Symud ymlaen o'r llywio

Cymru'n cael cam - unwaith eto!

Wrth ymateb i’r newyddion bod San Steffan wedi cymryd £155.5miliwn o Gymru, ar y sail nad yw’r Senedd wedi ei wario eto, dywedodd Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr YesCymru, yr ymgyrch dros Gymru Annibynnol:

‘Mae hyn yn warth. Sut byddech chi’n teimlo pe bai’ch banc yn dwyn swm enfawr o arian o’ch cyfrif oherwydd nad oeddech wedi’i wario? Arian wedi ei arbed yn ofalus at bwrpas penodol er mwyn i chi allu gwella’ch bywyd mewn rhyw ffordd? Achos dyma beth mae’r Trysorlys yn ei wneud i Gymru dro ar ôl tro. Amser i ni gymryd rheolaeth o’n adnoddau ein hunain, amser i ni wrthod y gormes cyson, amser am Annibyniaeth’

Nid yw hyn yn newydd chwaith, yn 2007 cymerodd San Steffan £385 miliwn yn ôl o Gymru. Hyd yn oed yn y blynyddoedd cyn datganoli, roedd John Redwood fel Ysgrifennydd Cymru yn ymffrostio am sicrhau toriadau yng Nghymru er mwyn iddo ymbleseru mewn danfon arian yn ôl i Lundain. Amddifadu Cymru er mwyn plesio ei gyd-feistri yn San Steffan - pa ots bod Cymru a’r Cymry yn colli allan?

Dywedodd Nerys Jenkins, Dirprwy Gadeirydd YesCymru:

‘Mae’r Undeb yn cymryd, cymryd, cymryd o Gymru. Digon yw digon. Gadewch i ni rhedeg ein materion ein hunain, gwario ein harian ein hunain. Gwneud ein penderfyniadau ein hunain, sefyll ar ein traed ein hunain a rheoli ein materion ein hunain. Ni ddylem derbyn cael ein ffermio gan San Steffan er mwyn iddynt geisio lleihau’r difrod a achoswyd gan eu camreolaeth economaidd ar hyd y blynyddoedd. Pam ddylai Cymru a phobl Cymru dalu am gamgymeriadau San Steffan?’

Mae'n dod yn gliriach fyth y bydd Cymru ar ei hennill trwy Annibyniaeth. Eisoes mae Comisiwn Cyfansoddiadol Cymru wedi datgan yn glir bod Annibyniaeth yn opsiwn gwell na’r setliad datganoli diffygiol presennol. Wrth i’r DU gyfan fynd yn dlotach a chrebachu fel presenoldeb ar y llwyfan Rhyngwladol, mae’n anochel y bydd San Steffan yn sugno ar adnoddau Cymru, fel fampirod, mewn ymdrech i gynnal ei statws, ei chyfoeth a’i phŵer. Mae hanes yn dangos nad yw tynged Cymru, nad yw plant Cymru, o bwys i wleidyddion San Steffan gan nad ydynt yn poeni dim am Gymru na’i phobl. Dim ond trwy Annibyniaeth y mae Cymru'n canfod ei ffordd i lwyddiant, i gyfoeth, i hyder.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Yn dangos 1 ymateb

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.

  • Helen Gwyn
    commented 2023-03-30 18:07:01 +0100
    Hyn yn digwydd yn rhy aml. Hen bryd i ni sefyll ar ein traed ein hunain. DEFFRWCH Gymry o’ch trwmgwsg.