Symud ymlaen o'r llywio

Gwaharddiad San Steffan ar fesur Rhywedd Yr Alban yn 'ymosodiad ar ddemocratiaeth' - PW YesCymru

'Beth bynnag yw eich barn am y gyfraith hon,  dyma ymosodiad ar ddemocratiaeth yn Yr Alban sy'n tanseilio Datganoli. Dim ond Annibyniaeth all amddiffyn ein hawliau i lunio ein cyfraith ein hunain."

Mae Prif Weithredwr y mudiad Cymreig o blaid annibyniaeth, YesCymru, yn dweud bod gwaharddiad San Steffan ar Fesur Rhywedd yr Alban yn ei hanfod yn “ymosodiad ar ddemocratiaeth”.

Gwnaeth Gwern Gwynfil y sylwadau ar ôl i weinidogion llywodraeth San Steffan gadarnhau eu bod yn rhoi feto ar ddeddfwriaeth yr Alban, yn groes i’r gefnogaeth trawsbleidiol a gafodd yn Holyrood (gan gynnwys pleidleisiau dau ASA Ceidwadol).

Mae’n dadlau mai annibyniaeth yw’r unig ffordd i ymgorffori democratiaeth yng Nghymru a’r Alban.

"Mae'r symudiad yma gan y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn gosod cynsail peryglus. Beth bynnag yw eich barn ar y gyfraith yma ei hun, mae hwn yn ymosodiad ar ddemocratiaeth yn yr Alban sy'n tanseilio datganoli. Dim ond Annibyniaeth all warchod ein hawl i wneud ein cyfraith ein hunain yma yng Nghymru.

“Rhaid i ni ei gwneud hi’n glir i bawb, tan ein bod yn sicrhau ein nod o Annibyniaeth, y bydd gan San Steffan  y pŵer i gwaredu unrhyw benderfyniadau a wneir yma yng Nghymru.

‘Does dim ots a ydyn nhw’n gwneud hynny i sgorio pwyntiau gwleidyddol, am resymau diwylliannol neu i atal Cymru rhag ehangu ei chyrhaeddiad economaidd, mae’r ffaith y gallant, yn golygu y byddant, ac yn gwneud hynny unrhyw amser fydd Cymru’n eu digio neu yn mynd yn groes i’w credoau nhw. Annibyniaeth yw ein hunig lwybr allan o’r berthynas batriarchaidd, ymelwol, gormesol ac wrth-ddemocrataidd hon.’’

“Beth bynnag eich barn bersonol ar unrhyw gyfraith, mae’n hanfodol i ddemocratiaeth i barchu penderfyniadau cynrychiolwyr etholedig. Gallwn, a dylem, brotestio'n uchel ac yn weithredol lle'r ydym yn anghytuno, ond mae gosod gwaharddiad drwy diktat imperialaidd yn annerbyniol ac yn sarhad i bleidleiswyr. Yn yr achos yma yn yr Alban ond fe all ddigwydd i ni yng Nghymru ar unrhyw adeg, dros unrhyw fater,’’ ychwanegodd Gwern.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.