Ymgeisydd Gogledd Cymru
Bum yn aelod o Yes Cymru o’r cychwyn cyntaf ac wedi credu mewn Cymru Annibynnol a gallu pawb sy’n galw ein cenedl yn gartref i lywodraethu ein hunain. Mae gennyf wybodaeth eang o’r mudiad annibyniaeth a thros nifer o flynyddoedd wedi mwynhau gweithio gydag aelodau brwdfrydig Yes Cymru i hyrwyddo y weledigaeth rydyn ni’n ei rhannu, o genedl annibynnol.
Rwyf wedi dal swyddi amrywiol ers gadael yr ysgol. O lanhawr yn Ysbyty Gwynedd i weithio fel athro am y 12 mlynedd diwethaf yn Abertawe, Caergybi ac Aberystwyth. Mae gweithio mewn gwahanol rannau o’n gwlad wedi fy ngalluogi i gwrdd â llawer o wynebau Cymru ym mhob cyd-destun. Pe bawn yn llwyddiannus yn hyn buaswn yn croesawu’r cyfle i weithio’n eang gyda’r mudiad cyfan ac i fod yn gynhwysol. Bydd meddwl agored a gwrando ar farn yr holl aelodau wrth symud ymlaen o bwys mawr. Felly ps yn llwyddiannus byddaf yn gweithio hyd eithaf fy ngallu i sicrhau llwyddiant Yes Cymru a’r mudiad annibyniaeth. Os yn aflwyddiannus, rydw i hefyd yn edrych ymlaen at weithio gydag eraill i gael Cymru well ac annibynnol.
Rwy'n credu bod gen i amrywiaeth eang o sgiliau y gallaf eu cynnig. Gan fy mod yn athro mae'n rhaid i mi fod yn drefnus a gallu cynllunio ymlaen llaw. Mae fy swydd hefyd yn cymell cydweithredu a chydweithio gydag eraill
Hoffwn i ddiolch yn ddiffuant i’r rhai a enwebodd fi, rwy’n hynod ddiolchgar.
Cysylltedd Gwleidyddol: Cynghorydd Annibynnol ar Ward London Rd, Caergybi.