Datganiad YesCymru ynglŷn â chyhoeddiad y Brenin newydd y bydd ei fab yn cael ei alw’n Dywysog Cymru.
Yn unol a’n Erthyglau Cymdeithasiad, nid yw YesCymru yn cymryd safbwynt ar y frenhiniaeth a’i rôl gyfansoddiadol o fewn y Deyrnas Unedig nac o fewn Cymru Annibynnol yn y dyfodol. Mater i bobl Cymru fydd penderfynu a ydynt am gadw cysylltiad â Thŷ Windsor, yn union fel y bu i ddwsinau o genhedloedd y Gymanwlad o’n blaenau wrth iddynt adennill eu hannibyniaeth.
Fodd bynnag, fel sefydliad, mae YesCymru yn datgan yn ddiamwys nad yw’n cydnabod bod gan Goron Lloegr hawl gweithredol i osod Tywysog Cymru newydd ar ein cenedl heb ganiatâd.
Mewn democratiaeth fodern dylai pobl Cymru, naill ai’n uniongyrchol neu drwy eu cynrychiolwyr etholedig, gael mewnbwn i benderfyniad symbolaidd o’r fath ynghylch teitl hanesyddol cynhennus.
Ni ddylai fod gan unrhyw unigolyn yr hawl i roi rhywbeth sydd yn ei ddiffiniad yn perthyn i Gymru ac nid i’r Goron heb ofyn i bobl Cymru. Rhaid i arweinwyr, hyd yn oed rhai symbolaidd, gael caniatâd eu pobl.
Hoffai YesCymru hefyd ddatgan yn glir iawn nad oes gennym unrhyw elyniaeth tuag at William na Kate fel unigolion sydd wedi byw a gweithio yng Nghymru ac sydd, ar y cyfan, wedi ennyn parch mawr y rhai sydd wedi eu cyfarfod. Mae YesCymru yn cwestiynu eu hawl i gael eu hadnabod fel Tywysog a Thywysoges Cymru pan nad ydynt wedi cael eu cydnabod yn benodol felly gan benderfyniad ar y cyd gan bobl Cymru.