Symud ymlaen o'r llywio

Heb amheuaeth, dylai pob ffermwr yng Nghymru gefnogi Annibyniaeth

Os oes gennych rywfaint o wybodaeth am faterion gwledig, rwy’n rhagweld eich bod yn meddwl y bydd yr ysgrif hon yn ymwneud a chamwedd cytundeb masnach Awstralia, a gytunwyd arni ar frys gan lywodraeth San Steffan wrth iddynt ceisio’n daer i ddilysu Brexit yn economaidd. Efallai y byddwch yn disgwyl i mi draethu am yr anghydnawsedd rhynt gwirionedd bywyd gwledig Cymru o gymharu â bywyd Lloegr. Neu hyd yn oed rhywbeth sy'n archwilio'r gwahaniaethau diwylliannol yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU.

Nid dyna sydd gennym - mae’n ddrwg gennyf eich siomi! Tra bod rhain a llawer o faterion eraill yn sicr yn ddilys nid dyna yw fy asgwrn cynnen heddiw ‘ma. Tra bod digon i drafod o ran dyfodol cefn gwlad Cymru a’r potensial a gynigir gan Annibyniaeth, nid dyma’r rheswm sylfaenol a chraidd pam y dylai pob ffermwr unigol yng Nghymru ddymuno Annibyniaeth yn reddfol ac yn llwyr. 

Gadewch i ni greu darlun.

Mae ffermwyr yn caru eu tir trwy reddf, mae ganddyn nhw bob amser gysylltiad dwfn ag ef. P'un a oes ganddynt fferm deuluol aml-genhedlaeth neu rywsut wedi llwyddo i adeiladu busnes fferm a chaffael tir o ddim. Natur ffermio yw gofalu, coleddu a gwella'r hyn sydd gennych. Mae angen cynllunio hirdymor, ceidwadaeth gynhenid ​​yn aml a dealltwriaeth o'u daliadau eu hunain sy'n dod gydag amser ac etifeddiaeth. Mwy na cadw traed ar y ddaear mae gan ffermwyr eu traed yn y ddaear.

Felly dyma ni, gyda'n fferm fechan ond hardd. Llawn potensial ond angen llawer o waith, yn gyson - dyna natur meithrin ffarm wedi’r cyfan.

Yn anffodus, mae yna fferm 20 gwaith yn fwy drws nesaf. Yn waeth na hyn, mae’r ffermwr drws nesaf i bob pwrpas yn rheoli tua 80% o bopeth y gallwn ei wneud ar ein fferm.

Maent hefyd yn casglu tua 90% o’r elw o bopeth rydyn ni’n ei gynhyrchu ar ein fferm,

Nid ydynt yn rhoi cyfrif cywir i ni o faint mae hyn yn ei gynhyrchu iddynt.

Maent yn gwario hyn yn ôl blaenoriaethau eu fferm enfawr drws nesaf heb ystyriaeth i’n anghenion ni.

Yna, ‘yn hael’, yn darparu symiau o arian i ni redeg ein gweithrediadau amaethyddol. Gwnânt hyn yn fympwyol, gyda rheolau y maent yn eu hysgrifennu eu hunain.

Maent yn ein hatal rhag buddsoddi mewn gwella ein fferm, ei seilwaith a’n dyfodol.

Mae’n debyg eu bod nhw’n caru eu fferm nhw, yn eu ffordd eu hunain, ond yn bendant dydyn nhw ddim yn gofalu am ein fferm ni nac yn ei charu.

Ni fyddai, ac ni ddylai, unrhyw ffermwr ganiatáu i’r fferm drws nesaf osod blaenoriaethau ar gyfer eu daliadau, eu hanifeiliaid, eu cnydau.

Dyma pam y dylai pob ffermwr yng Nghymru fod yn uchel eu cloch dros Gymru Annibynol.


Blog Bendigeidfran

 

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.