Symud ymlaen o'r llywio

Mae San Steffan yn cryfhau ei gafael dros asedau ynni gwyrdd Cymru

Mae Cymru’n eistedd ar bentwr cynyddol o aur gwyrdd, ond fyddech chi a fi ddim yn gwybod hynny.

Mae hyn oherwydd nad yw’r elw enfawr a gynhyrchir gan asedau ynni adnewyddadwy Ystâd y Goron, megis gwynt y môr, yn llifo i gymunedau Cymru.

Nid ydynt yn cael eu buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, sy’n dadfeilio. Nid ydynt yn mynd i'n hysgolion na'n hysbytai.

Nid ydynt ychwaith yn cael eu defnyddio i fuddsoddi yn ein seilwaith, megis ein rhwydwaith rheilffyrdd hynafol, tameidiog, sy’n gweithredu’n wael ac sydd gan fwyaf yn annigonol.

Na, mae’r elw hwn yn llifo allan o Gymru ac i goffrau Trysorlys y DU a’r Teulu Brenhinol.

Bonansa

Mae gan Ystad y Goron bortffolio o dir a gwely’r môr sy'n werth £16bn ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn ddiweddar, fe wnaethon nhw ddatgelu iddyn nhw neud yr elw mwyaf erioed o £1.1bn, sef £658 miliwn yn fwy na'r flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 o Fawrth.

Mae'r swm hwn, sydd i raddau helaeth yn deillio o daliadau sylweddol a wnaed gan gwmnïau i glustnodi darn o wely'r môr, er mwyn iddyn nhw adeiladu eu tyrbinau gwynt arno ryw ddydd; mae hyn i fyny o £443 miliwn y flwyddyn flaenorol.

Er bod Cymru ar ei cholled, nid yw hyn yn golygu nad oes unrhyw enillwyr.

Mae brenhiniaeth Prydain yn cadw 12% o'r arian parod hwn ar ffurf Grant Sofran a ariennir gan y trethdalwr. Mae’r codiad yn elw Ystâd y Goron yn golygu y bydd y teulu brenhinol yn cael hwb o fwy na £45 miliwn.

Mae’r cynnydd hwn o 53% yn golygu y bydd eu refeniw yn neidio o £86.3 miliwn yn 2024/2025 i £132 miliwn yn 2025/2026.

Yn ôl swyddogion, bydd yr hwb ariannol hwn yn cael ei ddefnyddio i helpu i ariannu camau olaf y gwaith adnewyddu gwerth £369 miliwn i Balas Buckingham, yn ogystal ag ariannu ffordd o fyw moethus y teulu brenhinol. Bydd tyrbinau gwynt yng Nghymru yn pweru rotors hofrenyddion brenhinol!

Yn y cyfamser, mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn parhau i gael eu llwgu gan San Steffan. Er nad yw YesCymru yn barnu a ddylai Cymru barhau i gael brenhiniaeth ar ôl annibyniaeth, mae’n cwestiynu blaenoriaethau San Steffan wrth ddyrannu cyllid.

Byddai rheolaeth Gymreig ar asedau Cymreig yn golygu y gellid dyrannu'r elw i flaenoriaethu anghenion Cymru.

Mae YesCymru wedi galw ers tro am i'r Senedd reoli’r asedau hyn a’r elw a gynhyrchir ganddynt. Synnwyr cyffredin sydd wrth wraidd y safbwynt hwn, ac mae'n cael ei gefnogi gan y mwyafrif helaeth o aelodau’r Senedd.

Arswydus

Mae rhywbeth tebyg eisoes wedi digwydd yn yr Alban. Mae Llywodraeth yr Alban wedi bod yn rheoli asedau Ystâd y Goron eu gwlad ers 2016, ers i San Staffan gael eu harswydo'n dilyn refferendwm annibyniaeth 2014.

Mae Llywodraeth yr Alban eisoes yn buddsoddi'r elw a gynhyrchir gan eu hasedau Ystâd y Goron mewn mentrau cymunedol.

Nid oes unrhyw reswm pam na allai Cymru, ac yn fwy i’r pwynt, pam y dylid atal Cymru rhag gwneud rhywbeth tebyg.

Cred YesCymru y dylai adnoddau Cymraeg fod yn nwylo Cymru a'u defnyddio er lles y Cymry.

Fodd bynnag, mae llywodraethau olynol San Steffan, gan gynnwys y llywodraeth sydd newydd ei sefydlu dan arweiniad Starmer, wedi mynnu y dylid atal hyn rhag digwydd.

Os rhywbeth, mae’r sefydliad yn San Steffan bellach yn symud i gryfhau ei reolaeth dros adnoddau Cymru, gyda’r cyhoeddiad diweddar am y bartneriaeth rhwng Great British Energy, sy’n eiddo i lywodraeth Lloegr ac Ystad y Goron.

Fel rhan o’r bartneriaeth hon, mae Llywodraeth y DU yn rhoi pwerau benthyca newydd i Ystâd y Goron y gall eu defnyddio i fuddsoddi mewn prosiectau. Er bod angen mwy o bwerau ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn seilwaith, nid yw hyn ar y cardiau.

Bydd y fenter newydd hon yn cael ei rheoli gan bolisiau diwydiannol strategol Llywodraeth y DU ac nid gan anghenion pobl Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru, sydd wedi galw ers tro am i reolaeth asedau Ystâd y Goron Cymru fod yn nwylo’r Senedd, yn awr yn dawel bach yn camu’n ôl o’r safbwynt hwn gan fod Llafur wrth y llyw yn San Steffan.

Datgelwyd yn ddiweddar nad yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch trosglwydd'r rheolaeth ar asedau Ystâd y Goron yng Nghymru i’r Senedd. Mae'r asedau hyn yn cynnwys 65% o arfordir a gwely afonydd Cymru.

Wedi dyddio

Mae’r potensial ar gyfer bonansa ynni gwyrdd yng Nghymru yn enfawr. Gallai helpu i osod y sylfeini ar gyfer cenedl lewyrchus ac annibynnol.

Yn anffodus, mae’n ymddangos bod sefydliad San Steffan yn benderfynol o barhau â’r model economaidd echdynnol yr ydym wedi’i weld yng Nghymru ers canrifoedd.

Yr unig ffordd i warantu bod y model hen-ffasiwn hwn yn cael ei ddisodli ag un sy'n addas ar gyfer y dyfodol yw drwy reoli ein tynged ni ein hunain. Annibyniaeth yw'r dyfodol.

Elfed Williams – Cyfarwyddwr YesCymru

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.