o dir Bangor a'i myfyrwyr yn cynnwys cyfran sylweddol o'r boblogaeth.

 

9. Ewch i Eglwys Gadeiriol Bangor!

Unrhyw ddiwrnod.

Ewch i rhyfeddu ar yr eglwys gadeiriol arddull Gothig, ar safle a ddefnyddiwyd yn wreiddiol ar gyfer Addoliad Cristnogol ers y chweched ganrif. Meddiannwyd y safle yn wreiddiol gan Fynachlog Sant Deiniol roddodd yr enw i "Eglwys Gadeiriol Sant Deiniol yn Bangor."

 

10. Lon Las Ogwen 

Dydd Sul, Medi 23ain.

Taith hawdd rhwng Bangor a Bethesda, i'r rhai sy'n yn dal i fod eisiau ymestyn eu coesau ar ôl yr Orymdaith Annibyniaeth! Dyma'r rhan gyntaf o lwybr 82, y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae'r Llwybr ar restr y Guardian o "Pump o'r teithiau beicio golygfaol gorau yng Nghymru"




Notes:

www.yes.cymru

https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/penrhyn-castle-and-garden

https://menaibridges.co.uk/?lang=cy

https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/carneddau-and-glyderau/cwm-idwal-walk

https://www.bangor.ac.uk/

https://bangorcathedral.churchinwales.org.uk/

https://www.ogwentrail.co.uk/

 

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.