Pam fod Cymru'n allforio ei hasedau a'i hadnoddau, neu'n gadael iddynt gael eu dwyn pan fyddai hyd yn oed newidiadau bychain yn sicrhau ein bod ni yn elwa?
Gan Michael Murphy, Cyfarwyddwr YesCymru
Codwyd nifer o ffermydd gwynt yn y môr ar arfordir gogledd Cymru yn y blynyddoedd diwethaf. Bydd dwy fferm wynt arall sy'n cael eu datblygu heddiw yn cynyddu’r pŵer o'r 700 megawat (MW) presennol i 2,700MW. Mae ffermydd gwynt arnofiol hefyd yn cael eu datblygu oddi ar arfordir de-orllewin Cymru, a allai ddarparu 2,000MW ychwanegol.
Ond hyd yn oed cyn i'r ffermydd gwynt newydd hyn gael eu lansio, mae Cymru eisoes yn cynhyrchu 50% yn fwy o drydan nag sydd ei angen arni. Mae hyn yn cael ei allforio heb fawr o fudd i Gymru ei hun. Mae defnyddwyr trydan yng Nghymru eisoes yn talu rhai o'r costau sefydlog uchaf am ynni yn y DU, tra bod elw a threthi'n cael eu cofnodi mewn mannau eraill.
Cyfle Unigryw
Un o fethiannau mwyaf economi Cymru yw'r diffyg diwydiant sy'n ychwanegu gwerth, ac mae'r datblygiad o'r ffermydd gwynt hyn yn ymddangos fel petai'n mynd i barhau â'r tueddiad hwn. Byddant yn darparu rhai swyddi gyda thâl isel, ond bydd y rhan fwyaf o'r offer a'r gwasanaethau arbenigol yn cael eu mewnforio i Gymru.
Nid oes raid iddi fod fel hyn! Mae gennym gyfle unwaith mewn oes i fanteisio ar y datblygiadau hyn, ond mae angen i ni symud yn gyflym.
Mae'r tyrbinau gwynt eu hunain yn cynnwys darnau cymhleth. Ni allwn ddisgwyl, yn realistig i gyflenwyr o'r Almaen a Tsieina sefydlu cyfleusterau gweithgynhyrchu yng Nghymru. Ond mae coesau’r tyrau yn llawer symlach – yn y bôn, pibellau dur mawr ydyn nhw. Mae'r rhain wedi'u gwneud o bedwar neu bump o adrannau 20m wedi'u bolltio gyda'i gilydd, gyda phob un yn 3m i 4m mewn diamedr, a’r waliau’n hyd at 50mm o drwch.
Nid yw'r cyflenwyr tyrbinau yn gweithgynhyrchu'r rhain eu hunain ond yn eu is-gontractio i gyflenwyr eraill ac yn eu cludo ar wahân i'w cydosod yn man codi. Nid oes rheswm pam na all rhannau o’r tŵr gael eu cynhyrchu yng Nghymru, gyda lleoliad delfrydol yn Aber Port Talbot.
Dylai Llywodraeth Cymru fynd at Tata Steel i ddatblygu cyfleusterau cynhyrchu tyrau fel rhan o'r trawsnewid o wneud dur cynradd yn Aber Port Talbot. Mae'r rhan fwyaf o'r cyfleusterau cynhyrchu: y lanfa, a'r gwasanaethau cefnogi eisoes ar gael, yn ogystal â gweithlu lleol medrus. Gellir cyflenwi'r tyrau o'r porthladd yn uniongyrchol i'w safle yn y Môr Celtaidd, gan leihau logisteg a chostau cludo'r gadwyn gyflenwi yn sylweddol, a darparu swyddi â thâl da.
Wedi'u Gwneud yng Nghymru
Gellid adeiladu'r strwythurau arnofiol hefyd yng Nghymru. Mae'r rhain yn debyg i strwythurau cefnogi llwyfannau olew a nwy ond yn llawer llai cymhleth. Byddent yn gofyn am iard cynhyrchu gosod llawer mwy (a gweithlu) na iard cynhyrchu’r adrannau tŵr. Bydd diwedd cynhyrchu dur cynradd yn Aber Port Talbot yn rhyddhau ardaloedd mawr o lanfa a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer storio glo a mwyn haearn.
Unwaith eto, mae'r rhan fwyaf o'r cyfleusterau cynhyrchu a chefnogi gofynnol eisoes ar gael. Dim ond gweledigaeth ac ewyllus sydd eu hangen i gyflawni’r gwaith.
Er mai cefnogi ffermydd gwynt yn y Môr Celtaidd ddylai fod yn brif darged, gallwn hefyd gystadlu am waith ffermydd gwynt ymhellach i ffwrdd. A thra dylai'r ffocws cyfredol fod ar bŵer gwynt, bydd y datblygiad mawr nesaf yn bŵer llanw – boed yn argae Hafren neu dagfeydd llanw. Bydd gan hyn ofynion gwahanol, yn debygol yn cynnwys adeiladu caissons concrid cyn-gast mawr. Rhaid i ni sicrhau bod cymaint o'r gwaith hwn â phosib yn cael ei gyflenwi o Gymru, trwy fynnu bod amodau cynllunio yn cynnwys 'cynllun cynnwys lleol'.
Byddai'r holl gynigion hyn yn fuddiol i economi Cymru, ond nid ydynt yn nodau arbennig o uchelgeisiol. Mae angen i ni hefyd feddwl am beth allwn ni ei wneud gyda'n pŵer gormodol, ar wahân i'w allforio. Mae angen i ni nodi diwydiannau dwys ynni a all harneisio ein pŵer ar y ffynhonnell, gan leihau costau oherwydd colledion trosglwyddo.
Gwelon ni enghraifft dda o hyn gydag Aliminiwm Môn, a ddefnyddiodd hyd at 25% o drydan a gynhyrchwyd ym mhwerdy niwclear Wylfa, gerllaw. (Mae'r ddau bellach ar gau). Mae clystyrau o gwmnïau optig-uwch o amgylch Llanelwy lle, ar un adeg, roedd Pilkington yn toddi ei wydr a deunyddiau tanio ei hun. Gellid annog cwmnïau o'r fath i ailgychwyn cynhyrchu yno, o ystyried bod trydan rhad ar gael yn helaeth.
Ffermydd Gwynt i Gymru
Mae diwydiannau dwys ynni eraill yn cynnwys cynhyrchu gwrtaith, melino papur, a serameg. Gellid annog y rhain i leoli neu ehangu mewn rhannau o arfordir Cymru sydd eisoes wedi'u diwydiannu.
Gall ein pŵer gwynt a phŵer llanw hefyd gael eu defnyddio fel y brif ffynhonnell pŵer wrth weithgynhyrchu hydrogen gwyrdd, gyda'n cyflenwad dŵr helaeth yn ddeunydd crai arall. Gallai adeiladu ffatri hydrogen gwyrdd yn ein clwstwr ynni yn Aberdaugleddau – a all allforio hydrogen i Ewrop ar ffurf amonia hylifol – hefyd ddarparu deunydd crai ar gyfer diwydiannau gwyrdd newydd fel celloedd tanwydd.
Dyma yw gwir bwrpas 'porthladdoedd rhydd'. Nid caniatau lle i weithio heb reoliadau tynn ond i annog gweithgynhyrchu er mwyn allforio’r cynnyrch, a hwnnw’n gynnyrch cynaliadwy pan fo hynny’n bosib, a lle mae unrhyw werth ychwanegol yn aros yng Nghymru.
Tra bod ein hadnoddau naturiol yn werthfawr, rhaid i ni beidio ag ailadrodd cangymeriadau hanes, trwy echdynnu ein cyfoeth o’r Ddaear er budd eraill (chi'n gwybod pwy ydw i'n ei olygu). Rhaid i ni wneud y mwyaf o'u gwerth er ein budd ein hunain trwy sicrhau eu bod yn darparu datblygiad cynaliadwy ac ychwanegu gwerth i Gymru.
Mae gennym gyfle i greu chwyldro diwydiannol newydd. I greu Cymru fersiwn 2.0.
Ond rhaid i ni weithredu nawr – a chadw llaw budur San Steffan cyn belled i ffwrdd â phosib.