Symud ymlaen o'r llywio

Yes Cymru Aberdaugleddau - Pwmpio carthion i ddyfroedd Cymru

Mae rhywbeth yn drewi! Nôl yn Hydref 2021, pleidleisiodd 265 o A.S Toriaidd ar y Mesur Amgylchedd – a basiodd ac a adnbyddir bellach fel Deddf yr Amgylchedd

Cymerodd Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi ran yn y bleidlais. Pleidleisiodd mwyafrif Tŷ’r Arglwyddi o blaid atal carthion heb eu trin rhag cael eu gollwng i’n hafonydd a’n moroedd, dan arweiniad Charles Wellesley. 

Yn Nhŷ’r Cyffredin, pleidleisiodd y rhan fwyaf o A.S.au nad oeddynt yn Dorïaid o blaid atal carthion heb eu trin rhag cael eu gollwng i ddyfroedd Cymru. 

Tra bod mwyafrif o A.S'au Toriaidd wedi pleidleisio o blaid lleihau’r swm o garthion heb eu trin yn ein hafonydd a’n moroedd, ond yn hytrach ochri gyda’r cwmniau dŵr mawr - dim syndod i neb rwy’n siwr - a gwyddom na fydd y gostyngiadau hyn mewn gwirionedd, hyd yn oed os ydynt yn digwydd, yn ddigon i arafu neu atal y difrod a wnaed i’n hafonydd a’n moroedd, mae angen delio â chwestiwn gwastraff amaethyddol a’r difrod a wneir yn sgil hynny gan arferion amaethyddol modern. Ond mae hwn yn gwestiwn hynod o gymhleth: gyda’r twf yn y boblogaeth a’r cynnydd yn y galw am fwyd a chynnyrch, gwyddom y bydd ffermydd yn ehangu o ran maint ac y bydd raid i ffermwyr gynhyrchu mwy i ateb y galw. Yn naturiol, bydd yn anodd i lawer o ffermwyr ffermio mewn ffordd amgylcheddol gyfeillgar.

Nid oes unrhyw amheuaeth fod y rhan fwyaf o afonydd Cymru, os nad pob un, mewn cyflwr gwael, a does dim rhaid chwilio ymhell i ganfod data credadwy ar y pwnc. Mae grwpiau ymgyrchu megis SAS (Surfers Against Sewage)  wedi ymgyrchu’n ddiflino yn erbyn y llywodraeth a’r cwmniau dŵr mawr, law yn llaw â grwpiau pysgota a grwpiau amgylcheddol eraill.

Fel pysgotwr angerddol sy’n malio am yr amgylchedd, digalon iawn yw gweld fod y ddau A.S. sy’n cynrychioli Sir Benfro, y ddau yn gyn-Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, yn pleidleisio o blaid y cwmnïau dŵr mawr, i bob pwrpas yn caniatáu iddynt ddal ati i ollwng carthion heb eu trin i afonydd, moroedd a thraethau Cymru.

Mae ein sir fendigedig yn dibynnu’n helaeth neu’n gyfangwbl (felly y cawn ein perswadio) ar dwristiaeth, ac fel parc cenedlaethol byddech yn disgwyl fod yr A.S a etholwyd i San Steffan i gynrychioli Sir Benfro yn rhoi pwys ar yr amgylchedd a sut i’w warchod. 

O’r deg lle yn y Deyrnas Gyfunol lle gollyngir y swm mwyaf o garthion i’r amgylchedd, mae pump o’r rhain yng Nghymru, yn cynnwys y tri lleoliad uchaf. Credaf y dylai llywodraeth Cymru yn y Senedd dorchi eu llewys a mynd i’r afael â’r mater hwn rhag blaen.  

Pam ddylai penderfyniadau sy’n effeithio ar amgylchedd Cymru a harddwch ein cefn gwlad gael eu gwneud yn Llundain gan bobl heb unrhyw ddiddordeb mewn gwella iechyd amgylcheddol ein gwlad? Mae parciau cenedlaethol Cymru, ein hafonydd a’n traethau ymhlith yr asedau mwyaf gwerthfawr fel cenedl ac mae angen eu coleddu a’u gwarchod. Does dim ots ar ba ochr i’r ffens y sefwch ar fater yr argyfwng hinsawdd, gallwn i gyd gytuno fod yr asedau hyn yn haeddu eu gwarchod doed a ddȇl.

 

Awdur yr erthygl hon yw Jonathan Williams a gyhoeddwyd yn y Pembrokeshire Herald ar y 3ydd o Chwefror yn Saesneg.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.