Mae’n anodd credu ond mae 10 mlynedd gyfan ers sefydlu YesCymru.
Ym Medi 2014 daeth y grŵp i fodolaeth, gyda’r nod o ymgyrchu i Gymru gymryd ei lle haeddiannol ar lwyfan y byd fel cenedl rydd ac annibynnol.
Mae'r genhadaeth hon, sy’n parhau i fod yn nod craidd inni, wedi’i gwreiddio yn y gred syml mai’r bobl orau i benderfynu sut y dylid rhedeg Cymru yw ei phobl, ac mae’n seiliedig ar y gred gadarn ein bod yn ddigon mawr, yn ddigon cyfoethog ac yn ddigon deallus i wneud hynny ac i sefyll ar ein traed ein hunain fel cenedl.
Ers blynyddoedd rydym wedi cael ein bwydo â phropaganda a ddywedodd wrthym ein bod yn rhy dlawd i fod yn annibynnol a bod angen yr elît gwleidyddol yn San Steffan i wneud y penderfyniadau drosom.
Mae taclo’r wybodaeth anghywir yma a grewyd gan wladwriaeth Lloegr wedi bod yn holl bwysig yng ngwaith YesCymru dros y degawd diwethaf.
Ac am ddegawd!
Mae llawer iawn wedi digwydd yn y cyfnod cythryblus hwnnw o 10 mlynedd ac mae'r byd bellach yn lle gwahanol iawn!
Brexit
Daeth yr Albanwyr yn agos - trwch blewyn - at ennill eu hannibyniaeth gyda refferendwm 2014.
Rydym wedi cael refferendwm Brexit a aeth â Chymru allan o’r Undeb Ewropeaidd. Yn dilyn hynny trod y pandemig byd-eang y byd wyneb i waered han ein gwahanu oddi wrth ein hanwyliaid.
Mae’n anodd dadlau nad yw wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd i lawer o bobl.
Cafwyd diffyg twf yn yr economi ac os cafwyd unrhyw dwf yn yr economi, nid yw i'w weld yng nghyflog y rhan fwyaf o bobl.
O ganlyniad, mae safonau byw ar gyfer y mwyafrif wedi'u herydu ac mae chwyddiant wedi ei gwneud yn anoddach i bobl gyffredin gael dau ben llinyn ynghyd.
Mae tlodi plant yn beth erchyll, ac mae wedi gwaethygu. Mae tua 30% o blant Cymru yn byw mewn tlodi ar hyn o bryd, gyda 45% o blant 7-11 oed yn poeni am ble y daw eu pryd nesaf.
Ar ben hynny mae gwasanaethau cyhoeddus yn llanast llwyr oherwydd eu bod wedi’u hamddifadu o’r buddsoddiad angenrheidiol. I lawer ohonom, mae'n teimlo bod cyni (austerity) wedi dod yn sefyllfa barhaol, yn norm!
Dros y degawd diwethaf, mae wedi dod yn gwbl amlwg nad yw San Steffan yn gweithio i bobl Cymru. Mae'r system wleidyddol fel y mae ar hyn o bryd wedi eu methu ac wedi gwneud hynny'n druenus.
Oherwydd hyn, nid yw'n syndod bod llawer o bobl wedi eu dadrithio gan wleidyddiaeth.
Anobaith
Ond, ynghanol yr holl dywyllwch, yr anobaith a’r siom, rydym wedi gweld hefyd fod yna obaith a'r penderfyniad y gallem frwydro dros rywbeth gwell, dros Gymru well.
Rydym wedi gweld fflam gobaith yn tanio drwy ein bywydau ac yn lledaenu ymhlith ein cyd-ddinasyddion.
Dros y degawd diwethaf, rydym wedi gweld YesCymru yn dechrau o ddim ond llod llawo freuddwydion i rhyw 100 o aelodau, ac yn tyfu'n fudiad gydag aelodaeth yn y miloedd a grwpiau gweithredol ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.
Mae ein ralïau positif, bywiog, a lliwgar, o Wrecsam i Gaerdydd, o Gaernarfon i Ferthyr, wedi denu miloedd o bobl i orymdeithio dros yr achos.
Pan ffurfiwyd YesCymru roedd Cymru annibynnol yn ymddangos fel breuddwyd bell, gydag un arolwg barn gan ICM Research yn dangos cefnogaeth i annibyniaeth i fod mor isel â 3%.
Mae'r freuddwyd honno bellach yn llawer nes at ddod yn fwy real, nag y bu erioed. Mae'r newid wedi bod yn syfrdanol gyda chefnogaeth i annibyniaeth ein gwlad, fel heol, dros 30%!
Mae’n deg dweud bod YesCymru, fel pob grwb o bobl, wedi profi poenau-tyfu yn y cyfnod hwn, ond dylem ymfalchio yn hyn a gyflawnwyd gan ein haelodau ac yn yr ymgyrchu y mae ein hymgyrchwyr ymroddedig yn ei wneud yn ein cymunedau.
Mae’n hawdd anghofio bod 10 oed yn gymharol ifanc i sefydliad gwleidyddol o’r math hwn!
Mae’r achos dros Gymru annibynnol mor gryf ag y bu erioed. Os rhywbeth, mae wedi cryfhau'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’n amlwg o’r dystiolaeth nad yw setliad gwleidyddol yn sicr. Er bod gennym ein deddfwrfa ein hunain ar ffurf y Senedd, nid yw’r ychdig bŵer sydd o fewn gafael y Senedd yn ddigonol i ddiwallu anghenion a dyheadau ein pobl.
Dylanwad
Nid yw’r Senedd yn rheoli’r mwyafrif helaeth o’n trethi, nid yw'n rheoli cyllid cyhoeddus na’r system les. Nid oes ganddi’r pŵer i lunio’r system gyfiawnder mewn ffordd sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd. Nid oes ganddi ychwaith lawer o ddylanwad ar ein polisi tramor sy'n parhau yn nwrn Llundain.
Nid yw’r pwerau sydd eisoes wedi’u trosglwyddo i’r Senedd yn ddiogel.
Gwelsom sut y mae gwleidyddion Llundain wedi symud hawlio pwerau Cymru ac ystodau o reoleiddiadau pwysig a biliynau o bunnoedd o gyllid drwy Ddeddf y Farchnad Fewnol (Internal Market Act) sydd yn wrth-Senedd ac yn wrth-ddemocrataidd.
Dro ar ôl tro, mae sefydliad San Steffan wedi dangos ei fod yn gwrthwynebu i Gymru gael mwy o rym.
Pan alwodd adroddiad nodedig Comisiwn Thomas yn 2019 ar i Gymru gael pŵer dros gyfiawnder fe’i diystyrwyd yn ddirmygus gan elitiaid Llundain.
Canfu arolwg barn YouGov a gomisiynwyd gan YesCymru y llynedd fod dros 75% o blaid rheoli asedau Ystâd y Goron Cymru, sydd yn werth oddeutu £853m.
Fodd bynnag, mae llywodraethau San Steffan, yn las a choch, yn ystyfnig iawn wedi gwrthod trosglwyddo y rheolaeth o Ystâd y Goron i Gymru, er iddynt wneud hynny yn yr Alban.
Nid yn unig hynny, ond mae’r llywodraeth sydd newydd ei sefydlu dan arweiniad Starmer wedi cryfhau rheolaeth Llundain yn adnoddau Cymru, gyda chyhoeddiad y bartneriaeth rhwng Great British Energy, Llywodraeth y DU ac Ystâd y Goron.
Pwerau
Felly mae gennym frwydr ar ein dwylo i sicrhau bod y Senedd yn cadw'r pwerau sydd ganddi'n barod.
Mae hyn yn cadarnhau bod annibyniaeth yn hollbwysig i sicrhau bod democratiaeth Gymreig yn parhau ac y gwelir o fewn ein cenedl gymunedau sy'n ffynnu ac sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd: tegwch, cydraddoldeb a chyfiawnder.
Er gwaethaf methiant amlwg sefydliad San Steffan ac er gwaethaf y cynnydd aruthrol sydd wedi’i wneud gan ymgyrchwyr o blaid annibyniaeth dros y degawd diwethaf, ni allwn laesu dwylo.
Yn ei 10 mlynedd gyntaf, mae YesCymru wedi llwyddo i danio gobaith am Gymru well. Yn y 10 mlynedd nesaf, ei dasg fydd gweithio tuag at droi’r gobaith hwnnw yn ddyfodol mwy disglair i’n pobl.