CYFLWYNIAD
Mae'n ddeufis bellach ers ethol y Corff Llywodraethu Cenedlaethol (CLlC) newydd, ac mae hi wedi bod yn gyfnod prysur i'r cyfarwyddwyr newydd. Gosod sylfeini'r Cwmni Cyfyngedig drwy Warant newydd, YesCymru Cyf, oedd y flaenoriaeth gyntaf, a ddechreuodd gyda llu o gyfarfodydd trosglwyddo gyda'r rhan-ddeiliaid sydd wedi bod yn rhedeg y mudiad dros y misoedd diwethaf. Roedd y cyfarfodydd yn ymwneud ag amrywiaeth o feysydd gwaith gan gynnwys ariannol, cyfreithiol, cyfathrebu a'r cyfryngau cymdeithasol. O'r cyfarfodydd hyn a'r dogfennau trosglwyddo, nododd y CLlC 153 o bwyntiau gweithredu yr oedd angen mynd i'r afael â hwy er mwyn cael y mudiad yn ôl ar ei draed.
Penderfynwyd y byddai'r bwrdd yn rhannu i dair ffrwd gwaith, o 5 cyfarwyddwr yr un, i weithredu'r camau Cyfreithiol, Ariannol a’r gweithdrefnau cyfathrebu - ychwanegwyd ffrwd yn ymwneud â'r grwpiau ers hynny.
Mae'r CLlC yn cyfarfod yn wythnosol, mae'r ffrydiau gwaith yn cyfarfod yn rheolaidd a chynhaliwyd cyfarfodydd misol wyneb yn wyneb, y cyntaf ym mis Chwefror yn Wrecsam, ac yna ym Merthyr Tudful ym mis Mawrth.
GWAITH Y FFRYDIAU HYD YN HYN
| Amlinelliad o waith y Tîm Ariannol
Nid cyllid yw'r peth cyntaf sy'n dod i'r meddwl wrth feddwl am annibyniaeth ond fel sefydliad ag aelodau yn ganolog iddo mae'n hanfodol bwysig i ni sicrhau y gallwn ni roi cyfri am bob ceiniog o arian aelodau a'i wario'n ddoeth. O eleni bydd cyfrifon YesCymru yn cael eu rheoli gan gyfrifwyr proffesiynol profiadol sy'n sicrhau cefnogaeth a chraffu annibynnol.
Mae arian aelodaeth eleni wedi'i glustnodi ar gyfer dwy orymdaith, cyhoeddi ail bapur newydd YesCymru, dylunio a lansio gwefan newydd a dylunio ac argraffu taflenni newydd i gefnogi ymgyrchoedd sy'n mynd i'r afael â materion cyfredol.
Yn ogystal, mae arian ar gael i grwpiau lleol ar gyfer gweithgareddau pwrpasol ledled Cymru a mynychu digwyddiadau cyhoeddus amlwg.
Ac eleni, am y tro cyntaf erioed, bydd cyfran o arian aelodaeth yn cael ei neilltuo mewn cronfa wrth gefn ar gyfer ymgyrch refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.
| Amlinelliad o waith y Tîm Cyfreithiol
Yng Nghyfarfod Cyffredinol diwethaf YesCymru, pleidleisiodd yr Aelodaeth i newid statws cyfreithiol ein mudiad, o fod yn gymdeithas anghorfforedig i gwmni cyfyngedig trwy warant - YesCymru Cyf. Cafodd ei ymgorffori'n ffurfiol ac etholwyd bwrdd o gyfarwyddwyr (y Corff Llywodraethu Cenedlaethol, neu CLlC) gan yr Aelodaeth. Mae gwybodaeth am YesCymru Cyf., gan gynnwys ei chyfarwyddwyr, ar wefan Tŷ'r Cwmnïau.
Pleidleisiodd yr Aelodaeth i fabwysiadu'r Erthyglau Cymdeithasiad (y cyfansoddiad i bob pwrpas) a gynigiwyd gan y Gweithgor. Ond, un o ofynion yr Erthyglau yw bod y CLlC yn cynhyrchu ei is-ddeddfau ei hun. Dyma'r rheolau, y polisïau a'r gweithdrefnau sydd yn llywio’r ffordd y mae YesCymru Cyf. yn cael ei redeg. Gwnaeth y Gweithgor waith eithriadol mewn cyfnod byr o amser i ddrafftio set o is-ddeddfau i'w cynnig i'r CLlC, felly mae'n ofynnol i'r CLlC adolygu'r rhain a'u diwygio neu eu diweddaru lle bo angen.
Mae 18 o Is-ddeddfau i gyd a hyd yma, mae 14 o'r Is-ddeddfau wedi'u prosesu a'u cyflwyno i'r CLlC gan dîm y ffrwd waith Gyfreithiol, ac maent naill ai wedi'u mabwysiadu gan y CLlC neu yn barod i'w mabwysiadu yn dilyn mân ddiwygiadau y cytunwyd arnyn nhw, gan adael pedair Is-ddeddf sy'n dal ar y gweill.
Yn ogystal, roedd rhai tasgau llai dwys, megis sicrhau bod ein polisïau yswiriant yn cael eu trosglwyddo i YesCymru Cyf., gwneud argymhellion ynghylch cyfeiriad post ein cwmni cofrestredig a sut rydym yn ymdrin ag agweddau Ysgrifenyddol y Cwmni.
Y tasgau arwyddocaol nesaf fydd adolygu'r Is-ddeddfau ac adnabod y penodiadau, y systemau a'r gweithdrefnau y bydd eu hangen i sicrhau ein bod yn gweithredu yn unol â'r Is-ddeddfau, a sicrhau bod yr Is-ddeddfau'n cael eu diweddaru.
| Amlinelliad o waith y tîm cyfathrebu
Blaenoriaeth gynnar y Tîm Cyfathrebu oedd ailgysylltu'r CLlC â'r aelodaeth ehangach a’r ymgyrchu ar lawr gwlad. Penderfynwyd y byddai cylchlythyr yn arf cyfathrebu da a ffocws y cylchlythyr yw'r ymgyrchu llawr gwlad a'r grwpiau. Cynhyrchir dwy fersiwn ychydig yn wahanol o'r cylchlythyr bob wythnos - un ar gyfer ein 10,000 o aelodau ac un ar gyfer yr 20,000 o'n cefnogwyr.
Sefydlwyd y cyfrif e-bost [email protected] i annog aelodau i rannu'r lluniau o ymgyrchu ar lawr gwlad gyda chynulleidfa eang drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol YesCymru. Os oes gennych chi luniau i'w rhannu danfonwch nhw aton ni.
Er bod asiantaeth greadigol yn helpu i gynnal ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, daeth y cytundeb i ben ddiwedd mis Ionawr, cytunwyd i barhau i weithio gyda nhw tan ddiwedd mis Mawrth fel rhan o broses drosglwyddo, ac mae proses gaffael mewn lle i benodi cyflenwyr newydd.
Cytunwyd ar strategaeth tymor byr, a bod ail-gydio ar ymgyrchu, aelodau, a sylfaen YesCymru ar lawr gwlad yn flaenoriaeth, a bod symud y pwyslais oddi wrth materion mewnol a fu'n rhan mor amlwg o gyfathrebu'r misoedd diwethaf (h.y. y Gweithgor, yr EGM, ac etholiadau). Roedd cyfuniad o'r strategaeth hon ac aelodau yn ail-ddechrau ymgyrchu ar lawr gwlad yn sylfaen dda i'r Tîm Cyfathrebu gychwyn y gwaith o gyfathrebu gyda’r aelodau a thu hwnt.
| Amlinelliad o waith y tîm grwpiau
Dechreuodd y Tîm Grwpiau arni ar ôl y tri thîm ffrwd gwaith cyntaf, ond mae wedi gwneud cynnydd yn barod i sefydlu nifer o strwythurau gofynnol yr Erthyglau Cymdeithasiad a'r Is-ddeddfau. Mae'r 5 Cyngor Rhanbarthol wedi'u sefydlu, a phob un ohonynt wedi cynnal eu cyfarfod cyntaf. Dylai hyn baratoi'r ffordd ar gyfer cyfarfod cyntaf y Cyngor Dirprwyon yn ddiweddarach eleni.
Mae arolwg o'r grwpiau ar waith, er mwyn i ni weld pa grwpiau sy'n dal i fod yn weithredol neu sydd wedi cyfuno â grwpiau eraill. Mae rhai grwpiau wedi'u nodi fel rhai sy'n weithredol ar lawr gwlad ar hyn o bryd, tra bod eraill yn weithredol ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd cyfle yn yr holiadur i grwpiau ddweud yn agored pa adnoddau yr hoffen nhw eu derbyn i gynorthwyo eu gwaith ymgyrchu.
Mae gwaith eisoes ar y gweill i gynnal sesiynau hyfforddi i alluogi arweinwyr grwpiau wneud y defnydd gorau posibl o'n system aelodaeth.
Mae’r gwaith ymgysylltu â grwpiau sydd yn cael eu hystyried yn 'achrededig' dan y cyfansoddiad newydd, yn ogystal â ffurfio mecanweithiau i alluogi grwpiau 'cyswllt' i ddatblygu'n grwpiau wedi'u hachredu'n llawn, wedi dechrau. Mae arolwg ar y gweill i ymchwilio i'r amrywiaeth yn ein grwpiau. Bydd y wybodaeth yn ein galluogi i fonitro effeithiolrwydd ein Polisi Cyfle Cyfartal a chyflawni gofynion cyfreithiol Deddf Cydraddoldeb 2010.
Bydd cylchlythyr bob deufis i ddiweddaru arweinwyr grwpiau.
| Swyddi Penodedig
Mewn cyfarfod llawn yn diweddar cytunwyd i ddyrannu swyddi penodol: |
Cadeirydd | Elfed Williams |
Is-Gadeirydd | Nerys Jenkins |
Arweinydd Cyfreithiol | Louise Aikman |
Arweinydd Ariannol | Elfed Williams |
Arweinydd ymgysylltu â’r grwpiau | Christine Moore |
Arweinydd Cyfathrebu | Geraint Thomas |
Arweinydd Ymgyrchu a Gorymdeithiau | Phyl Griffiths |
Arweinydd uned Ymchwil | George Hudson & Richard Huw Morgan |
CYNLLUNIAU SYDD AR Y GWEILL
Mae'r CLlC a'n partneriaid wedi bod yn gweithio ar y prosiectau canlynol hyd yn hyn a byddant yn sail i'n hymgyrchu tymor canolig am y misoedd nesaf.
| Arolwg Sgiliau
Byddwn ni'n e-bostio arolwg at ein holl aelodau i weld pa sgiliau sydd gennym yn y mudiad. Cytunwyd bod angen i'n hymgyrchu ddigwydd ar sawl ffrynt felly mae galw am lu o sgiliau: rhai ymarferol, eraill yn dechnegol; sgiliau trefnu a llawer iawn mwy. Mae cyfoeth o brofiad a thalent ymhlith ein haelodau, a bydd manteisio ar ganran fach o hynny alluogi YesCymru i ymgyrchu yn fwy ac yn well.
Bydd canlyniad yr archwiliad sgiliau yn rhan o gronfa ddata'r aelodau, a bydd yn galluogi'r CLlC i feithrin cysylltiadau cryf ag aelodau ar lawr gwlad, a dod â'n haelodau i flaen y gad wrth gynllunio yn y tymor hir.
| Papur Newydd YesCymru
Yn sgil llwyddiant papur newydd YesCymru y llynedd, mae ail rifyn ar y gweill. Cyfleu'r neges am annibyniaeth i gynulleidfa eang yw'r prif nod, cynulleidfa nad yw fel arfer yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd eraill, neu ffrydiau ar-lein. O ran hynny, rhoddodd y papur newydd ffocws i grwpiau ac unigolion ar eu hymgyrchu am gyfnod, gan uno grwpiau ar ôl cyfnod o feth ymgyrchu oherwydd Covid. Gobeithiwn adeiladu ar lwyddiant y rhifyn cyntaf gyda'r ail rifyn hwn sydd i'w gyhoeddi ddiwedd y gwanwyn.
| Gwefan Newydd
Mae gwefan newydd YesCymru wrthi'n cael ei hadeiladu. Bydd y wefan newydd wedi ei gosod mewn ffordd fydd yn ei gwneud yn haws dod o hyd i bopeth. Bydd yn rhoi mwy o le i newyddion ac erthyglau, yn integreiddio'n llawn â meddalwedd cronfa ddata YesCymru, ac yn cynnig mwy i'r rhai sy'n chwilfrydig am annibyniaeth wrth ymweld â'r wefan i ryngweithio â YesCymru gyda'r bwriad iddynt ddod yn rhan o'n hymgyrch dros Annibyniaeth i Gymru yn y pen draw.
| Taflen Newydd
Er mwyn diweddaru ein deunydd ymgyrchu mae YesCymru yn bwriadu gwella ar y taflenni sydd ar gael. Mae'r daflen newydd gyntaf eisoes wedi gadael y wasg - taflen ar gynhyrchu ynni a thrydan a thlodi tanwydd. Diolch i YesMerthyrTudful am ei dylunio a chaniatáu i ni argraffu'r daflen i'w ddefnyddio ledled y wlad.
| Eisteddfod
Ar ôl bwlch o ddwy flynedd, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn mynd i Dregaron eleni. Bydd gan YesCymru stondin ar y Maes a sesiwn ym Mhabell y Cymdeithasau. Unwaith eto gobeithiwn y bydd stondin YesCymru yn gymaint o ganolbwynt â pafiliwn! - ac yn lle y gall pawb ddod i brynu eu nwyddau YesCymru am y flwyddyn i ddod.
| Uned Ymchwil
Wrth gychwyn tîm ymchwil YesCymru rydym yn gobeithio adeiladu cronfa o ddeunydd ysgrifenedig a fydd yn sylfaen i'n hymgyrchu. Bydd yr allbwn yn amrywio o bapurau o safon academaidd, traethodau hir ac erthyglau ffocws byr. Bydd y ffrwd yma o wybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer pob rhan o'n hymgyrchu, o ddiweddaru ein llyfryn 'Annibyniaeth yn dy Boced' i daflenni ar bynciau penodol a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
| Gorymdaith Wrecsam
Bydd YesCymru yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o drefnu'r orymdaith annibyniaeth yn Wrecsam ar yr 2il o Orffennaf, ac yn gweithio'n agos gyda'r pwyllgor trefnu lleol ac AUOB i wneud hon yr orymdaith dros annibyniaeth orau eto. Y tro hwn, bydd y digwyddiad yn llawer mwy na gorymdaith, bydd gŵyl annibyniaeth yn digwydd drwy'r penwythnos cyfan, Bydd yr ŵyl yn cynnwys cerddoriaeth a digwyddiadau byw dros nos Wener, dydd Sadwrn a dydd Sul, a bydd y ddigwyddiad yng nghanol y dref ac ar gyfer y gymuned gyfan. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth wrth i'r manylion gael eu cadarnhau.
Ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ail orymdaith y flwyddyn yng Nghaerdydd yn yr Hydref wrth gwrs.
| Merthyr Rising
Bydd gan YesCymru bresenoldeb yn yr ŵyl gerddoriaeth a chysyniadau radical hon ar 10-12 Mehefin 2022. Ar ôl tyfu'n rhy fawr i'w lleoliad yn Sgwâr Penderyn, eleni mae'r ŵyl yn symud i babell fawr ym Mharc Cyfarthfa, Merthyr Tudful. Bydd gan YesCymru stondin yn y brif babell gyda gwybodaeth, nwyddau a chyfle i recriwtio aelodau newydd.
Rydym ni hefyd wedi cael gwahoddiad i drefnu sgwrs am annibyniaeth ar y prif lwyfan ar y bore Sadwrn. Bydd aelodau YesCymru sy'n mynychu'r ŵyl yn gallu prynu tocyn gostyngol ar gyfer yr ŵyl .
Mae mwy o wybodaeth - https://www.merthyrrising.uk
GOBEITHION Y CLLC AM Y MISOEDD I DDOD
| Perthynas y CLlC a’r grwpiau
Mae'r CLlC yn gobeithio galluogi aelodau a grwpiau i ymgyrchu ar lawr gwlad mor effeithiol â phosib. Rydym yn sylweddoli mai ymgyrchu ein haelodau a'n grwpiau o ddydd i ddydd yw rheng flaen ein hymgyrch. Ein nod felly yw gosod yr holl strwythurau a phrosesau sydd eu hangen i sicrhau bod y berthynas hon yn tyfu mewn modd llyfn a di-drafferth. Bydd hyn yn cynnwys cyfathrebu da, anogaeth i ymgyrchu drwy gymorth ariannol a chyfathrebu cenedlaethol. Byddwn hefyd yn gweithio i annog aelodau nad ydynt o bosibl yn chwarae rhan ymarferol mewn gweithgareddau grŵp i ymuno â rhwydweithiau lleol, ac yn ceisio cael mwy o aelodau i ymgyrchu hyderus.
| Ymgyrchu Rhanbarthol
Gyda chreu Cynghorau Rhanbarthol, crëwyd deinameg arall yn ein mudiad. Bydd cyfarfodydd strategol aml yn ranbarthol yn gyfle i gydlynu digwyddiadau er mwyn bwrw’r maen i’r wal yn y modd mwyaf effeithiol. Er na all aelodau bwrdd CLlC YesCymru gymryd rolau arweiniol yn y Cynghorau Rhanbarthol, bydd y CLlC yn annog cydweithio rhwng grwpiau, y Cyngor Rhanbarthol, Cyngor y Dirprwyon a'r CLlC i gydgysylltu ymgyrchoedd a chynyddu dylanwad ein ymgyrchoedd hyd yn oed yn fwy.
| Ymgyrchu Cenedlaethol
Mae'r CLlC yn ceisio arwain yr ymgyrch genedlaethol drwy gefnogi gorymdeithiau, darparu deunydd (taflenni, papurau newydd ac ati) a'r holl rwydweithiau, strwythurau a chymorth ymarferol sydd eu hangen. Drwy gydweithio â grwpiau eraill o blaid annibyniaeth mewn chwaraeon, cerddoriaeth a'r celfyddydau, gobeithiwn symud yr agenda yn ei blaen y tu hwnt i YesCymru ei hun. Bydd deialog barhaus gyda holl ran-ddeiliaid y mudiad annibyniaeth, gan gynnwys cynrychiolaeth ffurfiol yn y Comisiwn Annibynnol ar Gyfansoddiad Cymru, a byddwn yn annog ein haelodau i gymryd rhan ym mhroses y Comisiwn.
STRATEGAETH I’R TYMOR CANOL
| Proffesiynoli'r mudiad
Mae bron pob un o ymdrechion yr NGB hyd yma wedi canolbwyntio ar broffesiynoli YesCymru. Fel i ni grybwyll eisoes, mae hyn yn cynnwys llawer o fframweithiau a phrosesau cyfreithiol ac ariannol. Mae llawer o'r gwaith hwn yn barhad o'r gwaith a wnaed gan y Gweithgor yn y cyfnod cyn y EGM ym mis Rhagfyr. Dylai'r prosesau hyn fod o gymorth i YesCymru am flynyddoedd i ddod, a chaniatáu i ni ymdopi gyda chynnydd aelodaeth a gwella capasiti ymgyrchu.
| Cynyddu Cyfranogiad Ar Lawr Gwlad
Fel yr ail sefydliad gwleidyddol mwyaf yng Nghymru, mae YesCymru am fanteisio ar gapasiti ymgyrchu ein aelodaeth. Er y bydd canran fawr o'n haelodau yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn ymgyrchu gweithredol, byddwn yn ceisio annog a galluogi cynifer o aelodau a chefnogwyr â phosibl i gymryd rhan mewn ymgyrchu ar lawr gwlad. Fel llawer o sefydliadau ymgyrchu, bydd canran o aelodau a chefnogwyr braidd yn swil. Bydd yr NGB yn ceisio galluogi aelodau i fod yn hyderus wrth ymgyrchu dros y misoedd nesaf. Gallai hyn olygu cynyddu nifer ac amrywiaeth y digwyddiadau a'r ymgyrchoedd i weddu i ddemograffeg wahanol, a chreu cysylltiad rhwng aelodau a grwpiau (grwpiau lleol a grwpiau diddordeb).
| Gyrru'r agenda Annibyniaeth yn y cyfryngau unwaith eto
Yn y gorffennol bu YesCymru yn llwyddiannus yn gwthio trafodaeth ar annibyniaeth i Gymru i dop yr agenda wleidyddol ac ar y cyfryngau. Drwy ddatblygu a chydlynu ein hymgyrchoedd yn lleol ac yn genedlaethol a thargedu y cyfryngau traddodiadol a’r cyfryngau cymdeithasol yn benodol, dylai YesCymru anelu nid yn unig at arwain y ddadl ar annibyniaeth, ond at ei gyrru ymlaen yn barhaol. Nid fydd hyn yn hawdd gan fod y byd newyddion wedi newid yn ddiweddar, a bydd angen tipyn o ymdrech ac adnoddau i wneud y gwaith hwn, ond bydd ceisio bwrw’r maen i’r wal yn gonglfaen i strategaeth YesCymru yn y tymor canolig a'r hirdymor.
| Ymgysylltu â grwpiau Demograffig pwysig
Un arall o flaenoriaethau strategol yr CLlC yw ymgysylltu â grwpiau demograffig a rhannau o gymdeithas o bwys a'u tynnu i'r mudiad annibyniaeth drwy amrywio'r ffordd rydym yn ymgyrchu. Drwy nodi demograffeg a sectorau allweddol - cymdeithasau a chymunedau a fydd yn allweddol i ennill y mwyafrif sydd ei angen mewn refferendwm - gallwn ddechrau ymgysylltu gyda’r grwpiau hyn yn awr. Gallai hyn gynnwys strategaethau ymgyrchu anuniongyrchol fel cerddoriaeth, chwaraeon a'r celfyddydau er enghraifft. Bydd cysylltu'r mudiad annibyniaeth â diwylliannau penodol (y sin gerddoriaeth, neu rwydweithiau cefnogwyr timau chwaraeon dyweder) yn helpu rhai grwpiau nad ydynt yn ymwneud â gwleidyddiaeth fel arfer i yrru'r agenda dros annibyniaeth yn ei blaen ledled Cymru.
Dyma rai o’r pethau sydd wedi eu cyflawni, prosiectau sydd ar y gweill a syniadau cynnar CLlC newydd YesCymru. Mae'n siŵr y bydd yr elfennau hyn yn esblygu dros amser, a bydd angen eu hadolygu'n aml wrth i'r mudiad a'r hinsawdd wleidyddol newid.
Diolch am ddarllen y nodyn hwn am y diweddaraf o fewn y mudiad, mae croeso i chi roi adborth.