Symud ymlaen o'r llywio

YesCymru yn cyhoeddi penodiad Prif Weithredwr

Mae YesCymru yn falch o gyhoeddi eu bod wedi penodi Gwern Gwynfil i swydd newydd Prif Weithredwr

Mae YesCymru yn falch o gyhoeddi eu bod wedi penodi Gwern Gwynfil i swydd newydd Prif Weithredwr llawn amser, yn adrodd i Gorff Llywodraethol Cenedlaethol (Bwrdd Cyfarwyddwyr) y sefydliad.  

Y Prif Weithredwr newydd fydd yn gyfrifol am redeg YesCymru o ddydd i ddydd ac am weithredu ei strategaeth ar gyfer sicrhau annibyniaeth i Gymru.

Mae Gwern, 48, wedi ymrwymo'n gadarn i achos annibyniaeth i Gymru. Mae ganddo gefndir busnes cryf, ac wedi bod yn Rheolwr Gyfarwyddwr y busnes teuluol yn Nhregaron, Rhiannon Cyf am 18 mlynedd. Sefydlwyd busnes gan ei fam, y gof aur ac arian, Rhiannon Ifans, dros 50 mlynedd yn ôl ac mae’n masnacha yn ryngwladol

Graddiodd Gwern mewn hanes yn Rhydychen, gan ennill diploma i ol-raddedigion o Brifysgol Aberystwyth, ac mae wedi gweithio gyda sawl sefydliad cyn dychwelyd i'r busnes teuluol yn 2004. Mae Gwern yn dad i 5 o blant.

Meddai Gwern:

"Rwy'n edrych ymlaen at chwarae rhan allweddol ym mhennod nesaf datblygiad YesCymru. Mae cyfrannu  tuag at yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru mewn rôl llawn amser yn gyfle cyffrous, bydd yn fy ngalluogi i wneud gwahaniaeth go iawn i ymgyrch sydd mor agos at fy nghalon”

Mae penodiad Gwern fel Prif Swyddog Gweithredol yn nodi cam pwysig yn natblygiad  YesCymru a bydd yn gam ymlaen yn y frwydr dros annibyniaeth I Gymru..

Dywedodd Cadeirydd YesCymru, Elfed Williams:

"Rydym yn croesawu Gwern yn fawr i'r rôl newydd gyffrous yma. Mae penodi Prif Weithredwr yn benderfyniad mor allweddol wrth ddatblygu YesCymru a'r ymgyrch dros annibyniaeth ymhellach. Mae’n amlwg, o'r hyn sy'n digwydd yn San Steffan, bod yr  achos a’r awydd dros annibyniaeth yn cynyddu’n ddyddiol.  Mae adeiladu tîm proffesiynol er mwyn arwain ein mudiad yn allweddol, ac mae penodi Gwern yn gam mawr ymlaen.”

Mae Gwern yn dechrau gweithio gyda YesCymru heddiw (5-Medi 2022) a gan bod llai na mis i’r orymdaith dros Annibyniaeth yng Nghaerdydd, , mai’n gyfnod prysur a chyffrous i Gwern ac YesCymru.

 

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.