Mae Cymru yng nghanol argyfwng tai
Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos fod 22,000 o dai gwag tymor-hir yng Nghymru, ac fel rhan o ymgyrch i adfer 2,000 o dai gwag fel cartrefi, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y mis diwethaf Gynllun Cenedlaethol Cartrefi Gwag, lle byddai grant o £25,000 ar gael i berchnogion tai neu berchnogion tai arfaethedig i waredu unrhyw beryglon o bwys yn eu heiddo a’u gwneud yn llefydd diogel i fyw ynddynt ac i wella eu heffeithiolrwydd ynni.
Mae ystadegau eraill yn cadarnhau’r angen am dai, yn enwedig tai fforddiadwy.
Er enghraifft, yn ôl Ystadegau Cymru, yr oedd cyfanswm o 235,557 o unedau tai cymdeithasol yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021, ac mae sawl Awdurdod Lleol ar draws Cymru yn cofnodi nifer fawr o bobl ar restrau aros am dai.
Mor ddiweddar â mis Medi diwethaf, dangosodd cais Rhyddid Gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig fod y bobl sydd ar y rhestrau aros am dai cyngor, hyd at 30ain Mehefin 2022, ar gyfartaledd yn gorfod aros am 21 mis yn Nhorfaen a dwy flynedd a chwech wythnos yng Nghasnewydd.
Dangosodd y data hefyd fod Torfaen wedi gwario £275,012 ar osod teuluoedd mewn llety dros dro yn ystod yr un cyfnod, gan gynnwys llety gwely a brecwast.
Er mai gan Flaenau Gwent a Thorfaen y mae’r raddfa uchod o dai cymdeithasol yng Nghymru, nid yw’r sefyllfa yno yn unigryw.
Ym Mehefin 2022, datgelwyd gan Gyngor Sir Benfro fod 5,545 ar y gofrestr tai ar ddiwedd Mawrth 2022, a’u bod yn dal ati i ehangu eu stoc tai er mwyn mwyn i’r afael â’r prinder tai.
Yn Abertawe, adroddir fod 4,639 ar y gofrestr tai ym Medi 2021, gyda’u chwarter, fe honnir, yn wynebu digartrefedd; ac yn ôl Tai Caerdydd, mae 8,000 o bobl yn aros ar y “Rhestr Aros Gyffredin” gyda 400 o geiswyr newydd bob mis, a dim ond 1,600 o dai Cyngor a Chymdeithasau Tai yn dod ar gael yn y brifddinas bob blwyddyn.
Ar draws Cymru, mae, 8,000 o unigolion mewn llety dros dro a thua 70,000 o deuluoedd ar restrau aros am dai cymdeithasol.
Heb amheuaeth, cafodd Pandemig Coronafeirws 2020-21 effaith andwyol ar y sefyllfa drwy gyfrannu at chwyddo prisiau tai a rhenti drwy gydol 2021 a 2022.
Dangosodd data a ryddhawyd gan Rightmove yr haf diwethaf fod Cymru wedi dioddef yr ail gynnydd uchaf drwy’r D.G. mewn rhenti, sef 15.1% - y codiad blynyddol mwyaf mewn 16 o flynyddoedd. Ac mae tystiolaeth yn awgrymu fod y cynnydd mewn rhenti preifat wedi peri i deuluoedd droi at y sector gyhoeddus am help, a thrwy hynny ddwysáu’r galw am dai cymdeithasol.
At hyn, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif fod angen i ni adeiladu rhwng 6,200 ac 8,300 o dai newydd bob blwyddyn. Yn ystod 2021-22, dim ond 5,273 o’r tai newydd hyn a adeiladwyd.
Ar ben hyn, mae angen cyflwyno mesurau i sicrhau, yn wyneb maint y galw yng Nghymru, fod angen teilwra adeiladu tai ac anghenion tai cymdeithasol i anghenion ein cymunedau, yn enwedig y rhai mwyaf bregus.
Er fod gan Gymru y galluoedd o ran cynllunio a datblygiadau tai, rydym yn brin o’r galluoedd economaidd ac ariannol a fyddai’n ein galluogi i weithredu mewn ffordd fwy radical. Oherwydd fformiwla Barnett, mae’r arian y gallwn ei fuddsoddi i ddiwallu’r angen am dai yng Nghymru wedi ei gyfyngu. Dim ond pan fydd gennym reolaeth lawn ar ein sefydliadau ariannol ac economaidd y gallwn fynd i’r afael o ddifrif â’r cwestiwn hwn. Dim ond trwy annibyniaeth y daw hynny.