Fe amcangyfrodd Heddlu De Cymru fod dros 6,000 o bobl wedi gorymdeithio drwy strydoedd y Barri heddiw i alw am annibyniaeth i Gymru.
Trefnwyd yr Orymdaith dros Annibyniaeth, a ddaeth â phobl o bob cwr o’r wlad ynghyd i gyd-sefyll mewn gobaith am ddyfodol gwell, gan YesCymru ac AUOBCymru.
Mudiad sy’n Tyfu
Ers 2019, mae miloedd wedi bod yn rhan o orymdeithiau dros annibyniaeth ledled Cymru – mewn llefydd fel Caernarfon, Merthyr, Wrecsam, Bangor, Abertawe, Caerfyrddin a Chaerdydd – ac mae’r Barri, un o drefi mwyaf Cymru, bellach wedi ymuno â’r daith honno.
Mae gan y Barri le balch yn hanes gwleidyddol Cymru gan i’r dre fod yn allweddol i fudiad Cymru Fydd dros Ymreolaeth i Gymru yn y 1890au. Heddiw, roedd yr orymdaith yn adeiladu ar yr etifeddiaeth honno wrth i genhedlaeth newydd gymryd awenau’r alwad am newid.
Lleisiau dros Annibyniaeth
Yn dilyn yr orymdaith, cynhaliwyd rali ar Sgwâr y Brenin, gan roi llwyfan i siaradwyr o bob cwr o'r sbectrwm gwleidyddol, gan gynnwys cyn-arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, yr ymgyrchydd o Gatalwnia Anna Arqué i Solsona llefarydd Comisiwn Rhyngwladol Dinasyddion Ewrop (ICEC), yr ymgyrchydd ifanc Kiera Marshall, llefarydd Plaid Werdd Cymru Tessa Marshall, y gantores Eädyth Crawford, a’r cynghorydd lleol Mark Hooper fel MC. Cafwyd perfformiad byw gan Emma Winter, sydd wedi serennu ar Y Llais ar S4C.
Am y tro cyntaf mewn Gorymdaith dros Annibyniaeth, merched oedd pob un o'r siaradwyr a'r perfformwyr – heblaw yr MC.
Dywedodd Kiera Marshall:
Sut allwn ni fforddio peidio â bod yn annibynnol? Mae’r system Brydeinig yn ein cadw ni’n dlawd, tra bod ein plant yn llwgu ac yn oer. Ni yw’r genhedlaeth sy’n dioddef fwyaf – ond ni hefyd yw’r genhedlaeth a fydd yn newid pethau. Rwy’n edrych ymlaen i sefyll yma eto, nid mewn protest, ond i ddathlu Cymru rydd a theg.
Dywedodd Leanne Wood:
Mae’n bryd rhoi terfyn ar ein dibyniaeth. Mae gennym gyfle i adeiladu dewis amgen yn lle’r model economaidd aflwyddiannus sy’n llyncu adnoddau ac elw er budd Dinas Llundain a’r corfforaethau mawr, gan adael briwsion i weithwyr a chymunedau Cymru. Yn wyneb anoddefgarwch a chasineb cynyddol, rhaid i’n mudiad gynnig gobaith. Rydym ni’n gwybod y gall ein gwleidyddiaeth a’n gwlad wneud yn well na hyn.
Dywedodd Anna Arqué i Solsona:
Mae mudiadau fel ein rhai ni yn credu mai democratiaeth yw'r llwybr gorau i hunan-benderfyniad llawn, hyd yn oed pan fydd hyn yn gwrthdaro â buddiannau'r gwladwriaethau yr ydym wedi ein dal ynddynt. Dyna pam mae undod ymhlith ein cenhedloedd yn hanfodol, wedi'i wreiddio mewn hawliau dynol ac egwyddorion democrataidd.
Dywedodd Tessa Marshall o Blaid Werdd Cymru:
Allwn ni ddim fforddio parhau i fod ynghlwm wrth y wladwriaeth Brydeinig. Nid oherwydd dewisiadau gwael mae plant mewn tlodi yng Nghymru – ond oherwydd degawdau o danariannu, a phenderfyniadau yn cael eu gwneud yn bell o’n cymunedau ni. Gall Cymru annibynnol sefyll dros blant, sicrhau bod cartrefi'n gynnes ac yn ddiogel, a darparu dechrau teg mewn bywyd.
Dywedodd Eädyth Crawford:
Dwi yma fel rhywun sydd ddim yn wleidyddol iawn, ond dw i’n rhywun sy’n poeni’n fawr am Gymru... I mi, nid mater gwleidyddol yn unig yw annibyniaeth; mae’n ymwneud â hunan-hyder. Mae’n ymwneud ag adeiladu Cymru lle mae pob person – waeth beth fo’u cefndir, eu hil, eu hacen neu ble maen nhw’n byw – yn tyfu i fyny’n gwybod eu bod nhw’n perthyn i gymru.
Cefnogaeth Gynyddol i Annibyniaeth
Daw’r orymdaith hon yn fuan wedi arolwg barn gan Redfield & Wilton ar ran YesCymru a ddangosodd fod 41% o’r rhai sydd wedi penderfynu yn dweud y byddent yn pleidleisio dros annibyniaeth – mae’r ffigur yn cynyddu i 72% ymhlith pobl 25 i 34 oed.
Dywedodd Mark Hooper, cynghorydd lleol ac un o drigolion y Barri:
Mae’r orymdaith a’r rali heddiw yn dangos uchelgais y mudiad annibyniaeth. Tra bod gwleidyddion eraill yn anelu am y safon isaf bosib, mae ein mudiad ni’n ifanc, yn fywiog ac yn llawn gobaith. Mae’r tueddiadau demograffig o’n plaid – ond mae’n rhaid i ni symud yn gyflym.
Dywedodd Cadeirydd YesCymru, Phyl Griffiths:
Mae’r hyn a welsom heddiw yn y Barri yn adlewyrchiad o deimladau ledled Cymru – mae pobl yn barod am newid, ac nid yw annibyniaeth bellach yn syniad ymylol. Mae’n ymateb difrifol a llawn gobaith i system sydd wedi methu.
Mae cefnogaeth yn cynyddu’n ymhlith y genhedlaeth iau yn arbennig, maen nhw wedi cael llond bol o glywed nad yw Cymru’n ddigon mawr, nac yn ddigon cyfoethog. Rydym ni’n gwybod yn well – ac mae’r miloedd a ddaeth i’r Barri heddiw wedi dangos ein bod yn barod i gymryd rheolaeth dros ein dyfodol ein hunain.