Symud ymlaen o'r llywio

YesCymru a’r Comisiwn Annibynol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Ym mis Chwefror eleni, cysylltodd YesCymru â'r comisiwn a chofrestru cais i gymryd rhan fel sefydliad sydd â'r unig nod o ymgyrchu dros annibyniaeth. 
 
Gwahoddwyd Yes Cymru wedyn i fynychu cyfarfod Zoom a daeth tri chyfarwyddwr i'r cyfarfod.
Mae'r canlynol yn grynodeb o'n trafodaeth yn unol â chanllawiau'r comisiwn.
Roedd ein cyflwyniad yn cynnwys cyflwyniad ar lafar ar-
Hanes YesCymru,
Yr angen am newid cyfansoddiadol,
Pam mae YesCymru Cyf yn credu bod angen newid cyfansoddiadol ar Gymru a pham mai annibyniaeth oedd y model gorau - fel y nodir yn Erthyglau Cymdeithasu YesCymru 
Y camau i Annibyniaeth,
Y dylai'r pŵer deddfwriaethol i gynnal refferendwm annibyniaeth fod gyda'r Senedd yn unig a dylai sawl ffactor arwain at refferendwm (a amlinellwyd gennym);

Nododd y comisiwn nifer o gwestiynau i YesCymru ar ein barn ar nifer o feysydd o ddiddordeb mewn unrhyw drefn gyfansoddiadol bosibl, gan gynnwys.
Perthynas Cymru â gwledydd hanesyddol y DU, Dosrannu dyledion a chronfeydd wrth gefn , Cytundebau masnach, ffiniau a rhyddid i symud


Ein casgliad i'r comisiwn oedd bod YesCymru yn credu'n gryf mai dim ond fel cenedl annibynnol sy'n berchen ar y problemau a'r atebion i'r problemau y gellir goresgyn y sialensau  y mae Cymru'n
eu hwynebu.


Bydd y broses yn parhau, a chynhelir sawl cyfarfod arall rhwng YesCymru a'r comisiwn cyn diwedd y broses ymgynghori.

https://gov.wales/independent-commission-constitutional-future-wales

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.