Mae'n bleser gan YesCymru, Indyfest Wrecsam ac AUOB Cymru gyhoeddi'r siaradwyr cyntaf yn Wrecsam!
Bydd Pol Wong o IndyFest Wrecsam yn ein croesawu ni i gyd i Wrecsam!
Bydd yr awdures, bardd ac actifydd Evrah Rose yn camu ar y llwyfan!
Cawn ein diddanu gan y darlledwr Tudur Owen!
Cofiwch ddod â'ch llais, a'ch hancesi poced! Oherwydd bydd Dafydd Iwan yn bresennol!
Cyhoeddwyd Carrie Harper, cynghorydd Sir Plaid Cymru dros ward Queensway yn Wrecsam fel y siaradwr nesaf!
Bydd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn dweud gair ar ddiwedd yr Orymdaith yn Wrecsam ar yr 2il o Orffennaf.
Dylan Lewis Rowlands Cyd-Gadeirydd Labour4IndyWales a Chynghorydd Tref Penparcau.