Lansiwyd Ysgoloriaeth newydd sbon ar faes Eisteddfod Llyn ac Eifionydd er cof am lais a dawn llefaru rhyfeddol y diweddar Eddie Butler.
O flaen cynulleidfa ym mhabell y cymdeithasau oedd yn cynnwys merch Ed, Nell a ffrind i’r teulu Rachel, cafwyd gyflwyniad gan YesCymru i lansio darlith goffa flynyddol fydd hefyd yn cynnwys gwobrwyo’r llefarydd ifanc am ysgrifennu a chyflwyno’r araith orau dros annibyniaeth.
Yn ogystal ag edrych ar yr elfennau sy’n gwneud araith lwyddiannus, cafwyd tipyn o hwyl yn ystod y cyflwyniad wrth i’r siaradwyr gwadd, yr economegydd Rhys ap Gwilym a phrif weithredwr Yes Cymru Gwern Gwynfil fynd ben ben a’i gilydd mewn cystadleuaeth areithio ond, diolch i ddiffyg sgiliau cyfri’r cadeirydd Phyl Griffiths, cyfartal oedd y canlyniad!
Mae Yes Cymru’n ddiolchgar iawn i deulu Ed am eu cefnogaeth, ac yn diolch yn arbennig i Nell am deithio o Fryste i fynychu’r lansiad yng nghwmni Rachel.
Bwriad ysgoloriaeth Eddie Butler fydd dathlu a datblygu’r genhedlaeth nesa o lefarwyr talentog ac mae Yes Cymru’n annog athrawon a disgyblion ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion (oed 14-21) i gysylltu am fwy o fanylion cyn mynd ati i greu areithiau angerddol, clyfar ac ysbrydoledig.
Pwynt cyswllt am fwy o fanylion; Phyl Griffiths – [email protected]
Cyfle i chi fwynhau araith Eddie Butler ym Merthyr; https://www.youtube.com/watch?v=Nef8aqvYlfo
Llun a fideo; Steve Jones - CXG