Symud ymlaen o'r llywio

Aelodaeth YesCymru yn cyrraedd 15,000

Ar ddechrau'r flwyddyn roedd gan YesCymru tua 2,500 o aelodau, ond mae cyfuniad o ffactorau wedi sicrhau fod yr ymgyrch dros annibyniaeth wedi mynd o nerth i nerth. Roedd yr aelodaeth wedi mwy na threblu i dros 8,000 erbyn canol mis Hydref, ac erbyn hyn mae bron wedi dyblu unwaith eto i dros 15,000 o aelodau taledig mewn 3 wythnos.

Croesawodd Sion Jobbins, Cadeirydd YesCymru, yr aelodau newydd, meddai: “Mae hyn yn newyddion gwych! Mae YesCymru yn benderfynol o greu mudiad torfol croesawgar, lliwgar a blaengar dros annibyniaeth. Rydym yn credu y bydd yna refferendwm dros annibyniaeth yn yr Alban yn y blynyddoedd nesa, ac yna ail-uno Iwerddon. Felly beth fydd yn digwydd i Gymru?"

"Mae’r ffordd mae San Steffan wedi ymdrin â COVID-19 wedi dangos i bobl Cymru y gall ein Senedd weithredu yn llawer mwy effeithiol na San Steffan."

"Ar yr adegau mae ein Senedd wedi anwybyddu San Steffan a rhoi Cymru yn gyntaf, rydym wedi gweithredu yn fwy effeithiol. Cafodd y clo pythefnos yng Nghymru, sy’n anodd ac yn straen ar bob un ohonom, ei watwar gan San Steffan a rhannau o’r cyfryngau Llundeinig. Ond erbyn hyn mae Llywodraeth San Steffan wedi gorfod gosod cyfnod clo yn Lloegr, ac am fwy o amser. Lle mae Cymru yn arwain, mae eraill yn dilyn."

"Ond nid yw datganoli yn ddigonol. Rhaid i ni sicrhau annibyniaeth."

"Nid San Steffan yw’r ateb i’n problemau. Ym Mesur y Farchnad Fewnol - dan gochl dogfen ddiflas nad oes angen i ni yng Nghymru boeni amdani - cymerodd San Steffan bwerau oddi ar ein Senedd, pwerau yr ydym wedi'u hennill mewn dau refferendwm."

"Rydym wedi gweld y Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain yn rhoi contractau gwerth biliynau i'w ffrindiau, gydag arian yn cael ei dalu ymlaen llaw i gwmnïau newydd sbon ddarparu PPE sydd ddim yn gweithio. Cafodd tua £12bn – mwy na’r gyllideb iechyd cyfan yng Nghymru – ei wastraffu ar system trac ac olrhain sydd braidd yn gweithio!"

"Nid yw San Steffan yn poeni am Gymru. Gofynnodd Prif Weinidog Cymru i San Steffan am arian, a hyd yn oed addo ei ad-dalu, i gefnogi ein busnesau a’n pobl. Dywedodd San Steffan “NA”. Pan gyhoeddodd Johnson y cloi mis o hyd yn Lloegr, yn sydyn roedd arian diddiwedd ar gael!"

"Mae’r aelodau newydd hyn wedi ychwanegu hwb enfawr i’r mudiad. Mae ein haelodau yn fywiog ac yn angerddol yn eu penderfyniad i adeiladu Cymru newydd sy'n gofalu ar ôl holl drigolion Cymru."

"Mae 2021 yn mynd i fod yn flwyddyn ddiddorol iawn yn hanes Cymru, a dwi’n sicr y bydd YesCymru a’r ymgyrch dros annibyniaeth yn parhau i fynd o nerth i nerth."

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.