Symud ymlaen o'r llywio

Mae YesCymru yn croesawu cynnydd enfawr mewn cefnogaeth i annibyniaeth Cymru

YesCymru welsh independence poll

Mae YesCymru, yr ymgyrch llawr gwlad ar gyfer annibyniaeth Cymru, wedi croesawu ymchwil newydd gan brifysgolion Caerdydd a Chaeredin, sy'n dangos bod 19% o bobl yng Nghymru yn credu y dylai'r wlad fod yn annibynnol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae arolygon wedi awgrymu y gallai cefnogaeth i annibyniaeth fod wedi bod yn is na 10%. Ond mae'r maint sampl mawr, o fwy na dau fil o bobl, yn dangos bod cefnogaeth bellach yn llawer uwch, gyda un o bob pump yn gefnogol.

Meddai Cadeirydd YesCymru, Iestyn ap Rhobert:

"Mae'r arolwg newydd hwn gan brifysgolion uchel eu parch y Russell Group yn dangos faint o gefnogaeth sydd i annibyniaeth Cymru.

"Yn y gorffennol, mae pobl wedi ceisio paentio ein mudiad annibyniaeth fel un ymylol. Ond mae'n amlwg nawr bod annibyniaeth Cymru yn brif ffrwd.

"Mae'n werth cofio, yn Arolwg Agweddau Cymdeithasol yr Alban yn 2012, fod cefnogaeth i annibyniaeth bron ar yr un lefel, sef 23%. Dim ond dwy flynedd yn ddiweddarach roedd yr Alban bron wedi pleidleisio dros annibyniaeth.

"Y gwir syml yw bod angen i ni waredu pwysau marw Westminster yng Nghymru. Mae'r senedd honno ar chwâl ac yn ein dal yn ôl. Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos faint o bobl o Gymru sy'n deall hyn.

"Nid ydym yn cael chwarae teg, ond trwy annibyniaeth gallem fod y wlad sionc, gyfoes a hyderus y mae gan Gymru y potensial i fod. Bellach, rydym yn gwybod beth sydd angen i ni ei wneud yn YesCymru. Mae gennym eisoes gefnogaeth gan un o bob pump. Felly, os bydd pob un o'r rhai yn argyhoeddi dim ond dau o bobl, bydd gennym dri o bob pump a mwyafrif.

"Os ydych chi'n un o'r 19%, byddwn yn gofyn i chi wneud dau beth:

  1. Ymunwch â'n 10,000 ar gyfer ymgyrch annibyniaeth Cymru. Rydym yn gofyn i bawb sydd am weld Cymru annibynnol gymryd yr addewid i bleidleisio "ie" mewn refferendwm yn y dyfodol
  2. Ymunwch â YesCymru i fod yn rhan o ymgyrch ar lawr gwlad am annibyniaeth Cymru

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.