Symud ymlaen o'r llywio

Prif Weithredwr YesCymru yn cyhuddo Sunak o “ddamsgen ar hawliau gweithwyr Cymru”

Prif Weithredwr YesCymru yn cyhuddo Sunak o “ddamsgen ar hawliau gweithwyr Cymru” gyda deddfwriaeth “anfoesol” gwrth-streicio

Mae Prif Weithredwr YesCymru wedi cyhuddo Rishi Sunak o “ddamsgen ar hawliau” gweithwyr Cymru gyda deddfwriaeth anfoesol gwrth-streicio.

Fe wnaethpwyd y sylwadau gan Gwern Gwynfil sy’n arwain y grẃp dros annibyniaeth, wedi i weinidogion San Steffan gyhoeddi eu bwriad i ymosod ar undebau. Dadleuodd taw annibyniaeth yw’r unig ffordd i sicrhau “dyfodol gwell i Gymru ac i’w thrigolion…”

O dan y ddeddfwriaeth a fyddai’n cael ei osod ar Gymru gan San Steffan, mi fydd cyflogwyr yn medru dwyn achos yn erbyn yr undebau ac hefyd diswyddo gweithwyr sydd yn streicio.

Mi fydd y deddfwriaeth yn grymuso “lefelau gwasanaeth lleiafswm” mewn chwe sector, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, rheilffyrdd, tan a diogelwch ffiniau.

Mi fyddant hefyd yn gorfodi canran o aelodau undebau i barhau i weithio i gynnal y “lefelau gwasanaeth lleiafswm” rheiny ac mi fyddai hyn yn golygu byddai streiciau yn cael eu barnu yn anghyfreithlon pe buasai’r undebau yn gwrthod eu darparu.

Dywedodd Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr YesCymru:

“Mae ymosodiad llywodraeth Sunak ar hawliau gweithwyr yn tanseilio y rhyddid a’r gwerthoedd sydd yn cael eu mwynhau gan boblogaeth Cymru heddiw. Mae gweithrediadau llywodraeth San Steffan yn bur anfoesol ac heb unrhyw gyfiawnhad.

“Rydym yn wir werthfawrogi ein pobol yma yng Nghymru-rydym ni ddim yn curo dwylo dim ond pan fydd hynny’n ein siwtio ni; mae ein brodyr a’n chwiorydd, ein cymdogion a’n cyfeillion, mamau a’n tadau yn haeddu safon o fywyd rhesymol ac ni ddylid disgwyl  iddynt ymrafael gyda hyn yn eu gwaith a’u cartrefi o hyd ac o hyd. Rhaid mynnu ar annibyniaeth er mwyn adeiladu dyfodol gwell i Gymru ac i’w thrigolion oll. Rhaid rhoi terfyn ar San Steffan yn damsgen ein hawliau a chamfanteisio arnynt er mwyn eu perwyl eu hunain.”

 

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.