Pa swyddogaeth fydd i Gymru ar lwyfan y byd? Fel cenedl fach fedr Cymru ddewis optio allan o weithred llysgenhadol rhyngwladol. Ni fyddem yn cael ein beirniadu am wneud hynny, ond gadewch i ni ystyried yr hyn medrwn gyflawni gydag uchelgais, penderfyniad, cynllun clir a’r awydd i wneud.
Mae’n hynod annhebygol y byddem, fel cenedl annibynol, yn efelychu polisi tramor ein cymdogion yn Lloegr. Nid oes gennym unrhyw ddiddordeb yn etifeddiaeth yr Ymerodraeth na’r Gymanwlad nac ymestyn grym milwrol ar draws y byd. Yn debyg iawn i bolisiau gwladol San Steffan, nid yw blaenoriaethau Cymru yn mynd i gyd-fynd â’r rhai a welir ar lefel ehangach y DU heddiw - yn sicr ni fyddant yn cyd-fynd pan ddaw’r Undeb i ben ȃ Chymru’n dilyn ei thrywydd a’i bwriad ei hun ar y llwyfan rhyngwladol.
Diau y bydd Lloegr yn gweithio’n hynod o galed i gadw gafael ar y sedd barhaol ar y Cyngor Diogelwch yn y CU wrth i’r Undeb chwalu. Mae’n anodd dychmygu unrhyw gytundeb gwahanu a fyddai’n caniatáu i Gymru gadw rhywfaint o ddylanwad o fewn y CU ar ôl Annibyniaeth gan y byddai hyn gyfystyr â rhoi feto Gymreig ar unrhyw bleidlais neu gynnig a wneir ar y lefel uchaf. Byddem yn ymuno â'r Cenhedloedd Unedig fel aelod cyffredin a byddai hyn yn ganlyniad boddhaol iawn i Gymru.
Er yn anhysbys i lawer, un o ysgogwyr gwreiddiol y syniadau a’r ymdrechion arweinodd at greu Cynghrair y Cenhedloedd (rhoddodd sylfaen i’r Cenhedloedd Unedig yn ei dro) oedd y Cymro Henry Richard (yr Apostol Heddwch’), AS Merthyr Tudful . Bu Henry yn croesi Ewrop yn ddiflino yn y 19eg ganrif yn hau hadau cydweithrediad rhyngwladol.
Felly, beth all Gymru annibynnol ei gynnig ar y llwyfan rhyngwladol?
Pŵer meddal.
Mae gennym fanteision arbennig os ydym am achub mantais a dilyn yn ôl traed Henry Richard. Nid ydym yn fygythiad i unrhyw genedl ac nid ydym mewn lleoliad lle byddai eraill yn ein bygwth. Yn aml, niwtraliaeth a’r gallu i arwain trafodaeth yw’r allwedd i ddylanwad a phŵer i wlad fechan - mae’r math hwn o bŵer o fewn gafael i Gymru Annibynnol.
Gyda thîm bach hynod fedrus, cyson a chydlynol o lysgenhadon proffesiynol i arwain a chyd-drafod yn anhunanol a gwrthrychol, gallai Cymru meithrin safle diogel ar gyfer trafodaethau sensitif. O dan y radar yn aml, ond eto'n gweithio gyda phob ochr i ddatrys gwrthdaro ac anghytundebau hyd yn oed pan fo'r prif chwaraewyr, am resymau gwleidyddol, ddim yn trafod â'i gilydd.
Ni fydd Cymru Annibynnol yn genedl newydd, bregus a digynsail ond yn un hen a hybarch, newydd ei bathu a’i rhyddhau o gaethiwed, gyda chysylltiadau byd-eang a hanes sy’n ymestyn dros ganrifoedd.
Oeddech chi'n ymwybodol bod nifer o Arlywyddion cynnar America yn Gymry neu o dras Cymraeg? A bod yna gyfraniad sylweddol gan Gymry America i Ddatganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau yn 1776?
Fel y gwelwch, rydym eisoes yn genedl â chysylltiad hanesyddol dofn ag un arch bŵer - UDA. Yna mae Tsieina, rydym yn rhannu symbol cenedlaethol grymus gyda hwythau, y Ddraig. Gallai hyn ymddangos yn ddibwys, ac yn fawr ddim o beth i adeiladu perthynas o ymddiriedaeth a ffydd arni, ond mae symbolau yn hynod bwysig yn y dwyrain pell, ac nid yw Tsieina yn eithriad. Mae’r Ddraig Goch yn agor tipyn o gul y drws, gwaith caled, hygrededd, bwriad a chynllun clir sydd angen i wireddu’r gweddill.
Bydd ystyriaethau ‘realpolitik’ yn sicr o gydnabod teilyngdod fforwm allanol, gwrthrychol, heb iddi unrhyw fuddiannau breintiedig.
Pan fo sianeli swyddogol uniongyrchol wedi methu gallai Cymru weithredu fel mainc cyswllt a chyfrwng cyfathrebu. Pan fo teimladau domestig gwledydd mawr perthnasol yn galw am osgo gwleidyddol nad yw o reidrwydd yn cyd-fynd â diddordebau na chynlluniau hirdymor gall Gymru annibynnol chwarae rol allweddol ar lwyfan y byd.
Blog Bendigeidfran