Symud ymlaen o'r llywio

YesCymru yn Diolch i Phyl Griffiths wrth i Rob Hughes Ddod yn Gadeirydd

 

Phyl Griffiths (chwith) yn sefyll lawr fel Cadeirydd, wrth i Rob Hughes (dde) cael ei ethol i gymryd ei le.

 

Mae Rob Hughes wedi’i ethol yn Gadeirydd YesCymru, yr ymgyrch amhleidiol dros annibyniaeth i Gymru, gan Fwrdd y sefydliad yn dilyn penderfyniad Phyl Griffiths i gamu i lawr oherwydd ymrwymiadau gwaith cynyddol.

Bydd Phyl, a ddaeth yn Gadeirydd yn 2024, yn parhau’n gyfarwyddwr YesCymru. Mae Sam Murphy, cyfarwyddwr dros y De-orllewin, wedi’i ethol yn Is-gadeirydd.

Yn ystod cyfnod Phyl yn y swydd, helpodd i sefydlogi’r sefydliad, ehangu ei weithgareddau a goruchwylio twf sylweddol yn nifer yr aelodau yn 2026.

Dywedodd Cadeirydd newydd YesCymru a chyfarwyddwr dros y De-ddwyrain, Rob Hughes:

“Mae ei natur a’i ffordd o ymwneud â phobl wedi helpu i greu sefydliad cytûn ac unedig. Mae wedi bod yn ffigwr sy’n uno pobl, gan arwain YesCymru ymlaen i’r sefyllfa gref yr ydym ynddi heddiw.

“Bydd colled fawr ar ei ôl fel ein Cadeirydd, ond rydym yn falch iawn y bydd yn parhau yn ei rôl fel cyd-gyfarwyddwr dros y De-ddwyrain. Mae’n ased enfawr wrth i ni symud Cymru tuag at annibyniaeth.”

Diolchodd Phyl Griffiths, y Cadeirydd sy’n ymadael, i aelodau, cefnogwyr a Chorff Llywodraethu Cenedlaethol YesCymru am eu cyfraniad i’r mudiad:

“Pan sefydlais gangen leol YesCymru ym Merthyr Tudful yn ôl yn 2017, doeddwn i ddim am eiliad yn dychmygu y byddwn ar Fwrdd y Cyfarwyddwyr ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, heb sôn am ddod yn Gadeirydd y mudiad rwy’n ei garu gymaint.

“Rwyf wedi teimlo ers tro bod angen meddwl trawsbleidiol ar Gymru os ydym am ddod yn genedl annibynnol, ac yn ystod fy nghyfnod fel Cadeirydd rwyf wedi bod yn hynod falch o waith y Bwrdd wrth sicrhau bod YesCymru yn gartref i bawb sy’n rhannu’r farn honno.

“Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb aelodau a chefnogwyr anhygoel YesCymru, y mae eu hymrwymiad, eu gwaith caled a’u ffydd yn parhau i yrru’r mudiad yn ei flaen. Rwy'n annog pawb sy’n cefnogi annibyniaeth i ymuno â YesCymru ac i orymdeithio gyda ni yn Aberystwyth ar 26 Medi.

“Roedd fy mhenderfyniad i gamu i lawr fel Cadeirydd YesCymru yn un y bûm yn poeni’n fawr amdano dros nifer o wythnosau cyn cyhoeddi fy mwriad i fy nghyd-gyfarwyddwyr ychydig ddyddiau yn ôl.

“Rwyf wedi cael cyfnod anhygoel fel Cadeirydd, gyda chefnogaeth ragorol gan Fwrdd arbennig, ac edrychaf ymlaen at roi fy nghefnogaeth lawn i Rob fel y Cadeirydd newydd.”

Dywedodd Nerys Jenkins, sydd wedi gwasanaethu ochr yn ochr â Phyl ar y Corff Llywodraethu Cenedlaethol:

“Mae wedi bod yn fraint gwasanaethu ochr yn ochr â Phyl ar y Bwrdd ers sawl blwyddyn, ac mae ei ymrwymiad i YesCymru wedi bod yn ddiwyro. Cymerodd rôl y Cadeirydd ar adeg hollbwysig i’r mudiad ac mae wedi gweithio’n ddiflino i ddarparu arweinyddiaeth gadarn a phwyllog.

“Mae ei allu i ddod â phobl ynghyd a gwrando ar safbwyntiau gwahanol wedi bod yn amhrisiadwy.”

Talodd cyn-Gadeirydd YesCymru a chyfarwyddwr presennol rhanbarth Tu Allan i Gymru, Barry Parkin, deyrnged hefyd i Phyl:

“Mae Phyl wedi bod yn ased mawr i YesCymru ac i’r mudiad annibyniaeth yn ehangach. Mae’n areithiwr dawnus ac ysbrydoledig gyda synnwyr digrifwch gwych a gostyngeiddrwydd diymhongar, ac mae’n berson cynnes, caredig a meddylgar.

“Rwy’n falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â Phyl ac yn falch y byddwn yn gallu parhau i gydweithio fel cyfarwyddwyr YesCymru, gan ymdrechu dros Gymru annibynnol.”

DIWEDD

Ymholiadau gan y wasg:

Rob Hughes

[email protected]

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.