Symud ymlaen o'r llywio

YesCymru a YesBreizh yn Cyhoeddi Partneriaeth

Mae YesCymru a YesBreizh, y prif fudiad sy'n ymgyrchu dros hunanlywodraeth yn Llydaw, wedi llunio partneriaeth newydd gyda'r nod o gryfhau'r cysylltiadau a'r cydweithio rhwng y ddau fudiad.

Teithiodd cynrychiolwyr YesCymru i Lydaw dros y penwythnos, lle bu Cadeirydd YesCymru, Rob Hughes, ac aelod o staff YesCymru, Bronwen Morgan, yn ymweld â 37ain Gouel al levrioù e Breizh (Gŵyl Lyfrau Llydaw) ac yn cyfarfod â chynrychiolwyr YesBreizh, gan gynnwys Philippe (Fulup) Corréa, Izold Guegan ac Alain Le Cloarac.

Nod y cytundeb partneriaeth yw meithrin cydweithio agosach rhwng y ddau fudiad, cryfhau cysylltiadau diwylliannol a gwleidyddol, ac annog rhannu profiadau a syniadau wrth iddynt weithio tuag at eu hamcanion.

Wrth siarad ar ran YesCymru, dywedodd Rob Hughes:

“Rydym yn falch iawn o gael y cyfle gwych hwn i gydweithio gyda YesBreizh, mudiad cymharol newydd sy'n gweithio i gefnogi pobl Llydaw ar eu taith tuag at hunanlywodraeth. Mae'n rhyfeddol meddwl ein bod ninnau wedi wynebu brwydr debyg bron i ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, ac ennill o drwch blewyn i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd bellach wedi datblygu'n Senedd Cymru. Bellach, mae annibyniaeth yn bosibilrwydd gwirioneddol yng Nghymru, a gallwn edrych yn ôl ar ein llwyddiannau a defnyddio ein profiad i gefnogi mudiadau mewn gwledydd eraill ar eu taith hwythau.

“Heb os, mae Llydaw yn wynebu llawer o'r un heriau ac anghyfiawnderau â Chymru. Roedd yn bleser pur cael cymaint o sgyrsiau yn Gymraeg gyda'n cefndryd a'n cyfeillion o Lydaw dros y penwythnos. Rydym yn hynod ddiolchgar i YesBreizh am y croeso cynnes, y profiadau gwych a'u lletygarwch hael.”

Wrth siarad ar ran YesBreizh, dywedodd Philippe (Fulup) Corréa:

“Rydym wrth ein bodd yn cydweithio gyda YesCymru, y mae profiad a phenderfyniad YesCymru yn gaffaeliad aruthrol i YesBreizh wrth i ni feithrin cefnogaeth i hunanlywodraeth yn Llydaw. Mae taith Cymru yn dangos bod newid yn bosibl pan fydd pobl yn credu yn nyfodol eu gwlad ac yn cydweithio i gyrraedd y nod.

“Yr hyn a wnaeth y penwythnos hwn yn arbennig o deimladwy oedd clywed y tebygrwydd rhyfeddol rhwng ein geirfaoedd Llydewig a Chymreig. Rydym yn fwy na chymdogion: rydym yn perthyn i gymuned fyw sydd wedi'i gwreiddio mewn hanes cyffredin, ieithoedd sy’n perthyn i’w gilydd a chysylltiadau diwylliannol sy'n parhau hyd heddiw. Mae cydweithio yn gyfle gwych i gryfhau'r gymuned honno a rhoi mwy o hyder i'n pobloedd yn eu dyfodol.

“Gall Llydaw wneud yn well. Rhaid i Lydaw wneud yn well. Bydd Llydaw yn gwneud yn well!”

Mae'r cytundeb yn nodi pennod newydd yn y berthynas hirsefydlog rhwng Cymru a Llydaw, dwy genedl sydd wedi'u huno gan gysylltiadau hanesyddol, ieithyddol a diwylliannol dwfn. Mae'r ddau fudiad yn gobeithio y bydd y bartneriaeth yn annog mwy o gydweithio, cyd-ddealltwriaeth ac undod parhaol rhwng pobl y ddwy genedl.

 

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.