Symud ymlaen o'r llywio

Aberystwyth i Gynnal Gorymdaith Annibyniaeth Gyntaf YesCymru yn y Canolbarth

Disgwylir i filoedd o bobl o bob rhan o Gymru ymgynnull yn Aberystwyth erbyn 1pm ar ddydd Sadwrn 26 Medi 2026 wrth i’r dref gynnal Gorymdaith Annibyniaeth gyntaf erioed YesCymru yn y Canolbarth.

Hon fydd yr unfed ar ddeg Gorymdaith dros Annibyniaeth a drefnir gan YesCymru ac AUOBCymru, yn dilyn gorymdeithiau llwyddiannus yng Nghaerdydd, Caernarfon, Merthyr Tudful, Wrecsam, Caerdydd eto, Abertawe, Bangor, Caerfyrddin, Y Barri a'r Rhyl. Ers 2019, mae'r gorymdeithiau hyn wedi denu degau o filoedd o bobl o bob cwr o Gymru ac o bob cefndir i ddod ynghyd i orymdeithio dros annibyniaeth.

Dywedodd un o’r trefnwyr lleol, Siôn Jobbins, ar ran YesCymru Aberystwyth:

“Mae gan Aberystwyth le arbennig yn hanes y mudiad cenedlaethol, felly mae'n gwbl briodol mai yma y cynhelir Gorymdaith Annibyniaeth gyntaf erioed YesCymru yn y canolbarth.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob rhan o Gymru i ymuno â ni ar gyfer gorymdaith gadarnhaol, liwgar a llawn hwyl dros annibyniaeth, a fydd hefyd yn rhoi hwb i fusnesau lleol.

“Cadwch 26 Medi yn rhydd, rhannwch y neges, ac ymunwch â ni yn Aberystwyth. Gellir dod o hyd i’r manylion llawn, gan gynnwys y man ymgynnull, y llwybr, y siaradwyr a'r perfformwyr, yn fuan ar www.yes.cymru/aber.”

Ym 1963, cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith ei phrotest fawr gyntaf ar Bont Trefechan yn Aberystwyth, gan sbarduno ymgyrch a sicrhaodd hawliau newydd i'r Gymraeg ac a gododd ymwybyddiaeth genedlaethol o'r newydd.

Hon hefyd fydd yr Orymdaith gyntaf ers etholiad y Senedd ym mis Mai 2026. Mae 47% o Aelodau etholedig y Senedd bellach yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, y gyfran uchaf erioed o gynrychiolwyr etholedig i gefnogi annibyniaeth yn hanes y Senedd neu'r Cynulliad blaenorol.

Dywedodd Hedd Gwynfor ar ran AUOBCymru:

“Mae'n wych gweld bod bron i hanner Aelodau’r Senedd yn cefnogi annibyniaeth erbyn hyn, ond mae llawer mwy o waith i'w wneud o hyd.

“Nid yw newid gwleidyddol yn digwydd ar ei ben ei hun, ac ni ellir ei adael i wleidyddion yn unig. Rhaid sicrhau bod annibyniaeth yn parhau'n gadarn ar frig yr agenda wleidyddol, trwy barhau i adeiladu'r ymgyrch mewn cymunedau ledled Cymru.

“Mae'r orymdaith hon yn gyfle i bobl o bob rhan o Gymru ac o bob cefndir ddod ynghyd yn Aberystwyth i ddangos bod y galw am newid go iawn, ac am ddyfodol gwell i'n gwlad, yn gryfach nag erioed.”

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy